Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr haf 2025.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Baromedr Twristiaeth
Casgliadau arweiniol
Blwyddyn gymysg yn parhau
Yn dilyn camau cynharach y baromedr eleni, mae perfformiad y diwydiant yn parhau i fod yn gymysg yn y rhan fwyaf o sectorau.
Ar y cyfan, mae 29% o fusnesau twristiaeth wedi cael rhagor o ymwelwyr yr haf hwn o'i gymharu â'r haf diwethaf, ac mae 45% wedi cael oddeutu'r un lefel. Serch hynny, mae 26% wedi gweld gostyngiad. Nid oes gwahaniaethau sylweddol yn y perfformiad yn ôl rhanbarth.
Tywydd gwell o lawer na haf y llynedd
Haf 2025 (mis Mehefin i fis Awst) oedd yr haf sychaf ar gofnod yn y DU yn ôl y Met Office, gyda lefelau o heulwen yn uwch na’r cyfartaledd a lefelau glaw yn is na'r cyfartaledd.
Mae dros hanner (57%) y busnesau sydd â mwy o gwsmeriaid yr haf hwn yn dweud yn ddigymell mai’r rheswm dros y cynnydd hynny yw’r tywydd, a oedd yn gymysg yn ystod haf y llynedd. Mae 90% o feysydd carafannau a gwersyllfaoedd a 68% o atyniadau yn arbennig yn dweud mai'r tywydd sydd wrth wraidd eu cynnydd mewn busnes.
Ond mae diffyg incwm gwario yn parhau i amharu ar y galw
Mae dau ym mhob pum busnes (40%) sydd wedi gweld llai o gwsmeriaid yn dweud yn ddigymell bod y gostyngiad oherwydd ‘diffyg incwm gwario gan bobl’. Yn sicr dyma’r rheswm sy’n codi fwyaf aml, a hynny uwchlaw ‘polisïau Llywodraeth Cymru’ (22%).
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn gosod pwysigrwydd mawr ar gwsmeriaid sy’n dychwelyd
Wrth ymateb i gyfuniad o ddatganiadau i'w cymell, dywedodd 12% o weithredwyr eu bod ‘yn canolbwyntio’n fawr ar ddenu cwsmeriaid newydd’ a bod hynny’n disgrifio orau eu dull gweithredu tuag at gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid sy’n dychwelyd.
Wedi dweud hynny, mae cyfran llawer uwch (68%) yn cytuno fwy gyda’r datganiad: ‘mae gennym ddiddordeb mewn denu cwsmeriaid newydd, ond mae’n bwysicach annog a chynnal busnes drwy gwsmeriaid sy’n dychwelyd’.
Mae cwsmeriaid sy’n dychwelyd yn hynod werthfawr oherwydd eu bod yn cynnig sefydlogrwydd ac yn haws a llai costus i'w cynnal fel sylfaen gwsmeriaid nag ymdrechu’n gyson i ddenu rhai newydd. Mae nifer o weithredwyr yn mynd i drafferth fawr i annog cwsmeriaid presennol i ddychwelyd.
Hyder i wneud elw
Mae oddeutu un ym mhob pump (21%) o weithredwyr yn dweud eu bod yn ‘hyderus iawn’ ynghylch rhedeg y busnes yn broffidiol eleni, ac mae 31% arall yn dweud eu bod yn ‘weddol hyderus’.
