Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1: sylwadau rhagarweiniol, cofnodion a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

Eitem 2: Ansawdd yr Amgylchedd Dan Do (IEQ) – lles y gweithle a'r gweithwyr

Cafodd y Fforwm gyflwyniad gan Lywodraeth Cymru am ansawdd yr amgylchedd dan do. Clywodd y Fforwm sut mae'r cynllun cyflawni strategol yn anelu at greu amgylcheddau ffisegol sy'n cefnogi iechyd a lles a sut mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid i gyflawni hyn.

Eitem 3: myfyrdodau gan Brif Swyddog Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol

Clywodd y Fforwm gan Brif Swyddog Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, a bwysleisiodd pwysigrwydd gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â rheoleiddio a gorfodi. Hefyd, trafododd y Fforwm yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu iechyd amgylcheddol a nododd fod lansio'r Brentisiaeth Lefel 4 yn gam cadarnhaol wrth greu llwybr i'r proffesiwn.

Eitem 4: goblygiadau AI ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb yn y gweithle

Cafodd y Fforwm gyflwyniad a amlinellodd y risgiau o ddibynnu gormod ar AI yn y gweithle, mewn meysydd megis recriwtio, lle gall algorithmau arwain at ragfarn a gwahaniaethu. Clywodd y Fforwm bryderon am offer rheoli a yrrir gan AI yn y farchnad lafur a sut y gall y rhain effeithio'n negyddol ar iechyd a lles gweithwyr. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd goruchwyliaeth ddynol a llais gweithwyr yn y ffordd y defnyddir AI. Talodd y Fforwm sylw at waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar ddefnyddio AI yn gyfrifol a chytunwyd i barhau â'r sgwrs.