Cyfarfod Panel Cynghori Targedau Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru: 1 Gorffennaf 2025
Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y Panel Cynghori ar Dargedau Bioamrywiaeth ar 1 Gorffennaf 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y Panel Cynghori ar Dargedau Bioamrywiaeth ar 1 Gorffennaf 2025 gydag Alice Teague, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth yn cadeirio. Roedd y cyfnod ymgeisio wedi dod i ben ar gyfer rôl Cadeirydd y Panel Cynghori ar Dargedau Bioamrywiaeth, ac roedd ceisiadau'n cael eu prosesu. Diolchwyd i'r rhai a oedd wedi gwirfoddoli i eistedd ar y panel sifftio. Byddai'r cyfweliadau yn cael eu cynnal ddiwedd y mis.
Cyflwyniad ar y bil
Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar gynnydd y bil.
Datblygiad targed tybiannol: pynciau targed a metrigau
Rhoddodd Swyddogion Llywodraeth Cymru drosolwg o'r gwaith gosod targed sydd wedi'i wneud hyd yn hyn. Rhaid i Weinidogion Cymru osod o leiaf un targed o dan bob maes blaenoriaeth a restrir ar y Bil. Fe wnaeth y Panel ychwanegu at y meysydd blaenoriaeth hyn yn ystod cyfarfod BTAP02 mis Mawrth.
Rhaid i dargedau gyfrannu tuag at atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth trwy gyfrannu at o leiaf un o'r canlynol: i) cynyddu niferoedd rhywogaethau, ii) cynyddu amrywiaeth genetig, neu iii) gwella gwytnwch ecosystemau.
Cam nesaf y gwaith o greu targedau oedd datblygu pynciau targed o dan bob maes blaenoriaeth. Ysgrifennwyd papurau tystiolaeth ar gyfer pob maes blaenoriaeth a chynhaliwyd gweithdai gyda Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru. Cafwyd tystiolaeth o nifer o ffynonellau ac fe'i dosbarthwyd cyn y cyfarfod. Gan ddefnyddio'r papurau tystiolaeth ac allbynnau'r gweithdai a gynhaliwyd gydag arbenigwyr polisi CNC a Llywodraeth Cymru, cafodd pynciau targed a'u metrigau cysylltiedig eu gosod ar restr fer ar gyfer pob maes blaenoriaeth.
Gofynnwyd i'r Panel adolygu'r pynciau targed ac ystyried y meini prawf ar gyfer datblygu pellach.
Datblygu dangosydd
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) drosolwg o'r pecyn gwaith ar gyfer datblygu dangosydd a gynhaliwyd hyd yma. Maent yn cynnal dadansoddiad o fylchau dangosyddion i benderfynu pa ddangosyddion sy'n bodoli ar gyfer y pynciau targed. Cyflwynwyd allbynnau cychwynnol ar gyfer y maes blaenoriaeth rhywogaethau a'r pynciau targed.
Modelu senarios a diweddariad ar y dangosyddion
Rhoddodd JNCC ddiweddariad ar y pecyn gwaith modelu senarios. Mae angen tystiolaeth i bennu pa lefel i osod targedau a'r cynllun yw defnyddio senarios a modelau i ragweld sut y gallai targedau newid: byddai senarios yn dangos newidiadau amgylcheddol posibl o dan ragdybiaethau gwahanol am bolisïau, dewisiadau cymdeithasol, technoleg ac ati. Byddai'r modelau yn rhagweld pa effaith y gallai'r newidiadau amgylcheddol hyn eu cael.
Cefnogodd y panel y pecynnau gwaith sy'n cael eu cynnig a'u dilyn.
Dangosydd gwydnwch ecosystemau rheoli tir cynaliadwy
Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru drosolwg o'r gwaith monitro a gwerthuso rheoli tir yn gynaliadwy. Mae Rhaglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i ddatblygu cynigion ar gyfer dangosyddion rheoli tir yn gynaliadwy a dull o osod targedau o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Disgwylir yr adroddiad terfynol ar y fframwaith dangosyddion erbyn 30 Medi 2025.
Roedd grŵp arbenigwyr technegol a gweithdy rhanddeiliaid wedi helpu i nodi dangosyddion priodol. Cynlluniwyd digwyddiadau gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol dros yr haf i fireinio a chadarnhau'r dangosyddion, a fydd yn ei dro yn llywio'r fframwaith monitro a gwerthuso Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn yr hydref.
