Gwybodaeth sy’n cynnwys manylion am bwy all wneud cais am y grant a faint y gallech ei hawlio.
Defnyddiwch hyn ar y cyd â Nodiadau Canllaw y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.
Pryd y gellir cyflwyno ceisiadau?
Rhaglen dreigl yw Grant y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, felly gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw bryd ac nid oes dyddiad cau.
Pwy sy'n gallu gwneud cais am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol?
Rhaid i geisiadau fod wedi'u harwain gan y gymuned; gall unrhyw grŵp cymunedol a gyfansoddwyd megis cwmni buddiannau cymunedol, elusen neu fenter gymdeithasol wneud cais. Disgwylir i ymgeiswyr weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Beth yw lleiafswm/uchafswm y grant sydd ar gael?
Mae grantiau ar gael ar ddwy lefel; o dan £25,000 gyda lleiafswm o £5,000, a hyd at £300,000 gyda lleiafswm o £25,001.
Oes modd imi wneud cais am fwy nag un grant?
Gall sefydliadau wneud cais am fwy nag un grant Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol (a hyd at uchafswm o dri) o fewn tair blynedd. Ni fydd unrhyw sefydliad yn cael mwy na £300,000 mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd.
Pa fathau o brosiectau y gellir eu cyllido?
Cynllun grant cyfalaf yw'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Rhaid i grantiau gael eu defnyddio er mwyn prynu cyfleusterau cymunedol a/neu dalu am welliannau iddynt. Ni ellir defnyddio'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol i dalu costau refeniw megis cyflogau neu gostau gweithredu eraill.
A fydd angen arian cyfatebol arnaf? Os felly, oes isafswm y bydd angen imi ei sicrhau?
Bydd angen sicrhau arian cyfatebol ar gyfer eich prosiect. Nid oes isafswm penodol, ond bydd prosiectau sydd wedi sicrhau arian cyfatebol neu wedi gwneud cais amdano yn cael sgôr uwch yn yr asesiad.
Faint o amser y bydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais?
Ein nod yw gwneud penderfyniad ar ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer ceisiadau am grantiau dros £25,000 o fewn 30 diwrnod gwaith, ac ar geisiadau am grantiau llai na £25,000 o fewn 60 diwrnod gwaith. Gall hyn newid ar sail nifer y ceisiadau sy'n dod i law. Yn gyffredinol, bydd y gwaith ar y ceisiadau'n mynd rhagddo cyn gynted â phosibl ar ôl inni gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i brosesu'r cais.
Oes modd imi wneud cais arall os na fydd fy nghais yn llwyddiannus?
Oes, gallwch gyflwyno hyd at dri chais ar gyfer prosiectau tebyg. Os caiff eich cais ei wrthod deirgwaith, ni fyddwch yn gymwys i gyflwyno cais arall ar gyfer y prosiect hwnnw.
Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â ni yn: communityfacilitiesproghelp@llyw.cymru.
Neu drwy ffonio:
- Mike O’Shea: 0300 0628612
- Lois Hughes: 0300 0625311 (siaradwr Cymraeg)
- James Maddaford: 0300 025 5800
- Charlotte Page-Scoot: 0300 025 4959
- Lisa Clarridge: 0300 0628307
