Cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 22 Mai 2024
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 22 Mai 2024.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig
Agor y cyfarfod
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies a chymdeithion y bwrdd. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedwyr o ACC yn bresennol.
- Wedi'i olygu
Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol (Chwefror 2024) yn gofnod cywir o drafodaethau. Yna cytunwyd ar y cofnodion a'r cofnodion wedi'u golygu.
Adroddiadau
Adroddiad ar berfformiad
Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu
- Wedi'i olygu
- Cafodd y broblem ynghylch diffyg lle swyddfa wrth i niferoedd staff gynyddu ei grybwyll. Mae'r ACC yn trafod gwella ein lleoliad gyda Llywodraeth Cymru.
- Soniwyd am y gweithgor hybrid, a nodwyd bod y rhan fwyaf o staff yn fodlon â'r trefniadau hyblygrwydd presennol, ond bod angen cynyddol i gael rhesymau busnes dros weithio hybrid.
Adroddiad Trysorlys Cymru
Adroddiad SDLG
- Dywedwyd bod dilysu aml-ffactor (MFA) wedi'i gyflwyno'n llawn, a hynny o dan y gyllideb ac ar amser. Bu rhywfaint o bryder gynt am sut y byddai cwsmeriaid yn ymateb i MFA, ond ni wireddwyd y pryderon hyn. Er bod ymarferion "gwersi a ddysgwyd" yn ddefnyddiol â phrosiectau o'r fath, dywedwyd y dylid ystyried y dogfennau hyn ar ddechrau prosiectau hefyd, er mwyn helpu i lywio'r dull yn y dyfodol.
- Roedd SDLG wedi cynnal proses drylwyr i sefydlu eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn. Heblaw am y paratoadau ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr a’r gwaith seilwaith hanfodol, ni fydd llawer o adnoddau ar gael i weithio ar unrhyw beth y tu hwnt i un neu ddau o flaenoriaethau. Roedd y Bwrdd yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu, ond holodd a fyddai gohirio rhai prosiectau yn peri risg yn y dyfodol. Nodwyd bod popeth y mae’n “rhaid ei wneud” wedi’i gynnwys ar y rhestr flaenoriaeth bresennol, ac roedd ACC wedi rhoi rhywfaint o adnoddau o'r neilltu yn fwriadol i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd i ddelio â materion a allai godi yn ystod y flwyddyn.
- Bydd blaenoriaethau SDLG a rhai TA yn cael eu rhannu fel erthygl fewnrwyd i sicrhau bod staff yn cael eu cynnwys ar daith y gwasanaethau ac yn gwybod am ddyraniad y grwpiau blaenoriaeth busnes.
Adroddiad Cyllid ac ARAC
- Cydnabuwyd bod angen cryfhau'r cynlluniau ariannol tymor canolig. Er bod gwaith cynllunio o’r fath yn cael ei wneud ar hyn o bryd, mae angen mwy o waith i ddiweddaru cynlluniau’n barhaus er mwyn gallu eu darparu'n haws. Power BI fydd y dangosfwrdd cyllid, felly bydd modd edrych arno’n syth a gweld yr wybodaeth fel ag yr oedd ar ddiwedd y diwrnod gwaith blaenorol, a bydd mwy o bobl yn gallu cael mynediad ato.
- Nodwyd mai crynodeb byr o bwyntiau bwled a roddir i’r Bwrdd, tra bo adroddiad manwl ar gyllid yn cael ei gyflwyno ym mhob cyfarfod ARAC. Roedd yn bwysig sicrhau mai’r pwyntiau iawn a godir bob tro.
- Roedd yn gadarnhaol bod gan TA fecanweithiau ar waith i nodi materion gwariant ac adnoddau mewn ffordd fwy effeithiol.
- Wedi'i olygu
- Roedd adroddiad yr ARAC wedi cael ei rannu a thybiwyd bod yr aelodau wedi’i ddarllen. Teimlwyd bod yr holiadur rheoli mewnol (ICQ) wedi dilyn proses drylwyr a oedd yn procio’r meddwl, roedd y perfformiad cyffredinol yn dda, ond roedd rhai meysydd wedi'u sgorio'n is, ond roedd hynny i’w ddisgwyl oherwydd trosiant uchel staff.
Rhanddeiliaid ACC
Trafodaeth y Bwrdd
Diweddariad y cynllun corfforaethol a'r camau nesaf
- Wedi'i olygu
- Wedi'i olygu
- Ynghyd â datblygu'r cynllun corfforaethol, nodwyd y bydd ACC hefyd yn dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Safonau'r Gymraeg dros y flwyddyn nesaf, a byddwn hefyd yn adnewyddu ein Hamcanion Cydraddoldeb. Bydd yn bwysig bod ein hamcanion strategol ar draws pob un o'r meysydd hyn yn cyd-fynd a’i gilydd ac yn cysylltu â'i gilydd.
- Wedi'i olygu
- Roedd y diwrnod cwrdd i ffwrdd nesaf ar gyfer yr holl staff wedi’i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf, a byddai'n canolbwyntio ar y cynllun corfforaethol nesaf a'r blaenoriaethau strategol cysylltiedig. Roedd y tîm ar y cyd yn datblygu’r agenda ar gyfer y dydd, gan sicrhau amser a lle priodol i drafod taith y gweithiwr, cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac i fyfyrio. Byddai diwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd yn dilyn.
- Fel arfer, caiff y cynllun corfforaethol ei gyhoeddi yn Ebrill neu Fai. Byddai angen cyhoeddi'r amcanion lles, o dan Fil Cenedlaethau'r Dyfodol, erbyn diwedd mis Mawrth 2025. Byddai angen digon o amser ar gyfer drafftio, prawfddarllen, a chyfieithu. Roedd yn bwysig nodi y byddai angen i'r cynllun corfforaethol fod ar lefel uchel, gan y byddai'r gwaith hwn yn cwmpasu’r cyfnod cyn-etholiad, a allai newid cyd-destun ac amcanion.
Cau cyfarfod y Bwrdd
- Soniodd yr aelodau am drafodaethau'r dydd, a oedd ag ystyriaethau risg eang, gan gynnwys lefelau derbyniol o achosion, effaith y dull ysgogi (nudge approach), a thwf y sefydliad.
- Roedd ACC yn ymgysylltu'n effeithlon â rhanddeiliaid a byddai’n parhau i gynllunio i wneud hynny.
- Byddai angen cynllun ariannol hyblyg i sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu bodloni mewn cyfnod o adnoddau cyfyngedig.
- Byddai'r cyfarfodydd nesaf yn rhai ARAC a Sgwrs y Bwrdd ar 19 Mehefin 2024. Roedd diwrnod cwrdd i ffwrdd strategaeth haf y Bwrdd wedi'i roi yn y dyddiadur ar gyfer 16–17 Gorffennaf 2024.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.
