Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. 

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth  gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Dechreuodd Cam 2 y rhaglen ehangu ym mis Ebrill 2023 ac roedd yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed yn ystod 2023-24 a 2024-25. Mae'r datganiad ystadegol hwn yn adrodd ar wahân ar y plant o dan Gam 2 rhaglen ehangu Dechrau'n Deg sy'n cael cynnig elfen gofal plant, ac sy'n manteisio arni.

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Cynhelir casgliadau data ar wahân gan awdurdodau lleol i fonitro elfen gofal plant Dechrau'n Deg yn unig i fonitro cynnydd y gwaith ehangu. 

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i’r ddarpariaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ac yn yr adroddiad ansawdd.

Drwy gydol y datganiad hwn, mae’r term ‘blwyddyn’ yn cyfeirio at y flwyddyn ariannol ac yn cyfeirio at fis Ebrill hyd at fis Mawrth. Pan na fo hyn yn wir, mae’r misoedd wedi’u nodi.

Prif bwyntiau

Yn 2024-25

  • Gwelwyd rhywfaint o ostyngiad yn nifer y plant a gafodd gysylltiad â rhaglen iechyd Dechrau'n Deg ers y flwyddyn flaenorol ond roedd yn uwch na'r nifer disgwyliedig.
  • Mae nifer y cysylltiadau gan staff Dechrau'n Deg ar y cyfan wedi gostwng ers cyrraedd uchafswm yn tua 2014-15 ond maent wedi aros yn sefydlog yn ystod blynyddoedd diweddar.
  • Cafodd pob plentyn 2.9 o gysylltiadau gan ymwelwyr iechyd ar gyfartaledd, y nifer isaf a gofnodwyd
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg, a hefyd yn nifer staff FTE y tîm iechyd ehangach a grwpiau eraill o staff.
  • Roedd canran uwch o blant cymwys i gael darpariaeth Dechrau'n Deg yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol na'r ganran o blant o leiafrifoedd ethnig ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru.
  • Cafodd gofal plant Dechrau'n Deg ei gynnig i deuluoedd bron pob plentyn cymwys mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, ac fe gafodd y cynnig ei dderbyn ar gyfer bron i nawr o bob deg plentyn cymwys.
  • Fel rhan o Gam 2 rhaglen ehangu Dechrau'n Deg, cynigiwyd 6,528 o leoedd gofal plant ychwanegol.

Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg

Yn dilyn cam 1 y rhaglen ehangu ar draws holl elfennau'r rhaglen Dechrau'n Deg yn ystod 2023-24, cynyddodd nifer y plant y disgwylir iddynt gael gwasanaethau Dechrau'n Deg i 38,500. Yn 2024-25 arhosodd y nifer disgwyliedig ar 38,500.

Ffigur 1: nifer y plant a oedd yn cael gwasanaethau Dechrau’n Deg, 2014 i 2015 i 2024 i 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod nifer y plant sydd yn elwa yn uwch na'r niferoedd disgwyliedig ym mhob blwyddyn o'r rhaglen tan 2020-21 ac wedi aros yn is na’r disgwyl tan 2023-24.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer y plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg a’r ganran o blant ar lwyth achosion ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Cynyddodd y niferoedd disgwyliedig yn 2023-24 yn dilyn ehangu'r rhaglen Dechrau'n Deg.

[Nodyn 2] Newidiodd y diffiniad o blant sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2023-24 gyda phob plentyn unigol sy'n cael cysylltiad drwy raglen iechyd Dechrau'n Deg yn cael ei gyfrif fel plentyn sy'n cael gwasanaethau Dechrau'n Deg. Mae hyn ni waeth p’un a wneir y cysylltiad drwy ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg neu drwy aelod o dîm awdurdod lleol neu dîm iechyd ehangach Dechrau'n Deg. Yn flaenorol, dim ond nifer y plant a oedd wedi cael cysylltiad ag ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg oedd yn cael eu cyfrif.

