Lluosyddion gwahaniaethol ardrethi annomestig: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig ar effaith y cynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig (ardrethi busnes).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei wneud a pham?
Y cefndir
Mae ardrethi annomestig yn darparu dros £1.1 biliwn y flwyddyn tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan lywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r lluosydd yn un o benderfynyddion allweddol y biliau ardrethi annomestig y mae’n ofynnol i dalwyr ardrethi eu talu. Caiff atebolrwydd ardrethi annomestig, cyn i unrhyw ryddhad gael ei gymhwyso, ei gyfrifo drwy gymryd gwerth ardrethol yr eiddo, fel y’i pennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n asiantaeth annibynnol, a’i luosi â’r lluosydd a bennir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, un lluosydd ardrethi annomestig sy’n gymwys i bob hereditament (uned o eiddo ag asesiad ardrethu) yng Nghymru. Cyflwynodd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 bwerau newydd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhagnodi lluosyddion gwahaniaethol yn seiliedig ar werth ardrethol eiddo ar restr ardrethu leol neu restr ardrethu ganolog, disgrifiad (sy’n adlewyrchu mathau eang) o eiddo ar restr leol, neu leoliad eiddo ar restr leol.
Mae gwahanol systemau o luosyddion yn bodoli mewn mannau eraill yn y DU. Yn Lloegr, mae lluosydd is yn gymwys i eiddo bach (sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000) ac mae pob eiddo arall yn ddarostyngedig i’r lluosydd safonol. O 2026-27 ymlaen, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno lluosyddion is pellach ar gyfer eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch a lluosydd uwch ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol o £500,000 ac yn uwch. Yn yr Alban, mae un o dri lluosydd yn gymwys yn seiliedig ar werth ardrethol eiddo, ar ffurf cyfradd sylfaenol (hyd at £51,000), cyfradd ganolraddol (£51,001 i £100,000), a chyfradd uwch (dros 100,000). Yng Ngogledd Iwerddon, caiff lluosyddion eu gosod yn lleol, ond caiff cyfradd ganolog ei chydategu gan gyfradd a bennir yn ardal pob cyngor dosbarth.
Y cynnig
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno lluosydd is ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig. Mae’r polisi hwn yn cydnabod yr heriau unigryw sy’n wynebu siopau manwerthu ‘brics a mortar’, yn arbennig gan eu bod yn destun cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein. Bwriad lluosydd is fyddai helpu i ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig o blaid siopau manwerthu, ac i gynnal hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y sector. Mae gweledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu a chynllun gweithredu manwerthu Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod sector manwerthu cryf yn rhan annatod o strydoedd mawr a chanol trefi bywiog a chynaliadwy.
Byddai’r lluosydd manwerthu is yn gymwys i eiddo sydd â gwerthoedd ardrethol o dan £51,000 ac sy’n cael eu nodi fel siopau, ciosgau, fferyllfeydd neu swyddfeydd post yn ôl eu disgrifiad ar restr ardrethu leol. Mae hyn yn cynnwys bron 95% o’r holl siopau, ond mae’n hepgor yn fwriadol siopau mawr, siopau adrannol, hyperfarchnadoedd ac archfarchnadoedd. Bydd tua 13,000 o eiddo (yn ogystal â’r 50,000 o eiddo a feddiannir gan fusnesau bach ledled Cymru sydd eisoes yn denu rhyddhad llawn) yn elwa ar luosydd manwerthu is.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried cyflwyno lluosydd uwch ar gyfer eiddo gwerth uchel, er mwyn gwrthbwyso’r refeniw a fyddai’n cael ei golli drwy’r lluosydd manwerthu is. Byddai lluosydd uwch yn codi swm cymedrol o refeniw ychwanegol o’r eiddo mwyaf (yn ôl gwerth) yn y sylfaen drethu. Byddai hyn yn sicrhau y gellid pennu’r lluosydd safonol, sy’n gymwys i bob eiddo nad oedd yn ddarostyngedig i’r lluosyddion manwerthu neu uwch, ar y lefel isaf bosibl (gan hefyd sicrhau nad oes unrhyw newid i swm cyffredinol y refeniw ardrethi annomestig).
Byddai lluosydd uwch yn gymwys i eiddo sydd â gwerth ardrethol o fwy na £100,000. Cyn belled â phosibl, ni fyddai’n gymwys i fathau penodol o eiddo a feddiannir gan gyrff y sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill a gaiff eu cynnal i raddau helaeth gan fodelau cyllid cyhoeddus. Byddai’r mathau canlynol o eiddo yn cael eu heithrio o luosydd uwch yn seiliedig ar eu disgrifiad ar restr ardrethu leol: ysbytai, meddygfeydd, canolfannau iechyd, ysgolion, colegau, prifysgolion, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden, mynwentydd, amlosgfeydd, gorsafoedd tân, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd heddlu, carchardai, llysoedd a sefydliadau amddiffyn ategol. Byddai’r lluosydd uwch yn gymwys i ryw 3,200 o eiddo (2.5% o’r holl eiddo yn y sylfaen drethu).
Ymgynghori
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored ynghylch y cynnig rhwng 20 Mai a 12 Awst 2025. Mae canfyddiadau’r ymgynghoriad wedi’u defnyddio i lywio’r asesiad o’r effeithiau a’r casgliadau cysylltiedig.
Adran 8: casgliad
Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored i geisio barn am y polisi rhwng 20 Mai a 12 Awst 2025. Rhoddwyd gwybod i randdeiliaid perthnasol am yr ymgynghoriad. Daeth 172 o ymatebion i law gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, unigolion, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr sectorau, cyrff proffesiynol, asiantiaid ardrethu ac academyddion. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar 7 Hydref 2025.
Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr o blaid cynigion yr ymgynghoriad, gyda lefel arbennig o uchel o gefnogaeth ar gyfer lluosydd manwerthu is. Nododd rhai rhanddeiliaid eu bod yn ffafrio lluosydd is a fyddai’n gymwys i sectorau eraill o’r economi ac roedd eraill yn bryderus am y posibilrwydd o gymhwyso lluosydd uwch a lefel y lluosydd hwnnw.
Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol?
Prif effaith gadarnhaol y polisi fydd llai o rwymedigaethau ardrethi annomestig ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig, yn unol â’r bwriad i ailgydbwyso’r system. Mae hyn yn debygol o arwain at arbedion sylweddol i fanwerthwyr cymwys, a allai helpu i leihau pwysau yn sgil gorbenion ariannol, cwrdd â chostau eraill a galluogi iddynt fuddsoddi yn eu busnesau, gan gynnal hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y sector.
Prif effaith negyddol y polisi fydd rhwymedigaethau ardrethi annomestig sydd ychydig yn uwch nag y byddent fel arall ar gyfer eiddo sy’n ddarostyngedig i’r lluosydd uwch. Rhagwelir y byddai atodiad ymylol ar y lluosydd uwch yn ddigonol i gynnal lluosydd manwerthu sylweddol is.
Bydd effeithiau’r polisi ar rwymedigaethau ardrethi annomestig yn gymesur â gwerthoedd ardrethol eiddo unigol ac yn dibynnu ar y lefelau y gosodir lluosyddion gwahaniaethol arnynt, o gymharu â’r lluosydd safonol. Caiff hyn ei bennu yn rhan o broses gosod cyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae’n bosibl y bydd effeithiau economaidd cadarnhaol anuniongyrchol ehangach i’r polisi. Bydd cynnal sector manwerthu hyfyw yn helpu i gynnal yr economïau lleol a’r cyfleoedd cyflogaeth y mae’n eu cefnogi. Byddai disgwyl hefyd i sectorau eraill o economi’r stryd fawr elwa yn anuniongyrchol, a hynny drwy’r hwb a gâi ei roi i nifer yr ymwelwyr gan y sector manwerthu.
Mae’n bosibl hefyd y bydd effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol ar gyfer rhai ardaloedd a phobl difreintiedig, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan allgáu digidol, sy’n arbennig o ddibynnol ar fynediad i siopau lleol. Yng Nghymru, nid yw 7% o oedolion ar-lein, sy’n uwch na chyfartaledd y DU ac yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau (pobl hŷn, pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl â chyrhaeddiad addysgol is ac anfantais economaidd-gymdeithasol, cymunedau gwledig a phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf).
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant
yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Bydd y bwriad polisi a’r effeithiau a ragwelir yn hyrwyddo rhai o’r nodau llesiant i Gymru a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn benodol, bydd cynorthwyo sector manwerthu cryf, sy’n rhan annatod o stryd fawr a chanol trefi bywiog a chynaliadwy, yn cyfrannu tuag at y nod llesiant sef Cymru ffyniannus. Bydd y manteision anuniongyrchol posibl i ardaloedd a phobl difreintiedig, drwy sicrhau mynediad parhaus at siopau lleol, hefyd yn cyfrannu at y nodau llesiant yn ymwneud â Chymru fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus.
Mae dyluniad y lluosydd uwch wedi ystyried cyfansoddiad y rhan berthnasol o’r sylfaen drethu. Bydd eithriadau rhag cymhwyso lluosydd uwch yn sicrhau, cyn belled â phosibl, na fydd yn gymwys i eiddo a feddiannir gan gyrff y sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill a gaiff eu cynnal i raddau helaeth gan fodelau cyllid cyhoeddus. Bwriad hyn yw lliniaru unrhyw effaith negyddol ar rwymedigaethau ardrethi annomestig i’r talwyr ardrethi hynny. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol anfwriadol o ran y polisi sy’n golygu y byddai angen ymgymryd â gweithgareddau lliniaru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y byddai cydbwysedd i’w daro o ran pennu’r lluosyddion gwahaniaethol, yn arbennig mewn perthynas â’r goblygiadau ar gyfer lefelau’r lluosydd safonol a’r lluosydd uwch (i gynnal yr un refeniw ardrethi annomestig cyffredinol). Bydd lefelau’r holl luosyddion ar gyfer 2026 i 2027 yn cael eu pennu tua diwedd 2025, pan fydd yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i lywio’r penderfyniadau hynny.
Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?
Bydd data ar ardrethi annomestig yn parhau i gael ei ddarparu bob blwyddyn gan awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro nifer yr eiddo sy’n ddarostyngedig i naill ai’r lluosydd manwerthu is neu’r lluosydd uwch, yn ogystal â’u cyfraniad at refeniw ardrethi annomestig cyffredinol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio’r gwaith o gynnal lluosyddion gwahaniaethol, a hynny yn rhan o osod yr holl luosyddion bob blwyddyn.
Ni fydd yn bosibl ynysu effaith y polisi hwn o’r gweithgareddau a nodir yng nghynllun gweithredu manwerthu Llywodraeth Cymru a ffactorau economaidd ehangach. Mae’r cynllun gweithredu manwerthu yn cyfeirio at ystod o ffynonellau data a fydd yn llywio ein dealltwriaeth o iechyd cyffredinol y sector.
