Neidio i'r prif gynnwy

Mae pum ffilm a wnaed yng Nghymru wedi cael llwyddiant rhyfeddol mewn gwyliau ffilm rhyngwladol eleni, gan dystio i enw da cynyddol Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer ffilmio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y ffilm Brides, sy'n adrodd hanes am dyfu'n hŷn a gyd-gynhyrchwyd gan ieie Productions o Gaerdydd, yn agor yn sinemâu'r DU heddiw yn dilyn clod yn ystod gŵyl Sundance, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto Next Wave, FilmFest München a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin. Dewiswyd y ffilm, sy'n adrodd stori dau berson yn eu harddegau sydd wedi cael llond bol ar eu bywydau cythryblus yn y DU ac sy'n gadael ar daith sy'n newid eu bywydau i ffin Syria, hefyd ar gyfer arddangosfa fawreddog 'GREAT 8' y BFI a'r Cyngor Prydeinig ym Marchnad Cannes 2024.

Dangoswyd y ffilm The Man in My Basement, gyda Willem Dafoe a Corey Hawkins yn serennu, am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto 2025 ar ôl cael ei ffilmio ar draws lleoliadau yn Ne Cymru gan gynnwys Caerdydd, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Rhyddhawyd yr addasiad o nofel Walter Mosley yn sinemâu'r DU yr wythnos diwethaf a bydd ar gael i'w ffrydio o heddiw ymlaen.

Drwy gynhyrchu'r ddwy ffilm yng Nghymru sicrhawyd o leiaf 130 o swyddi yma a 14 lleoliad hyfforddeion/cysgodol.

Mae Madfabulous yn ffilm Gymreig arall sydd wedi cael ei dewis ar gyfer y BFI a'r Cyngor Prydeinig 'GREAT 8' ac fe'i cynhwyswyd ar restr 2025 ym Marchnad Cannes. Gyda Callum Scott Howells yn serennu ac wedi'i ffilmio'n gyfan gwbl yng Ngogledd Cymru, mae'n adrodd hanes Henry Paget, Pumed Marcwis mawreddog a lliwgar Ynys Môn.

Wrth edrych ymlaen at Ŵyl Ffilm Llundain ym mis Hydref, bydd dau gynhyrchiad Cymreig arall yn cael cryn sylw. Cafodd H is for Hawk, gyda Claire Foy a Brendan Gleeson, ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Telluride 2025 yn yr Unol Daleithiau, ac mae'n adrodd stori wir bywyd Helen MacDonald, gan ddangos y berthynas rhwng menyw a gwalch yn dilyn marwolaeth ei thad. Cafodd ei ffilmio yng Nghaerdydd, ac fe ariannwyd y cynhyrchiad gan Cymru Greadigol.

Bydd Anemone hefyd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Llundain. Mae'r ffilm yn archwilio'r perthnasoedd cymhleth rhwng tadau a meibion, gyda Daniel Day-Lewis a Samantha Morton yn serennu. Cynhyrchydd y ffilm yw Brad Pitt. Wedi'i ffilmio yn Stiwdios Aria ar Ynys Môn ac ar draws Gogledd Cymru, dyma gynnig cyntaf Ronan Day-Lewis fel cyfarwyddwr, ac ef a gyd-ysgrifennodd y sgript gyda'i dad.

Derbyniodd bedwar o'r cynyrchiadau hyn gyllid gan Cymru Greadigol drwy gronfa ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales, sy'n buddsoddi mewn awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr a anwyd yng Nghymru neu sy'n byw yng Nghymru. Cafodd y pumed, Anemone, ei ffilmio yn stiwdios Aria ar Ynys Môn, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

Mae'r holl lwyddiannau diweddar mewn gwyliau ffilm ar gyfer ffilmiau a saethwyd yng Nghymru yn tystio 'n henw da fel cyrchfan ffilmio flaenllaw a doniau ein diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn ffrwyth ein dull rhagweithiol o gefnogi'r sector a'n hymrwymiad i feithrin a datblygu sgiliau a doniau.

Dywedodd Catryn Ramasut o ieie Productions, cyd-gynhyrchydd Brides:

Mae't gronfa ffilmiau nodwedd ar y cyd rhwng Ffilm Cymru Wales a Cymru Greadigol wedi bod yn hanfodol wrth gyflwyno Brides i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Mae'r gefnogaeth hon yn cydnabod bod gwerth ffilm yn ymestyn ymhell y tu hwnt i enillion economaidd - mae'n ymwneud ag arwyddocâd diwylliannol a phŵer adrodd straeon i drawsnewid meddylfryd pobl, i feithrin empathi a derbyniad ar draws ffiniau. Mae llwyddiant Brides mewn gwyliau ffilm fel Sundance a Chaeredin yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi mewn menywod o Gymru yn adrodd straeon a all newid sut mae cynulleidfaoedd yn gweld y byd.

Dywedodd John Giwa-Amu o Good Gate Media, cyd-gynhyrchydd The Man in my Basement:

Roedd y gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru yn allweddol wrth ddod â The Man in my Basement yn fyw. Roeddem yn cystadlu yn erbyn lleoliadau eraill yn y DU, ar gyfandir Ewrop a'r Unol Daleithiau, ac ymrwymiad ariannol Cymru Greadigol yw'r hyn a sicrhaodd bod y ffilm wedi'i chynhyrchu yng Nghymru, gan ddenu miliynau o wariant gan Disney/Andscape yng Nghymru yn y pen draw. Yn ogystal, darparodd y prosiect hwn hyfforddiant ymarferol amhrisiadwy i grŵp gwych o hyfforddeion newydd - llawer ohonynt yn cael eu blas cyntaf ar gynhyrchu ffilmiau nodwedd. Rydyn ni'n hynod falch o fod wedi chwarae rhan yn hynny ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi'i chael.