[Nodyn 3] Nid yw echelin Y yn dechrau ar sero.

Yn 2024-25, roedd 40,943 o blant wedi cael gwasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys cael cysylltiad gan ymwelydd iechyd. Roedd hyn 6.3% yn uwch na'r nifer disgwyliedig.

Mae nifer y plant y mae awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau iddynt yn cael ei alw’n llwyth achosion. Mae nifer y plant a’r ganran o’r boblogaeth plant yn llwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn amrywio yn ôl ardal awdurdod lleol ac mae’r tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod yn dangos hyn. 

Roedd 44.9% o blant o dan 4 oed ym Mlaenau Gwent ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg (yr uchaf), o gymharu ag 18.0% yn Sir Fynwy (yr isaf). 

Gan fod y cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau Dechrau'n Deg yn seiliedig ar ardaloedd, effeithir ar nifer y plant sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg gan nifer y plant o dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ym mhob blwyddyn. Mae newidiadau i ddemograffeg poblogaeth yn effeithio ar hyn yn ei dro. Mae nifer y plant 0 i 4 oed wedi gostwng rhwng 0.6% a 3.2% pob blwyddyn ers 2012. 

Gan y gall blant symud i ardaloedd Dechrau’n Deg neu ohonynt yn ystod y flwyddyn, efallai na fydd cyfanswm nifer y plant y cyfrifir eu bod yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn derbyn y gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn gyfan.

Gweithgarwch y rhaglen Dechrau'n Deg

Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn galluogi plant i gael gwasanaethau gan ystod o weithwyr proffesiynol gwahanol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd; gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn ehangach fel deietegwyr, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol; ac aelodau eraill o staff fel cynorthwywyr i staff iechyd cymwysedig. Mae rhagor o fanylion ynghylch grwpiau o staff ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 2: nifer y cysylltiadau yn ôl grŵp staff, 2014 i 2015 i 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod nifer y cysylltiadau gan staff Dechrau'n Deg wedi tueddu i fynd i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng 2014-15 a 2015-16.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer y cysylltiadau a nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, yn ôl grŵp staff a yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.

Mae nifer y cysylltiadau â phlant hyd at 4 oed gan ymwelwyr iechyd a'r tîm iechyd ehangach wedi bod ar i lawr ar y cyfan ers cyrraedd uchafswm rhwng y blynyddoedd 2014-15 a 2015-16. Cafodd cysylltiadau gan aelodau eraill o staff eu cofnodi o 2015-16 ymlaen ac maent wedi aros yn weddol sefydlog ym mhump o'r chwe blynedd ddiwethaf.

Yn 2024-25 roedd 117,338 o gysylltiadau ag ymwelwyr iechyd, gostyngiad o 6.8% ers y flwyddyn flaenorol; 60,109 o gysylltiadau â staff iechyd ehangach, cynnydd o 3.1% ers y flwyddyn flaenorol; a 38,259 o gysylltiadau â staff eraill, cynnydd o 24.9% ers y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 3: nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn y flwyddyn, 2014 i 2015 i 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell yn dangos bod nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn wedi tueddu i fynd i lawr ers i'r data gael eu casglu am y tro cyntaf.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer y cysylltiadau a nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, yn ôl grŵp staff a yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.

Yn 2024-25, ar gyfartaledd fe gafodd pob plentyn 2.9 o gysylltiadau ymwelwyr iechyd, y nifer isaf ar gofnod, gan barhau â thuedd am i lawr. 

Cynyddodd nifer cyfartalog y cysylltiadau â'r tîm iechyd ehangach ac â staff eraill o gymharu â'r flwyddyn flaenorol ond mae wedi aros yn gymharol sefydlog dros amser.

Mae nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn amrywio'n fawr fesul awdurdod lleol ac mae hyn i’w weld yn y tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod.

