Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Ebrill, cyhoeddais aelodaeth y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth.  Cafodd y Grŵp ei sefydlu mewn ymateb i argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.  Ymrwymais hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am ddatblygiadau yn y maes hwn.

Gwnaeth y Comisiwn dynnu sylw at yr angen i gryfhau democratiaeth Cymru drwy wella dealltwriaeth y cyhoedd o brosesau democrataidd a chreu cyfleoedd mwy cynhwysol i alluogi pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.  Mae’r Grŵp wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ers mis Mai ac wedi cytuno ar raglen waith,  sydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Mae rhaglen waith y Grŵp hwn yn amlinellu dull strategol a chydweithredol ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hyn.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar dri uchelgais craidd:

  1. Grymuso dinasyddion drwy addysg a gwybodaeth ddemocrataidd
    Bydd y Grŵp yn archwilio ffyrdd o sicrhau bod gan bawb yng Nghymru — yn arbennig pobl ifanc a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol — yr wybodaeth, yr hyder a’r cyfleoedd i gymryd rhan ystyrlon mewn bywyd democrataidd.
  2. Cryfhau diwylliant gwleidyddol ar gyfer cymryd rhan a thrafod
    Gan gydnabod bod rhaid estyn y ffordd y mae dinasyddion yn cymryd rhan mewn democratiaeth y tu hwnt i etholiadau, bydd y Grŵp yn asesu sut i feithrin diwylliant o gyfranogiad yn sefydliadau gwleidyddol Cymru.
  3. Gosod Sylfeini ar gyfer Egwyddorion Cyfansoddiadol
    Bydd y Grŵp yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o ddatblygu proses gyfranogol ar gyfer nodi set a rennir o egwyddorion a gwerthoedd cyfansoddiadol i Gymru.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â’n hymrwymiadau ehangach yn ymwneud â chydraddoldeb, cyfranogiad a llesiant cenedlaethau’r dyfodol a bydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth, y sector addysg, y gymdeithas sifil a thu hwnt.

Edrychaf ymlaen at weld y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth yn trosi’r rhaglen hon yn gamau gweithredu ymarferol a fydd yn helpu i adeiladu democratiaeth gryfach a mwy cynhwysol i Gymru.