Gwnaeth y Gwasanaeth Ynni gefnogi Cyngor Sir Caerfyrddin i osod pympiau gwres mewn chwe ysgol.
Crynodeb
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, sicrhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin £3.8 miliwn drwy Rownd 1 y Grant Gwres Carbon Isel yn 2023 i osod pympiau gwres mewn chwe ysgol. Cefnogodd y Gwasanaeth Ynni y cyngor drwy gydol y prosiect, gan helpu i ddisodli boeleri olew a nwy sydd wedi dyddio a chyflawni uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni ehangach.
Ein cefnogaeth
Rheoli ceisiadau cyllid, cydlynu cyflwyno gydag ysgolion, a darparu arweiniad technegol ar ddylunio systemau gwresogi a mesurau effeithlonrwydd ynni.
Datrysiad technoleg
- 18 o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi'u gosod.
- 13 o gynwysyddion clustogi a chynwysyddion dŵr poeth domestig wedi'u gosod.
- Dros 160 o reiddiaduron wedi'u disodli.
- Gosod inswleiddio atig a wal ceudod.
- Cysylltiadau grid trydan wedi'u huwchraddio.
- Systemau rheoli adeiladau newydd ar gyfer rheoli pwmp gwres.
- Gwydr dwbl wedi'i osod mewn un ysgol.
Buddsoddiad
- £3.8 miliwn o'r Grant Gwres Carbon Isel.
Effaith
- Amcangyfrifir y bydd 29,490 tCO₂e yn cael ei arbed dros oes y prosiect.
- Gwell cysur ac amgylcheddau dysgu i staff a disgyblion.
- Rhoi hwb i'r economi leol trwy ymgysylltu â busnesau lleol i'w gosod.
Diolch i'r Grant Gwres Carbon Isel, rydym wedi cymryd y camau sylweddol cyntaf i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio gwresogi ar draws ein portffolio. Yn dilyn llwyddiant ein gwaith a ariannwyd gan Rownd 1 mewn chwe ysgol gynradd, rydym bellach yn barod i ddechrau cwmpasu cyfnod llawer mwy uchelgeisiol o waith a fydd yn ceisio disodli systemau tanwydd ffosil yn ein safleoedd sy'n defnyddio ynni, fel ein canolfannau hamdden a'n cartrefi gofal.
David Neil Evans, Swyddog Ynni Corfforaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin.