Gweithlu Dechrau'n Deg

Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno data ar gyfanswm yr oriau sy'n cael eu gweithio gan aelodau pob grŵp staff sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg. Yna defnyddir ffactor trosi i amcangyfrif nifer y staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn y flwyddyn. Mae un FTE gyfystyr ag aelod o staff yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Darperir mwy o fanylion am hyn yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 4: nifer y staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) 2014 i 2015 i 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart llinell yn dangos cynnydd cychwynnol yn nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn hyd 2016-17 ac yna rhywfaint o newidiadau o'r naill flwyddyn i'r llall. Bu cynnydd yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y tîm iechyd ehangach a grwpiau eraill o staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer yr ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn y gweithlu Dechrau'n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.

Yn 2024-25 roedd 286 o ymwelwyr iechyd FTE, cynnydd o 5.1% o gymharu â 2023-24.

Cafwyd cynnydd yn nifer y tîm iechyd ehangach FTE sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg tan 2016-17, yna gostyngiad bob blwyddyn tan 2019-20, cyn cynyddu eto o un flwyddyn i’r llall. 

Yn 2024-25 roedd 272 o staff timau iechyd ehangach FTE, sef cynnydd o 0.5% o gymharu â 2023-24. 

Roedd 134 o staff eraill FTE yn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg yn 2024-25, sef cynnydd o 5.8% o gymharu â 2023-24.

Nodweddion plant ar lwyth achosion Dechrau'n Deg

Nifer cyfartalog plant ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd yn 2024-25 oedd 33,870 o blant. 

Mae nifer y plant sydd ar y llwyth achosion yn gyffredinol yn is na nifer y plant sydd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod y flwyddyn oherwydd bod teuluoedd yn symud i o ardaloedd Dechrau'n Deg ac allan o’r ardaloedd hynny gydol y flwyddyn, ac wrth i blant dyfu'n hŷn mae’n bosibl y byddant yn dod yn anghymwys ar gyfer gwasanaethau ar raddfa gyflymach nag y daw newydd-ddyfodiaid yn gymwys.

Ffigur 5: canran y llwyth achosion yn ôl ethnigrwydd, y Gymraeg ac anabledd, 2016 i 2017 i 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos bod cynnydd wedi bod yng nghanran y plant ar lwyth achosion Dechrau'n Deg o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf. Mae nodweddion eraill wedi aros yn gymharol sefydlog dros amser.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer a chanran y plant ar lwyth achosion Dechrau’n Deg gyda nodweddion gwahanol, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Yn 2024-25, canran y llwyth achosion lle'r oedd plant o gefndir ethnig lleiafrifol oedd 15.6%, cynnydd o 2.7 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. At bwrpas cymharu, amcangyfrifodd Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (SYG)) fod 10% o blant 0 i 4 oed yng Nghymru o leiafrif ethnig. Hefyd, mae data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn amcangyfrif bod rhwng 10% ac 17% o fabanod newydd anedig yng Nghymru rhwng 2018 a 2024 o leiafrif ethnig. 

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle nad y Gymraeg na’r Saesneg yw'r iaith gyntaf oedd 5.3%, cynnydd o 0.9 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf oedd 3.2%, gostyngiad o 0.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle mae gan blant riant/gofalwr anabl oedd 2.4%, cynnydd o 0.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle’r oedd y plentyn yn anabl oedd 2.2%, cynnydd o 0.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Gofal plant

Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2 i 3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2.5 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.

Ffigur 6: canran y cynigion gofal plant llawn neu lai a ddarperir gan Dechrau’n Deg i blant sydd newydd ddod yn gymwys, 2014 i 2015 i 2024 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart linell sy’n dangos bod canran y plant cymwys a gafodd gynnig gofal plant wedi amrywio rhwng 96% a 99% dros yr 10 mlynedd ddiwethaf, ond dangosodd duedd gyffredinol ar i fyny.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer a chanran y plant sy’n gymwys, wedi cael cynnig, ac sy’n manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Nid yw echelin Y yn dechrau ar sero.

