Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Julia David, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Nia James, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Simon Brindle, Cyfarwyddwr, Caffael Masnachol
  • Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Materion Gwledig (eitem 4)
  • Hannah Wharf, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr (eitem 5)
  • Louise Brown, Pennaeth Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 30 Mehefin 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymweliad â'r Swistir

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod yn falch o fod wedi gallu bod yn y Swistir ddydd Sadwrn i gefnogi'r tîm menywod yn eu gêm gyntaf yn Euro25. Er nad dyma'r canlyniad yr oedd pawb wedi gobeithio amdano, roedd wedi bod yn berfformiad gwych ac fe wnaeth y tîm frwydro'n galed. Dymunwyd pob lwc i'r tîm ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Ffrainc ddydd Mercher, a nodwyd y byddai'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn mynychu'r gêm yn erbyn Lloegr y dydd Sul canlynol.

2.2 Yn anffodus, bu'n rhaid gohirio'r ymweliad arfaethedig â CERN yng Ngenefa oherwydd problemau teithio. Byddai hyn yn cael ei aildrefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

Ymchwiliad COVID-19

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod cam gwrandawiad cyhoeddus Modiwl 6 yn yr Ymchwiliad COVID-19 mewn perthynas â'r sector gofal wedi dechrau'r wythnos ddiwethaf. Byddai tystion o Gymru yn rhoi tystiolaeth dros y pythefnos nesaf, gyda Phrif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymddangos gerbron yr Ymchwiliad y prynhawn hwnnw. Byddai'r cyn Brif Weinidog, Vaughan Gething AS, yn ei fynychu'r wythnos ganlynol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet y Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 5:20pm ddydd Mawrth. Byddai hyn wedyn yn cael ei ddilyn gan Gyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), gyda phleidleisio drwy gydol y sesiwn 120 munud. Byddai'r amser pleidleisio yn cael ei gynnal tua 6:40pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - Diweddariad Llafar

4.1 Rhoddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ddiweddariad llafar i'r Cabinet ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

4.2 Roedd y Cabinet wedi ystyried y papur yr wythnos flaenorol, gan ofyn am nodyn gan swyddogion polisi i roi sylw i'r materion a oedd wedi codi yn ystod y drafodaeth. Roedd hyn wedi'i anfon at Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion y dydd Mawrth blaenorol.

4.3 Ar ôl ystyried sylwadau'r Cabinet a Bord Gron y rhanddeiliaid, y bwriad oedd mynd ymlaen.

4.4 Cytunodd y Cabinet ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy diwygiedig, gan nodi y byddai'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad i'r Senedd ar 15 Gorffennaf.

Eitem 5: Adolygiad o Ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi casgliadau'r adolygiad o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a chytuno i ymateb i'r dystiolaeth mewn ffordd sy'n cefnogi dysgwyr, ac ar yr un pryd cydnabod y materion sy'n ymwneud â chyllid, llwyth gwaith, a dulliau trin i bartneriaid cyflawni.

5.2 Roedd y Ddeddf yn ddarn uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sydd wedi'i chynllunio i sicrhau amddiffyniadau statudol i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed. Sefydlodd fframwaith cyfreithiol unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr rhwng 0 a 25 oed sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy Gynllun Datblygu Unigol. Fe ddisodlodd y system ddeuol o gynlluniau Anghenion Addysgol Arbennig a arweiniwyd gan ysgolion a datganiadau Awdurdodau Lleol, ac ar yr un pryd roedd yn integreiddio systemau cyn-16 ac ôl-16.

5.3 Roedd yn ceisio cryfhau'r trefniadau cydweithredu rhwng Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd; hyrwyddo ymyrraeth gynnar; a sicrhau bod y system yn un deg a dwyieithog sy'n canolbwyntio ar gynhwysiant. Rhagwelwyd y byddai hyn i gyd ar sail cost niwtral, ac ar yr un pryd byddai'n lleihau gwrthdaro yn y system.

5.4 Cadarnhaodd yr adolygiad fod cefnogaeth gref i'r egwyddorion sy'n sail i'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn enwedig y ffocws ar gynhwysiant a chynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd pawb yn gweithio i gefnogi amrywiaeth plant ym mhob ystafell ddosbarth ar draws ystod o leoliadau.

5.5 Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod yna anghysondebau wrth weithredu hyn.

5.6 Er mwyn mynd i'r afael â hynny, roedd angen gweithio gyda phartneriaid gweithredu i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn glir ac yn cael ei chymhwyso mewn modd cyson.

5.7 O ran y camau nesaf, byddai Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei rannu gydag Aelodau'r Senedd o ran hynt yr adolygiad cyn toriad yr haf.

5.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 6: Unrhyw faterion eraill

20 mlynedd ers ymosodiadau 7/7 yn Llundain

6.1 Myfyriodd y Prif Weinidog ar yr ugeinfed flwyddyn ers yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a'r 52 o bobl a gollodd eu bywydau. Roedd meddyliau'r Llywodraeth gyda'r teuluoedd, goroeswyr a phawb yr oedd y diwrnod tyngedfennol hwnnw wedi effeithio arnynt.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2025