Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gontract gyda Barratt Redrow i ddarparu'r datblygiad tai carbon sero net mwyaf yn y DU. Credir hefyd ei fod yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
Bydd 576 o gartrefi newydd yn cael eu darparu ar y safle, a elwir yn Fferm Cosmeston ym Mro Morgannwg, a fydd yn cyflawni carbon sero net trwy waith dylunio a thechnolegau arloesol.
Mae datblygiadau tai sero net yn anelu at greu cartrefi sy'n cynhyrchu cymaint o ynni ag y maent yn eu defnyddio, gan leihau allyriadau carbon yn sylweddol a hyrwyddo cynaliadwyedd.
Penodwyd Prifysgol Caerdydd i asesu a dilysu data'n annibynnol er mwyn monitro perfformiad di-garbon y cartrefi.
Bydd 50% o'r cartrefi yn fforddiadwy, gyda 219 ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys ysgol gynradd newydd, man agored a llwybr teithio llesol, gan greu cymuned gynaliadwy gynhwysfawr.
Ar ymweliad diweddar â'r safle, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
Mae'r datblygiad nodedig hwn yn gosod safon newydd ar gyfer tai cynaliadwy nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt.
Nid yw hyn yn ymwneud ag adeiladu cartrefi yn unig - mae'n ymwneud â chreu cymunedau ffyniannus a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol. Mae ein polisi sero net yn sbarduno buddsoddiad gwirioneddol a newid gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru.
Mae'r cytundeb gyda Barratt Redrow yn newid sylweddol sy'n dangos yr hyn sy'n bosibl pan fyddwn yn rhoi pobl a'n planed yn gyntaf, ac rwy'n arbennig o falch o'u hymrwymiad i ddarparu hyfforddiant a phrentisiaethau, gan helpu i adeiladu sgiliau a gyrfaoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Dywedodd David Thomas, Prif Weithredwr Barratt Redrow:
Fel un o'r adeiladwyr tai mwyaf blaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu'r gymuned newydd sero net fwyaf yn y DU.
Bydd yn ddatblygiad enghreifftiol ac yn lle gwych i fyw, gyda chyfleusterau cymunedol gwych, ymrwymiad cryf i dai fforddiadwy, a rhinweddau cynaliadwyedd arloesol. Bydd pob cartref hynod effeithlon o ran ynni yn cael ei wresogi gan bwmp gwres o'r ddaear a'i bweru gan baneli a batris ffotofoltaidd, gan dorri carbon a biliau i breswylwyr y dyfodol.
Cafodd y gwerthiant ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru gan ymgynghoriaeth eiddo rhyngwladol Savills. Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Caerdydd ar gyfer Savills, Scott Caldwell:
Credir mai'r ymrwymiad hwn gan Barratt Redrow, yr adeiladwr tai PLC mwyaf yn y DU, yw'r cyntaf o'i fath ar y raddfa hon yn y DU.
Mae'n fuddsoddiad sylweddol ac yn harneisio llu o arbenigedd a gwybodaeth yn y diwydiant i helpu i ddangos sut y gellir rhoi safonau cyflawni ar waith ar raddfa fawr i gefnogi taith Llywodraeth Cymru tuag at sero net.
Disgwylir i'r hyn a ddysgir o daith Cosmeston helpu i lywio sut y gall gwaith datblygu gyflawni yn unol â safonau amgylcheddol llymach yn y dyfodol.