Cafodd teuluoedd 99.1% o blant cymwys gynnig gofal plant Dechrau'n Deg yn 2024-25, cynnydd o 0.1 pwynt canran ers y llynedd, a’r ganran uchaf a gofnodwyd.

Roedd 17 o awdurdodau lleol yn cynnig gofal plant i deuluoedd 100% o'r plant sy’n gymwys yn eu hardal. Caerdydd oedd â'r ganran isaf (94.4%) o blant sy’n gymwys a gafodd gynnig gofal plant rhaglen Dechrau'n Deg yn 2024-25. 

Er bod cynigion gofal plant yn cael eu gwneud gan awdurdodau lleol, dewis y teulu yw derbyn y cynnig ai peidio.

Ffigur 7: canran y plant y manteisiodd eu teulu ar ofal plant Dechrau’n Deg, 2014 i 2015 i 2024 i 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod canran y plant y manteisiodd eu teulu ar ofal plant Dechrau’n Deg wedi aros yn weddol gyson yn y 10 mlynedd ddiwethaf a rhwng 82% ac 89%.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer a chanran y plant sy’n gymwys, wedi cael cynnig, ac sy’n manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Nid yw echelin Y yn dechrau ar sero.

[Nodyn 2] Mae ‘manteisio ar’ yn cyfeirio at a yw’r cynnig gofal plant yn cael ei dderbyn pa un a yw’r plentyn yn mynychu gofal plant wedyn ai peidio, er mae rhai awdurdodau lleol wedi darparu ffigurau derbyn seiliedig ar bresenoldeb yn 2024-25.

Mae canran y plant y mae eu teulu yn manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi cynyddu 4.0 pwynt canran yn 2024-25 i 85.5%. 

Mae’r tabl StatsCymru y mae dolen iddo uchod yn dangos sut roedd y gyfradd dderbyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Cafodd 100% o gynigion eu derbyn yn Abertawe, y cyfraddau uchaf yng Nghymru, o gymharu â 64.3% yng Nghaerffili, y gyfradd isaf yng Nghymru.

Magu plant

Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn yn gymwys am ddarpariaeth Dechrau’n Deg gael cynnig cymorth ffurfiol ar gyfer magu plant bob blwyddyn. Yn ogystal â’r cynnig magu plant ffurfiol, gellir darparu mathau eraill o gymorth magu plant fel cymorth magu plant anffurfiol, sesiynau un-i-un pwrpasol a phersonol a sesiynau galw heibio anffurfiol. Diffinnir cyrsiau strwythuredig ffurfiol ac anffurfiol fel rhai gyda chwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol.

Yn 2024-25, roedd y nifer a fanteisiodd ar gyrsiau a gynigiwyd i rieni plant Dechrau’n Deg yn 75.1% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig ffurfiol ac yn 77.2% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig anffurfiol, gostyngiad o 1.5 ac 1.2 pwynt canran ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig ffurfiol ac anffurfiol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn 2023-24, newidiodd y diffiniad o gyrsiau strwythuredig anffurfiol i gynnwys cyrsiau magu plant yn unig. Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd cyrsiau lleferydd, iaith a chyfathrebu anffurfiol wedi’u cynnwys. Ni ellir cymharu’r niferoedd a fanteisiodd ar gyrsiau anffurfiol â blynyddoedd cyn 2023-24, felly.

Mae data awdurdodau lleol a chenedlaethol ar gael yn StatsCymru: Nifer y cyrsiau rhianta ffurfiol ac anffurfiol a gymerwyd, a’r ganran a gwblhawyd, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

Cynigir cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu i rieni fel rhan o raglen Dechrau’n Deg. Mae canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi ar sut i fesur canlyniadau ymyriadau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Nid oedd y data a gasglwyd yn ystod 2024-25 yn gallu dal y canllawiau newydd i fesur deilliannau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Bydd ystadegau ar ddeilliannau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael eu cynnwys yn ystadegau 2025-26.

