Neidio i'r prif gynnwy

Mae newidiadau ar y ffordd i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd ac yn methu taliadau’r dreth gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae newidiadau ar y ffordd i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd ac yn methu taliadau’r dreth gyngor. Bydd yn rhoi rhagor o amser i awdurdodau lleol feithrin cysylltiadau â phobl i atal sefyllfaoedd lle y gallai dyled gynyddu’n gyflym. 

Bydd rheolau cliriach hefyd ar gyfer nodiadau atgoffa a hysbysiadau terfynol.

Fel rhan o’r newid, pan fydd y rheolau newydd yn dod i rym fis Ebrill nesaf, bydd gan gartrefi yng Nghymru 63 diwrnod i fynd i’r afael â thaliadau’r dreth gyngor a fethwyd cyn y bydd yn bosibl i gamau gorfodi gael eu cymryd.

Ar hyn o bryd, o dan ddeddfwriaeth sydd wedi dyddio, mae colli taliad y dreth gyngor yn golygu y gall pobl ddod yn atebol am dalu’r bil blynyddol yn llawn os na fyddant yn talu o fewn saith diwrnod o dderbyn nodyn atgoffa. Nid yw’r rheol hon yn gyson â’r agwedd dosturiol y mae cynghorau yng Nghymru eisoes yn ei dangos wrth gefnogi cartrefi.

Bydd y newidiadau hyn yn rhoi rhagor o amser – amser sy’n gwbl hanfodol – i deuluoedd gael cymorth. Ar yr un pryd, byddant yn sicrhau bod cynghorau yn gallu parhau i weithredu yn erbyn y rheini sy’n osgoi talu’n fwriadol. Bydd yn darparu system dreth gyngor decach gan barhau i gasglu cyllid yn effeithiol hefyd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Mae’r newidiadau hyn yn dod yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd yr ymgynghoriad hwnnw dros 250 o ymatebion gan awdurdodau lleol, sefydliadau cynghori ac aelodau o’r cyhoedd. 

Roedd y mwyafrif sylweddol o’r rhai a wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn cefnogi ymestyn isafswm y cyfnod o fethu â thalu un rhandaliad i ddod yn atebol am dalu’r balans blynyddol sy’n weddill i 62 diwrnod. Roeddent hefyd yn cefnogi newidiadau eraill sy’n canolbwyntio ar atal a meithrin cysylltiadau gwell.

Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Rydyn ni’n cefnogi cynghorau i atal cynnydd cyflym yn nyled y dreth gyngor. Rydyn ni’n rhoi mwy o amser i gartrefi adfer y sefyllfa yn dilyn anawsterau annisgwyl, i weld a ydyn nhw’n gymwys am gymorth, ac i ddod nôl ar y trywydd iawn. Dylai unrhyw un sy’n ei chael yn anodd talu’r dreth gyngor gysylltu â’u cyngor cyn gynted â phosibl, neu ddefnyddio’r gwasanaethau cynghori rhad ac am ddim sydd ar gael drwy wasanaeth Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi Llywodraeth Cymru.”