Bydd Adweithyddion Amhendant (IRs) safonol sydd wedi'u clirio yn gorfod aros ar y daliad.
Cynnwys
Polisi newydd o 1 Ionawr 2026
O 1 Ionawr 2026,bydd gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant (IR) i brawf TB ar ôl dehongliad safonol ond sydd wedyn yn cael canlyniad negatif (adweithyddion amhendant safonol a gliriwyd fel y'u gelwir) yn cael eu cyfyngu am weddill eu hoes. Bydd hyn yn effeithio ar bob IR trwy ddehongliad safonol sy'n cael canlyniad negatif ar ôl dehongliad safonol i'r ail brawf. Bydd rhaid cadw’r IRs hynny ar y daliad lle cawsant eu darganfod. Yr unig symudiadau a ganiateir ar gyfer anifeiliaid o'r fath yw i ladd-dy neu Uned Besgi Gymeradwy (AFU). Gallwch symud y gwartheg:
- yn syth
- trwy ganolfan gasglu gymeradwy, neu
- drwy arwerthiant TB pwrpasol (marchnad oren)
Pwysig: Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn i gynnwys dolenni i'r trwyddedau perthnasol erbyn 1 Ionawr 2026.
Mae astudiaethau gwyddonol yn dangos bod anifeiliaid IR sydd wedi'u clirio ar ôl dehongliad safonol yn fwy tebygol o ledaenu TB. Hynny am fod mwy o siawns iddynt fynd yn adweithydd nac anifeiliaid gafodd prawf clir. Mae eu cadw ar y daliad lle cawsant eu darganfod yn osgoi peryglu buchesi eraill.
Mae papurau a gyhoeddwyd gan May et al (2019) a Clegg et al (2011) yn darparu tystiolaeth ynghylch y risg uwch. Cawsant eu cyflwyno i'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) a'r Bwrdd Rhaglen TB.
Mae hyn yn gyson â'n dadansoddiad o IRs safonol a gliriwyd rhwng 2014 a 2023. Mae'r data yn dangos bod IRs safonol a gliriwyd 2.8 gwaith yn fwy tebygol o gael eu hadnabod a'u difa fel:
- adweithydd
- IR, neu
- achos SLH wedi'i gadarnhau
nac anifail cafodd prawf clir. Gallwch weld y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r TAG ar: Tystiolaeth o'r risg o TB a achosir gan adweithyddion anifeiliaid amhendant sydd wedi cael eu clirio.
Diffiniad o IR safonol a gliriwyd
Y prif brawf sgrinio am TB mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr yw'r prawf croen twbercwlin gyddfol cymharol (SICCT). Yr enw cyffredin ar hwn yw'r prawf croen TB. ‘Adweithydd amhendant ar ôl dehongliad safonol’ yw anifail sy'n dangos mwy o adwaith i'r twbercwlin gwartheg nag i'r twbercwlin adar, ond nid yw'r adwaith yn ddigon cryf ichi allu dweud fod yr anifail yn adweithydd. Rhaid ynysu IRs a rhoi ail brawf iddynt ar ôl 60 diwrnod. Mae anifail yn cael ei ystyried yn adweithydd os bydd wedi cael adwaith amhendant i ddau brawf croen TB, un ar ôl y llall.
Mae ‘IR safonol a gliriwyd’ yn anifail a gafodd adwaith amhendant ar ôl dehongliad safonol o brawf croen TB, ond sydd wedyn yn cael canlyniad clir ar ôl dehongliad safonol mewn ail brawf.
Rydym yn cyflwyno'r polisi hwn i'w ychwanegu at ein polisïau eraill ar gyfer IRs sy'n parhau mewn grym. Fe welwch ragor o wybodaeth am y polisïau presennol yn eich llyfryn TB yn eich buches.
Sut y byddwn yn gweithio'r cyfyngiadau
Bydd y cyfyngiadau yn effeithio ar wartheg sydd wedi cael adwaith amhendant yn dilyn dehongliad safonol o unrhyw brawf yng Nghymru, ac sydd wedyn yn cael prawf clir ar ôl dehongliad safonol ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026 (diwrnod 2 – TT2).
Pwysig: Mae'r polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer IRs safonol a gliriwyd mewn buchesi o dan fesurau uwch yn parhau mewn grym.
Wrth dderbyn canlyniad negatif y prawf:
- bydd APHA yn gosod cyfyngiadau ar IRs safonol a gliriwyd ar ôl ail brawf clir
- bydd ceidwaid yn derbyn drwy'r post:
- Hysbysiad Cyfyngu am Oes (TB197), a
- llythyr esboniadol (TR465)
Mae ein siart llif yn dangos y broses: TB gwartheg: llun proses adweithyddion amhendant.
