Gyda chanllawiau technegol a chymorth gan y Gwasanaeth Ynni, ehangodd Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Ddyfi ei gapasiti gydag aráe solar newydd.
Crynodeb
Mae Bro Dyfi Community Renewables (BDCR) yn gymdeithas fudd cymunedol sy'n cynhyrchu ac yn cyflenwi ynni adnewyddadwy ym Machynlleth. Ar ôl dros ddegawd o weithrediad tyrbin gwynt llwyddiannus, yn 2021 i 2022 ehangodd BDCR ei gapasiti gydag arae solar 300kW newydd. Mae'r dull hybrid hwn yn helpu i elwa i’r eithaf ar ddefnydd y grid ac yn dangos sut i integreiddio gwynt a solar ar safleoedd sydd wedi'u cyfyngu i'r grid. Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi gwytnwch cymunedol ehangach trwy ail-fuddsoddi elw mewn mentrau lleol.
Ein cefnogaeth
Rhoddodd y Gwasanaeth Ynni arweiniad technegol i BDCR a £250,000 mewn cyllid grant a benthyciad cyfunol. Roedd y gefnogaeth yn cynnwys cymorth gyda cheisiadau Benthyciad y Gronfa Ynni Leol a Grant Ynni Lleol i Fanc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru. Galluogodd y cyllid hwn osod arae solar a helpodd i wneud y mwyaf o effaith gymunedol y prosiect.
Datrysiad technoleg
- Dau dyrbin gwynt presennol.
- Gosod arae solar 300kW.
- Model cynhyrchu hybrid i gydbwyso allbwn gwynt a solar.
- Optimeiddio defnydd o'r cysylltiad grid presennol.
- Cynlluniau ar gyfer cyflenwi ynni adnewyddadwy gwifren uniongyrchol i'r Ganolfan Technoleg Amgen.
Buddsoddiad
- £250,000 mewn cyllid grant a benthyciad gan y Gwasanaeth Ynni, Llywodraeth Cymru, a Banc Datblygu Cymru.
Effaith
- Amcangyfrifir bod 280 MWh o ynni adnewyddadwy ychwanegol yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn.
- Arbed tua 845 tunnell o CO₂ dros oes y prosiect.
- Creu swyddi lleol dros dro a rhan-amser yn ystod y gwaith o ddylunio, adeiladu a gweithredu’r prosiect.
- Gwarged ariannol wedi'i ail-fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol lleol, gan gynnwys
- Grantiau ar gyfer effeithlonrwydd ynni ac addysg hinsawdd drwy Gronfa Ynni Cymunedol Dyfi
- Cefnogaeth i drigolion agored i niwed drwy wasanaethau gwirfoddol CAMAD
- Gweithgareddau lles ar-lein i frwydro yn erbyn ynysu trwy Heart Mind Body Support
- Darparu Chromebooks i ddisgyblion Ysgol Bro Hyddgen
- Dosbarthu bwyd yn wythnosol am ddim trwy Food Justice for All.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y Gwasanaeth Ynni am ein helpu i archwilio ehangu ein capasiti cynhyrchu ynni. Fel sefydliad sy'n canolbwyntio ar y gymuned, rydym yn gweld yn uniongyrchol y manteision y gall prosiectau fel ein un ni eu darparu i bobl leol. Bydd y capasiti ychwanegol yn ein helpu i gynhyrchu mwy o bŵer a rhoi mwy o'n helw tuag at gefnogi grwpiau cymunedol sy'n helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Pwyllgor Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi.
