Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd y mwyafrif helaeth o fferyllfeydd ledled Cymru yn rhoi triniaeth ar gyfer haint cyffredin yn rhad ac am ddim a heb apwyntiad na phresgripsiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

O fis Hydref ymlaen, bydd naw deg naw y cant o fferyllfeydd cymunedol yn trin heintiau’r llwybr wrinol yn rhan o’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.

Gall fferyllwyr asesu symptomau heintiau’r llwybr wrinol a rhoi cyngor a thriniaeth briodol lle bo angen, gan alluogi pobl i gael gofal cyfrinachol gan y GIG yn rhad ac am ddim a heb apwyntiad meddyg teulu.

Dyma’r datblygiad diweddaraf o ran y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin ac mae’n dilyn rhoi ar waith y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf arobryn ym mis Mehefin.

Mae’n manteisio i’r eithaf ar sgiliau ac arbenigedd fferyllwyr, gan wella mynediad at ofal hanfodol y GIG ar gyfer 28 o gyflyrau cyffredin wrth inni agosáu at y gaeaf.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cyflawnodd fferyllfeydd yng Nghymru bron i hanner miliwn o ymgyngoriadau’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

Mae fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal iechyd ar draws Cymru.

Rwy’n falch iawn bod y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, sydd ar gael mewn cymaint o fferyllfeydd ledled Cymru, bellach yn cynnwys trin heintiau’r llwybrau wrinol, ochr yn ochr â’n gwasanaeth dolur gwddf llwyddiannus.

Mae hyn o ganlyniad i gydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae’r rhaglenni hyn yn rhan o’n hymrwymiad i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gofal mwy cyfleus yn agosach at eu cartrefi. Mae gwella’r ffyrdd o fanteisio ar y gwasanaethau hyn yn golygu bod hyd yn oed mwy o bobl yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.