Lynne Neagle, Ysgrifenedig y Cabinet dros Addysg
Wrth i'r flwyddyn ysgol newydd ddechrau, rwy'n falch iawn o gadarnhau ein bod wedi adnewyddu ein trwydded genedlaethol Microsoft 365, gan alluogi pob dysgwr ac athro yng Nghymru i gael mynediad cyfartal at wasanaethau digidol hanfodol.
Mae hyn yn newyddion gwych i ddysgwyr, ysgolion a theuluoedd ledled Cymru.
Mae adnewyddu'r drwydded yn ymwneud â llawer mwy na gwasanaethau digidol, mae'n ymwneud hefyd â rhoi'r un cyfle i bob dysgwr ffynnu. Rydym yn gwybod bod mynediad at wasanaethau digidol dwyieithog yn helpu i leihau'r bwlch cyrhaeddiad, yn cefnogi dysgu annibynnol ac yn gwella'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo.
Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddarparu mynediad i wasanaethau Microsoft 365 i bob ysgol a gynhelir yn ôl yn 2019. Mae cadw'r drwydded genedlaethol yn dangos fy ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant digidol, tra'n helpu i leihau'r gwasgedd ariannol ar ysgolion a'u galluogi i wneud y mwyaf o fanteision technoleg ddigidol mewn addysg.
Gall dysgwyr ac athrawon ddefnyddio'r un gwasanaethau Microsoft 365 adref, a hynny am ddim. Mae dros 122,000 o ddysgwyr ac athrawon ledled Cymru yn elwa o'r mynediad hwn, gan arbed £84.99 i deuluoedd ar gyfer trwydded Microsoft 365 bersonol.
Dydy ein cefnogaeth ddim yn stopio yma.
Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddarparu mynediad i bob ysgol a gynhelir i ystod o wasanaethau ac adnoddau digidol dwyieithog drwy blatfform Hwb.
Mae'r rhaglen Hwb yn sicrhau bod gan bob ysgol, dysgwr ac athro yn cael mynediad at y dechnoleg sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Mae £12 miliwn ychwanegol eleni wedi galluogi ysgolion i brynu dros 37,000 gliniadur, gan godi nifer y gliniaduron a dyfeisiau eraill i dros 300,000 ers 2019.
Rwy'n falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod y sylfeini a osodwyd ar gyfer rhaglen Hwb yn helpu i ysbrydoli ein hathrawon a'n dysgwyr i greu diwylliant dysgu sy’n ymgorffori dulliau dysgu digidol.
Trwy gael gwared ar rwystrau i dechnoleg, gallwn ni i gyd helpu ein dysgwyr i dyfu i fod yn ddefnyddwyr hyderus, creadigol a beirniadol o wasanaethau digidol, sy'n barod i ffynnu mewn cymdeithas ddigidol fyd-eang.
