Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Ar 4 Ebrill, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ynglŷn â’r ymchwil i’r dylanwadau economaidd-gymdeithasol ar gyfranogiad democrataidd yng Nghymru. Deall y rhwystrau rhag ymgysylltu â gwleidyddiaeth ac annog cyfranogiad ehangach yn y broses ddemocrataidd oedd y nod.
Roedd y gwaith o lunio’r adroddiad Ymchwil i Ddylanwadau Economaidd-Gymdeithasol ar Gyfranogiad Democrataidd yng Nghymru yn cynnwys ymgysylltu ag amrediad eang o bobl o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â chynrychiolwyr etholedig, i sicrhau amrywiaeth o safbwyntiau.
Ymhlith y rhwystrau allweddol a nodwyd y mae’r canlynol:
- Diffyg addysg mewn gwleidyddiaeth o oedran cynnar a chyfleoedd cyfyngedig i gyfranogi mewn bywyd dinesig.
- Gweithdrefnau dethol ymgeiswyr nad ydynt yn dryloyw ymhlith y pleidiau a rheoliadau etholiadol cymhleth.
- Mynediad cyfyngedig at rwydweithiau gwleidyddol dylanwadol a chyfyngiadau amser ar gyfleoedd i ymgyrchu.
- Ansicrwydd ariannol, yn enwedig i ymgeiswyr sy’n colli eu seddi.
- Gwahaniaethu a gelyniaethu, sy’n effeithio’n arbennig ar unigolion o gefndiroedd lleiafrifol neu sydd â nodweddion gwarchodedig.
Er nad oedd cynrychiolwyr etholedig yn adrodd am achosion o elyniaethu yn ystod gwaith maes, tynnodd arbenigwyr ac ymarferwyr sylw at y ffaith bod stereoteipiau a rhagfarnau yn parhau i fodoli ymhlith yr etholwyr a detholwyr yr ymgeiswyr o fewn y pleidiau.
Mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn, cynigiodd yr adroddiad 12 o argymhellion, gan gynnwys:
- Ehangu rhaglenni mentora a hyfforddi fel Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal.
- Gwella canllawiau cyhoeddus ar sefyll mewn etholiad.
- Gwella mentrau ymgysylltu dinesig.
- Darparu cymorth ymarferol fel gofal plant, y gallu i fynychu cyfarfodydd o bell, a chymorth ariannol i ymgeiswyr â chyfrifoldebau gofalu.
- Mynd i’r afael â’r rhwystrau o ran diwylliant a’r rhwystrau sy’n seiliedig â chyflogaeth drwy allgymorth a pholisi yr ‘Hawl i Sefyll’.
- Cydnabod bod gwasanaeth fel swyddog etholedig yn sgÌl gwerthfawr sy’n berthnasol ar draws bywyd a gwaith.
- Cynnal adolygiad wedi’i dargedu o gam-drin ymgeiswyr i ddylanwadu ar strategaethau yn y dyfodol ar gyfer mynd i’r afael ag achosion o fygylu ac ymddygiad gelyniaethus mewn gwleidyddiaeth.
Mae nifer o’r argymhellion yn adeiladu ar fentrau presennol, tra bo eraill yn cynnig dulliau newydd o fynd i’r afael â materion a godwyd yn yr adroddiad.
Rwy’n ystyried yn awr sut y gall canlyniad yr adroddiad hwn gael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol.