Cyngor ar sut i reoli IRs safonol a gliriwyd tra eu bod yn aros yn y fuches
Mae'r newid i'r polisi ar IRs safonol a gliriwyd yng Nghymru yn eich gwahardd rhag symud yr anifeiliaid hyn i fuchesi eraill. Bydd hyn yn lleihau'r risg o ledaenu TB rhwng buchesi. Ond ni fydd yn datrys problem anifeiliaid risg uwch sy'n aros yn y fuches lle cawsant eu darganfod.
Mae gan berchnogion yr opsiwn i gadw'r anifail neu ei dynnu o’r fuches gan ddibynnu ar anghenion y busnes. Ein cyngor ni yw'ch bod chi'n gwneud hyn cyn gynted â phosibl. Dylech drafod gyda'ch milfeddyg sut orau i reoli'r IR safonol a gliriwyd tra ei fod ar y fferm.
Dyma enghreifftiau o’r hyn efallai y bydd angen ichi ei wneud:
- peidio â rhoi llaeth IRs safonol a gliriwyd i loi heb ei basteureiddio
- peidio â defnyddio IRs safonol a gliriwyd i gynhyrchu anifeiliaid cyfnewid
Cyngor i geidwaid ar adnabod anifeiliaid
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cadw'r IRs safonol a gliriwyd am oes ar y daliad lle cawsant eu darganfod. Os ydych chi'n bwriadu cadw IRs safonol a gliriwyd yn eich buches, ein cyngor yw'ch bod yn eu tagio rhag iddyn nhw gael eu symud ar ddamwain o'r daliad. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio tag rheoli neu gallwch ddefnyddio brand rhewi. Rydym hefyd yn argymell marcio pasbort yr anifail a chadw cofnod o unrhyw IRs safonol a gliriwyd yng nghofrestr y fuches.
Anifeiliaid dan gyfyngiadau sy'n cael eu symud yn anghyfreithlon
Mae APHA yn cadw golwg ar IRs safonol a gliriwyd i sicrhau eu bod yn aros yn y ddaliad am eu hoes. Os bydd APHA yn gweld bod IR safonol a gliriwyd wedi cael ei symud, heblaw i ladd-dy neu AFU, bydd yn rhoi hysbysiad cyfyngu ar yr anifail dan sylw. Bydd hyn yn golygu cadw'r anifail yn y fuches newydd ond byddwch yn cael ei symud o dan drwydded i ladd-dy neu AFU. Mae APHA yn cyfeirio'r achosion hyn at yr Awdurdod Lleol iddo ymchwilio iddo ac i gymryd y camau priodol.
Symudiadau a ganiateir i ladd-dy
Cewch symud IR safonol a gliriwyd yn uniongyrchol i ladd-dy. Neu gallwch ei symud i ganolfan gasglu gymeradwy.
Os oes gan eich buches Statws heb TB Swyddogol (OTF), nid oes angen i chi ofyn i APHA am drwydded benodol. Mae’r drwydded gyffredinol ar gyfer symudiad o'r adweithyddion gwartheg amhendant sydd wedi cael eu clirio i lladd-di ar gael yn gov.uk. Nid oes angen anfon copi o'r drwydded gyffredinol gyda'r gwartheg. Ond, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall yr amodau cyn symud yr anifeiliaid i'w lladd.
Symud i Unedau Pesgi Cymeradwy (AFUs)
Rydych yn cael symud IRs safonol a gliriwyd i Uned Besgi Gymeradwy (AFU). Gallwch eu symud yn uniongyrchol neu drwy arwerthiant TB pwrpasol cymeradwy (marchnad oren).
Os oes gan eich buches Statws heb TB Swyddogol (OTF), gall y symudiad hwn ddigwydd gan ddefnyddio'r drwydded gyffredinol sydd ar gael ar gov.uk. Nid oes angen i chi anfon copi o'r drwydded gyffredinol gyda'r gwartheg. Ond, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall yr amodau cyn symud yr anifeiliaid i'w lladd.
Gallwch anfon IRs safonol a gliriwyd sydd mewn buchesi ag achos o TB i AFU neu arwerthiant TB pwrpasol cymeradwy o dan amodau penodol. Bydd angen i chi ofyn i APHA am drwydded benodol.
Isod mae crynodeb o'r llwybrau a ganiateir i ladd-dy ar gyfer IRs safonol a gliriwyd o OTF a buchesi sydd o dan gyfyngiadau TB. Rhaid i IRs safonol a gliriwyd sy'n symud o dan drwydded a gyhoeddwyd gan APHA fodloni holl amodau'r drwydded. Mae hyn yn cynnwys y gofyn i gynnal prawf TB cyn symud. Mae APHA yn cael cyhoeddi trwyddedau ar gyfer symud IRs safonol a gliriwyd o ddaliadau sydd o dan gyfyngiadau TB. Ond bydd yn rhaid cynnal asesiad risg.
