Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Safonau Marchnata Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 gerbron y Senedd.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (CE) 543/2008 i gael gwared ar y rhanddirymiad 12 wythnos presennol sy'n berthnasol i farchnata cig dofednod maes.

O dan y rheoliadau cyfredol, os yw Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yn gweithredu mesurau tai gorfodol, yna gellir marchnata cig dofednod maes a'i werthu am hyd at 12 wythnos heb newidiadau i labeli ar y cynhyrchion neu'r pecynnu. Ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben, ni ellir marchnata unrhyw ddofednod a gynhyrchir o dan y label 'maes'.

Bydd y rheoliad diwygio yn dileu'r amseroedd presennol i ganiatáu i gig dofednod barhau i gael ei farchnata o dal y label maes am unrhyw gyfnod o orfodi cadw dofednod o dan do. Mae'r mesurau hyn, a weithredir i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid, yn cael eu gosod o dan arweiniad y Prif Swyddog Milfeddygol. Bydd y newid hwn yn sicrhau bod cynhyrchwyr dofednod Cymru mewn sefyllfa fasnachu gyfartal â'u cymheiriaid yn y DU a'r UE wrth gydymffurfio â mesurau i orfodi cadw dofednod o dan do.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Rheoliadau ym mis Hydref.