Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni, mae Cyngor Caerdydd yn trosglwyddo i fflyd gwbl drydan erbyn 2030.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Mae Cyngor Caerdydd yn trosglwyddo i fflyd gwbl drydan erbyn 2030. Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, yn 2022 i 2023 cynhaliodd y cyngor adolygiad o'r fflyd a sicrhau cyllid grant i ehangu ei fflyd cerbydau trydan (EV) a'i seilwaith gwefru. Helpodd y llwyddiant cynnar hwn i lywio cyflwyno grantiau ehangach i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Ein cefnogaeth

Adolygiad Fflyd, cyngor strategol, a chymorth grant i sicrhau cyllid gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar gyfer cerbydau trydan a seilwaith gwefru.

Datrysiad technoleg

  • Yn 2022 i 2023, 81 o gerbydau trydan ar waith.
  • 23 EV a 10 pwynt gwefru a ariannwyd drwy grant o £300,000 i'r Gwasanaeth Ynni.
  • 81 x 7 kW o bwyntiau gwefru ac 1 x 50 kW DC gwefrydd cyflym wedi'u gosod ar draws yr awdurdod.

Buddsoddiad

  • £300,000 o gyllid grant gan y Gwasanaeth Ynni drwy CLlLC.

Effaith

  • Mae Caerdydd ar y trywydd iawn i drosglwyddo i fflyd gwbl drydan erbyn 2030.
  • Gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â'r fflyd.
  • Gwell ansawdd aer ac arbedion cost gweithredol.
  • Mae cyllid seilwaith wedi galluogi eu defnyddio yn gynyddol bob yn dipyn ledled y ddinas.

Mae'r cyllid hyd yma wedi bod yn allweddol i Gaerdydd ddechrau ar ei thaith i fflyd carbon isel; hebddo, ni fyddem wedi symud ymlaen i'n sefyllfa bresennol. Mae'r cyllid seilwaith cronnus a gefnogir gan y Gwasanaeth Ynni wedi ein helpu i weithredu 81 x 7kW o bwyntiau gwefru ac 1 x gwefrydd cyflym DC 50kW  ar draws yr awdurdod.

Richard Jones, Rheolwr Fflyd, Cyngor Caerdydd.