Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod, a mathau eraill o niwed yn faes ymarfer sy’n datblygu’n barhaus. Er mwyn sicrhau bod ein systemau yn parhau i fod yn effeithiol, yn ymatebol, ac yn canolbwyntio ar gyflawni’r canlyniadau gorau i bobl Cymru, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ac yn parhau i fod yn addas i’r diben.
Yn unol â’r ymrwymiad hwn, rydym yn cynnal adolygiad o’r gweithdrefnau atebolrwydd a llywodraethiant cyfredol ar gyfer diogelu yng Nghymru.
Bydd yr adolygiad hwn yn ymdrin â’r canlynol:
- Rolau a chyfrifoldebau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol;
- Y rhyngwyneb rhwng y cyrff hyn a’r Arolygiaethau;
- Effeithiolrwydd cyffredinol y trefniadau hyn o ran amddiffyn pobl rhag niwed;
- Argymhellion i gryfhau ymhellach llywodraethiant gweithdrefnau diogelu yng Nghymru.
Byddaf yn cael yr adroddiad terfynol yn y gwanwyn yn 2026. Mae’r adolygiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gweithdrefnau diogelu yng Nghymru yn gadarn, yn ymatebol, ac yn canolbwyntio ar ddiogelu’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf.
