Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rwy'n credu y dylai pawb - waeth beth fo'u hoedran, eu gallu neu eu lleoliad - gael mynediad at drafnidiaeth ddiogel, ddibynadwy a chynhwysol. Mae hynny'n cynnwys cerdded, olwynio a beicio, yn enwedig i aelwydydd yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at gar. I lawer, nid yw'r gallu i gerdded, olwynio neu feicio yn ddewis ffordd o fyw - mae'n hanfodol. Ochr yn ochr â thrafnidiaeth gyhoeddus, mae cerdded, olwynio a beicio yn cefnogi pobl i fynd i'r gwaith neu'r ysgol, gweld ffrindiau a theulu, galw i'r siopau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Fy mlaenoriaethau ar gyfer cerdded, olwynio a beicio yw:
- sicrhau mynediad diogel a chynhwysol at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig i'r rhai heb geir.
- hyrwyddo cerdded, olwynio a beicio ymhlith pobl ifanc, gan gefnogi mynediad iach at addysg
- gwneud y mwyaf o'r terfynau cyflymder mwy diogel, i leihau'r angen am seilwaith newydd drud.
- gweithio gyda Chyd-bwyllgorau Corfforaethol, ac awdurdodau lleol i ddarparu rhwydweithiau ar y cyd sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau cymunedol
Mae'r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd â Teithio i Bawb, ein dull i'w gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth. Rwyf wedi bod yn glir bod hygyrchedd yn fater o hawliau dynol, gwahaniaethu, a mater iechyd a diogelwch. Dyna pam mae cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant yn allweddol i'r penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ac yn parhau i lywio ein gweithredoedd.
Mae ein hadroddiad Cerdded, Olwynio a Beicio 2024-25, yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw, yn dangos sut rydym yn gweithio gyda chynghorau lleol, y trydydd sector, a chymunedau i wella llwybrau a gwneud teithiau'n haws. Mae hefyd yn cynnwys y data swyddogol diweddaraf ar sut mae pobl yn defnyddio teithio llesol ledled Cymru.
Mae crynodeb o'r cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yng Nghynllun Cyflawni Teithio Llesol 2024 wedi'i gynnwys yn Atodiad yr adroddiad hwn.
Teithio i Bawb:
Trwy ein Cronfa Teithio Llesol, mae 30 o gynlluniau wedi darparu palmentydd isel a phalmentydd cyffyrddol newydd a gwell, gan wneud gwahaniaeth diriaethol ledled Cymru. Roedd pum cynllun yn canolbwyntio ar gael gwared ar neu addasu rhwystrau ffisegol ar y rhwydwaith cerdded, olwynio a beicio. Mae'r manylion hyn yn cael eu hanghofio’n aml ac yn hanfodol i bobl anabl, teuluoedd â chadeiriau gwthio, a llawer o bobl hŷn.
Ym Mangor, rydym wedi cefnogi cam nesaf llwybr Ffordd Penrhos, gan gysylltu'r ysbyty â'r rhwydwaith ehangach. Ychwanegwyd croesfannau sebra newydd, palmant cyffyrddol a chyffyrdd mwy diogel i wneud teithiau bob dydd yn haws ac yn fwy diogel.
Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr nad yw cymunedau gwledig a heb eu gwasanaethu yn cael eu gadael ar ôl. Ar Ynys Môn, mae mynediad i Ysgol Gynradd Llanfairpwll wedi gwella drwy'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Cysylltu cymunedau
Trwy'r Gronfa Teithio Llesol a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, rydym yn cefnogi cynghorau lleol i greu seilwaith mwy diogel, mwy hygyrch sy'n cysylltu cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Er bod cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, mae dylunio a chyflawni cynlluniau yn cael eu harwain gan awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod wedi'u teilwra i anghenion lleol.
Rydym hefyd yn ei gwneud hi'n haws cyfuno cerdded, olwynio a beicio gyda theithiau hirach. Mae gwelliannau mewn gorsafoedd trên yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at blatfformau yn annibynnol ac mae parcio beiciau bellach ar gael mewn 60% o orsafoedd Trafnidiaeth Cymru. Mae'r newidiadau hyn yn helpu pobl i deithio'n fwy cynaliadwy a hyderus.
Cefnogi plant a phobl ifanc
Rydym yn helpu plant i greu arferion iach trwy raglenni cyllido fel WOW Walk to School. Mae'r mentrau hyn yn annog teuluoedd i gerdded, olwynio neu feicio i'r ysgol, ac yn helpu i leihau dibyniaeth ar gar.
Rydyn ni'n buddsoddi mewn addysgu plant am ddiogelwch ar y ffyrdd. Ledled Cymru, derbyniodd dros 15,000 o blant hyfforddiant i gerddwyr a chymerodd mwy na 16,000 ran mewn hyfforddiant beicio.
Mae gwelliannau lleol yn cael effaith fawr hefyd. Yn Sir Gaerfyrddin, uwchraddiwyd y llwybr i Ysgol Gynradd Trimsaran gyda chroesfannau mwy diogel, tawelu traffig a gwell troedffyrdd.
Mae teuluoedd mewn ysgolion ledled Caerdydd bellach yn mwynhau taith i'r ysgol iachach a mwy diogel diolch i gyflwyno Stryd Ysgol - ffordd y tu allan i'r ysgol sydd ar gau i'r rhan fwyaf o draffig yn ystod amseroedd gollwng a chasglu. Mae Stryd Ysgol Rhodfa Lawrenny Avenue, a ariennir drwy'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, yn helpu i leihau tagfeydd a llygredd ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd, ac mae ysgolion ledled Caerdydd bellach yn mabwysiadu'r un dull gweithredu.
Trwy gyfuno uwchraddio seilwaith â rhaglenni newid ymddygiad, rydym yn helpu plant i deithio'n ddiogel ac yn hyderus wrth gefnogi nodau ehangach ym maes addysg, iechyd a gweithredu dros yr hinsawdd.
Dyma rai o'r camau niferus rydyn ni'n eu cymryd i sicrhau bod cerdded, olwynio a beicio yn fwy hygyrch, mwy diogel a chroesawgar i bawb. Rwy'n falch o'r cynlluniau rydyn ni eisoes wedi'u cyflwyno ledled Cymru, ond mae mwy i'w wneud ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn fy nyraniad o bron i £50 miliwn i awdurdodau lleol i gyflawni mwy o gynlluniau yn 2025- 26.
O 2026-27 ymlaen bydd ein Cronfa Drafnidiaeth Ranbarthol newydd yn ddull allweddol ar gyfer gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer cerdded, olwynio a beicio ac rwy'n cael fy annog gan y pwyslais a roddir i'r dulliau teithio hynny yn y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol Rwy'n ymrwymedig i adeiladu system drafnidiaeth sy'n cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru
- yn ddiogel, yn gynaliadwy, ac er budd pawb.
Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma. https://www.llyw.cymru/adroddiad-blynyddol-cerdded- olwyno-beicio-2024-i-2025