Genedigaethau mewn ardaloedd Dechrau’n Deg

Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2024, roedd 22.8% o’r genedigaethau byw yn enedigaethau i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, gostyngiad bach ers 2023.

Roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, o 40.9% ym Merthyr Tudful (yr uchaf) ac 13.8% yn Sir Fynwy (yr isaf). Ar y cyfan, mae hyn yn adlewyrchu cwmpas y rhaglen ym mhob awdurdod lleol. 

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn StatsCymru: Nifer a chanran o enedigaethau byw i drigolion Cymru mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Canlyniadau iechyd: bwydo babanod

Yn 2024, 47.4% o’r babanod a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael unrhyw laeth o’r fron pan oeddent yn 10 diwrnod oed, o gymharu â 60.3% y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Dros y cyfnod o 10 mlynedd, mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi parhau’n gymharol sefydlog, gyda'r gyfradd rhwng 13 ac 16 pwynt canran yn is yn ardaloedd Dechrau’n Deg. Mae'r ddau grŵp wedi dangos tuedd ar i fyny dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae’r gyfradd a gofnodwyd ar eu huchaf erioed yn 2024.

Roedd canran y mamau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn bwydo ar y fron pan oedd y baban yn 10 diwrnod oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 64.8% yng Ngheredigion (yr uchaf) i 29.2% yn Wrecsam (yr isaf). 

Mae data awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru: Nifer a chanran y babanod a dderbyniodd unrhyw laeth y fron yn 10 diwrnod oed, mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Canlyniadau iechyd: y nifer sy’n dewis imiwneiddio eu plant yn rheolaidd

Mae brechlynnau’n cael eu cynnig i bob plentyn, fel rhan o’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant gan ddechrau 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu geni. Y nod yw bod pob plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn erbyn ei ben-blwydd yn bedair oed. Mae rhagor o wybodaeth am yr amserlen imiwneiddio yn ystod plentyndod ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae canran yr holl blant sy'n cael eu himiwneiddio'n llawn erbyn pedair oed wedi aros yn gyson ar y cyfan ers 2013-14, er ei bod wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf. 

Yn 2024-25, roedd 80.3% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn pan oeddent yn 4 oed o gymharu ag 86.8% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg. 

Mae data awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru: Nifer a chanran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, sydd wedi’u himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Mae’r tabl StatsCymru uchod yn dangos y gwahaniaethau mewn cyfraddau imiwneiddio ar gyfer plant cymwys Dechrau'n Deg sy'n byw mewn gwahanol awdurdodau lleol, yn amrywio o 89% ym Mhowys (yr uchaf) i 70% yng Nghaerdydd (yr isaf). 

Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (21 allan o 22) roedd y cyfraddau imiwneiddio yn uwch ar gyfer plant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg nag mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. Powys oedd yr unig awdurdod lleol lle roedd y gyfradd imiwneiddio yn uwch ar gyfer plant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg na phlant mewn ardaloedd heb fod yn rhai Dechrau'n Deg.

Canlyniadau iechyd: pwysau iach

Rhaglen wyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 yw Rhaglen Mesur Plant Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru).  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 a 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.

Yn y flwyddyn academaidd 2023/24 (y data diweddaraf sydd ar gael) roedd gan 70.9% o blant 4 i 5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg bwysau iach o gymharu â 75.6% mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg. Mae’r ganran hon o blant â phwysau iach mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi bod yn gyson is nag ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg (gan 3 i 5 pwynt canran) ers i’r data gael ei gasglu am y tro cyntaf.

Mae data awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru: Canran y plant 4 i 5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd mewn categorïau ‘pwysau iach’, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Addysg: plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir

Mae nifer y plant Dechrau’n Deg sy’n dechrau’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir) yn mesur i ba raddau y mae plant Dechrau’n Deg yn manteisio ar gyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar.

