Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfraddau presenoldeb ysgolion uwchradd wedi gwella. Yn gyffredinol, mae absenoldeb wedi gostwng o 12.0% i 10.9% ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos cynnydd o ran mynd i'r afael ag absenoldeb cyson, ac mae canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd sy'n colli mwy na 10% o'r sesiynau wedi gostwng o 37.1% i 33.0% rhwng 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Mae codi lefelau presenoldeb mewn ysgolion yn ymrwymiad allweddol. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar fentrau i wella'r ymgysylltu, gan adeiladu ar yr arferion da sydd eisoes i'w gweld mewn ysgolion, a pharhau â'n gwaith i ganolbwyntio ar bresenoldeb drwy grwpiau ffocws i ddysgwyr.

Y llynedd, cyhoeddwyd cyllid ychwanegol i helpu i gefnogi presenoldeb ac ailymgysylltu â'r ysgol. Mae £7m arall ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys £2m i ysgolion i ddarparu cyfleoedd cyfoethogi ychwanegol i'w dysgwyr a £3m ychwanegol ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd.  Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a theuluoedd i fynd i'r afael â'r hyn sy'n rhwystro dysgwyr rhag mynd i'r ysgol, ac yn darparu cymorth penodol iawn i ganfod achosion sylfaenol absenoldeb a helpu teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau ac adnoddau priodol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Dw i'n ddiolchgar i weld y gwelliannau hyn yn lefelau presenoldeb ysgolion ledled Cymru. Maen nhw'n adlewyrchu gwaith ac ymroddiad gan ysgolion, swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, a'r teuluoedd eu hunain i fynd i'r afael â'r heriau. 

Rydyn ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, ond mae gwaith i'w wneud o hyd. Fe fyddwn ni'n parhau i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal plant rhag mynychu'r ysgol yn rheolaidd, i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo.