Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhyddhau data misol ar gleifion allanol offthalmoleg newydd a dilynol. Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).

Ar ddiwedd Awst 2025

162,541 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 162,494 ohonynt.

Roedd 49.5% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Yn ystod mis Awst 2025

Cafodd 20,688 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 18,807 ohonynt.

Roedd 63.4% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099