Yn y flwyddyn academaidd 2024/25, cafodd 90.0% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir, o gymharu ag 83.7% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg. 

Mae canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sydd ar gofrestr ysgol a gynhelir wedi aros yn weddol gyson drwy gydol y rhaglen, gan amrywio rhwng 90% a 94%. 

Mae data awdurdodau lleol a chenedlaethol ar gael yn StatsCymru: Plant 3 oed, sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg / nad ydynt yn Dechrau'n Deg ac wedi'u cofnodi ar gofrestr mewn ysgol sy'n cael ei rhedeg gan CYBLD, yn ôl awdurdod lleol (StatsCymru)

Ehangu darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar

Mae Cam 2 rhaglen ehangu'r blynyddoedd cynnar yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed yn ystod 2023-24 a 2024-25, ac fe ddechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023.

Mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth reoli a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru o'r awdurdodau lleol i fonitro cynnydd Cam 2 y rhaglen ehangu. Mae'r rhain yn ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu. Mae'r wybodaeth reoli hon yn cyfrannu at gyfrifo'r ystadegau hyn. Wrth ddatblygu gwaith ehangu'r rhaglen a'r ffordd y caiff y data hyn eu casglu, mae'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR)) (Saesneg yn unig). 

Rydym yn gweithio i wella ansawdd yr ystadegau hyn ar gyfer fersiynau o'r erthygl hon yn y dyfodol. Dyma'r amcangyfrif gorau sydd gennym ar nifer y lleoedd gofal plant a gynigiwyd ac y manteiswyd arnynt ym mis Ebrill 2024 i 25 Mawrth. Casglwyd data at ddibenion monitro'r broses o gyflwyno Cam 2 y rhaglen ehangu. Rydym yn ceisio mireinio a gwella'r casgliad hwn o ddata fel ei fod yn unol â Ffurflen Monitro Data Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.

Ffigur 8: nifer y lleoedd gofal plant a gynigiwyd ac y manteisiwyd arnynt yn erbyn targed ‘Cam 2’ Dechrau'n Deg, 2024 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart far yn dangos nifer y lleoedd gofal plant yng Ngham 2 Dechrau'n Deg a gynigiwyd ac y manteisiwyd arnynt yn erbyn y targed.

Ffynhonnell: Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru

Nifer a chanran y plant a gafodd gynnig neu sy’n manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg Cam 2, yn ôl statws cyfrwng Cymraeg a’r awdurdod lleol (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r diffiniad o 'manteisio ar' wedi newid yn 2024-25; mae 'manteisio ar' bellach yn cael ei ddiffinio fel pan fydd plentyn yn mynychu o leiaf un sesiwn o ofal plant Dechrau'n Deg. Ni chynghorir cymharu â blynyddoedd blaenorol gan mai ystyr 'manteisio ar' yn ystod y blynyddoedd blaenorol oedd naill ai bod y cynnig wedi'i dderbyn neu bresenoldeb yn y lleoliad gofal plant. Gweler yr adroddiad ansawdd.

Yn 2024-25, targed gofal plant Cam 2 oedd i 5,522 o blant 2 oed ychwanegol allu manteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel. Cynigiwyd 6,528 o leoedd fel rhan o Gam 2. Manteisiwyd ar 80.9% (5,278) o'r lleoedd a gynigiwyd. Yn y cyd-destun hwn mae'r diffiniad ar gyfer 'manteisio ar' wedi newid yn 2024-25; mae 'manteisio ar' bellach wedi'i ddiffinio fel pan fydd plentyn yn mynychu o leiaf un sesiwn o ofal plant Dechrau'n Deg. Ni chynghorir cymharu â blynyddoedd blaenorol. 

Yn 2024-25 roedd 20.8% (1,097) o'r holl leoedd y manteisiwyd arnynt mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Gan fod yr ystadegau hyn yn dal i fod o dan ddatblygiad, roedd rhywfaint o amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol o ran sut y cafodd lleoliad cyfrwng Cymraeg ei ddiffinio. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Effaith COVID-19

Gellir dod o hyd i wybodaeth am effaith COVID-19 ar y casgliad hwn o ddata yn yr adroddiad ansawdd a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwn.

Datganiad cydymffurfedd â'r Cod Ymarfer Ystadegau

Y OSR sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol (OSR) (Saesneg yn unig) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.  Mae hyn yn berthnasol i'r holl ystadegau yn y datganiad hwn ar wahân i'r rhai sy'n ymwneud â Cham 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg sy'n ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (OSR) (Saesneg yn unig). Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer yr ystadegau cyn belled ag y bo modd tra byddant yn cael eu datblygu.

Ymddiriedaeth

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau. Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuwyd casglu'r data hyn ym mis Ebrill 2012 i fis Mawrth 2013. A gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar Gam 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg. Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER). Defnyddir amcangyfrifon canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer dadansoddi'r boblogaeth.

Ansawdd

Mae'r ffigurau sydd wedi'u cyhoeddi yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddi. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol. 

Daw’r rhan fwyaf o’r data a gynhwysir o ffynonellau gweinyddol a ddefnyddir i reoli gwasanaethau Dechrau’n Deg. Mae’r data’n dibynnu ar awdurdodau lleol yn cadw cofnodion cywir ond mae’r systemau wedi’u hen sefydlu ac yn ddibynadwy. Mae data atodol o gronfeydd data cenedlaethol eraill hefyd o ansawdd uchel ac yn cael eu hystyried yn ddibynadwy.

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar gyfer Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn llenwi’r ffurflenni ar sail y data sydd wedi’u storio ar eu systemau TG priodol ac yn dychwelyd y ffurflenni i Lywodraeth Cymru ar ôl iddynt eu llenwi, a hynny drwy gyfrwng Ojective Connect, sef system ar gyfer trosglwyddo data ar y we yn ddiogel. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau dilysu ac yn cyfeirio ymholiadau at awdurdodau lleol lle bo angen. Yna, mae’r datganiad ystadegol yn cael ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar y golofn dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae'r data ychwanegol a gasglwyd ar gyfer Cam 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg hefyd yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol, gan ddefnyddio data sy'n cael eu storio ar eu systemau TG eu hunain. Gan mai 2023-24 oedd blwyddyn gyntaf Cam 2 yr ehangu, bu rhywfaint o amrywiad yn y diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer 'manteisio ar y cynnig' ac ar gyfer ‘lleoliad cyfrwng Cymraeg’. Roedd tua hanner yr awdurdodau lleol yn diffinio 'manteisio ar y cynnig' fel 'derbyn y cynnig' gofal plant, tra bo eraill yn defnyddio presenoldeb mewn lleoliad gofal plant fel mesur o dderbyn y cynnig. Yn yr un modd, mae amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol o ran sut y diffinnir lleoliad cyfrwng Cymraeg – hynny yw i ba raddau y mae angen defnyddio'r Gymraeg i fod yn lleoliad cyfrwng Cymraeg. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod diffiniad unffurf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer casglu data yn y dyfodol.

Gwerth

‌Pwrpas y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn pob awdurdod lleol arall yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd yn ehangach am ddarpariaeth rhaglen Dechrau’n Deg. Mae’r datganiad ystadegol blynyddol hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Mae amseroldeb y data yn darparu'r diweddariad mwyaf cyfredol gan ddefnyddio data dibynadwy. Mae sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael ar y ffurf hwn yn darparu un ffynhonnell ddiffiniol o ddata ar weithgarwch a darpariaeth rhaglen Dechrau'n Deg a'r nifer sy'n ei defnyddio.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Annie Campbell
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru  

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 88/2025