IRs safonol a gliriwyd mewn buchesi â statws heb TB Swyddogol (OTF)
Llwybr a ganiateir i'w lladd
Gellir gwneud y llwybrau canlynol a ganiateir i ladd o dan drwydded gyffredinol ar gyfer symudiad o'r adweithyddion gwartheg amhendant sydd wedi cael eu clirio i lladd-di sydd ar gael ar gov.uk.
- yn uniongyrchol i ladd-dy trwyddedig yng Nghymru neu Loegr
- trwy arwerthiant TB cymeradwy (marchnad oren) yng Nghymru neu Loegr
- yn uniongyrchol i Uned Besgi Gymeradwy (AFU) yng Nghymru neu Loegr
- trwy Uned Besgi Gymeradwy Uwch gyda Thir Pori (yn Lloegr) (AFUE)
IRs safonol a gliriwyd mewn buchesi sydd o dan gyfyngiadau TB
Llwybr a ganiateir i'w lladd
Rhaid cael y trwyddedau ar gyfer y llwybrau lladd a ganiateir canlynol gan APHA:
- yn uniongyrchol i ladd-dy trwyddedig yng Nghymru neu Loegr. Defnyddiwch drwydded TB24 benodol neu drwydded TB24c gyffredinol. Bydd yn cael ei rhoi ichi fel arfer ar ddechrau'r achos o TB
- trwy AFU yng Nghymru neu Loegr. Defnyddiwch drwydded TB16 benodol neu drwydded TB16e gyffredinol
- trwy AFUE yn Lloegr. Defnyddiwch drwydded TB16 benodol neu drwydded TB16e gyffredinol
- trwy ganolfan gasglu TB gymeradwy yng Nghymru neu Loegr. Defnyddiwch drwydded TB24c gyffredinol a roddir fel arfer ar ddechrau'r achos o TB
- trwy arwerthiant TB pwrpasol cymeradwy (marchnad oren) yng Nghymru neu Loegr. Defnyddiwch drwydded TB16b benodol neu drwydded TB16e gyffredinol
Cyfyngiadau ar IRs safonol a gliriwyd
Gosodir cyfyngiadau ar IRs safonol a gliriwyd ar ôl ail brawf clir. Fel y ceidwad, byddwn yn postio hysbysiad cyfyngu atoch. Rhaid cadw IRs safonol a gliriwyd am eu hoes ar y daliad lle cawsant eu darganfod. Rhaid bod gan y daliad hwn Rif Daliad (CPH).
CPH dros dro (tCPH)
Mae IRs safonol a gliriwyd sydd mewn tCPH yn gorfod cael eu cadw am eu hoes ar y CPH parhaol sy'n gysylltiedig â'r tCPH. Dim ond y symudiadau canlynol y bydd yr IR safonol a gliriwyd yn cael eu gwneud:
- symud yn ôl o dan drwydded i'r CPH parhaol sy'n gysylltiedig â'r tCPH. Ar ôl dychwelyd i'r CPH parhaol, bydd yr anifail yn gorfod aros am ei oes yn y CPH hwnnw
- symud yn uniongyrchol i ladd-dy, neu
- symud i ladd-dy trwy AFU
Cysylltiadau Tir Dros Dro (TLA)
Os caiff IR safonol a gliriwyd ei ddarganfod mewn TLA, bydd rhaid iddo aros am ei oes yn y CPH parhaol sy'n gysylltiedig â'r TLA. Caiff yr IR safonol a gliriwyd fynd yn ôl i'r TLA, gan fod y tir o fewn 10 milltir i'r CPH parhaol. I gael rhagor o wybodaeth am symudiadau da byw, tCPHs a TLAs, darllenwch ein canllawiau: Rhifau CPH a symudiadau da byw: cwestiynau cyffredin am y rheolau newydd
Tir comin
Os caiff IR safonol a gliriwyd ei ddarganfod ar dir comin, bydd rhaid ei gadw am ei oes ar brif ddaliad y ceidwad. Rhaid bod ganddo CPH parhaol. Ni chaiff yr IR safonol a gliriwyd fynd i dir comin eto. Y rheswm am hynny yw bod risg uwch y gallai drosglwyddo haint i fuchesi eraill sy'n defnyddio'r comin.
Unedau Ynysu TB
Mae IRs gafodd eu darganfod mewn Uned Ynysu TB ac sydd wedyn yn cael prawf negatif yn gorfod aros am eu hoes yn pCPH yr uned honno. Unwaith y bydd y grŵp o wartheg yn yr Uned Ynysu wedi cael y profion TB sydd eu hangen i symud oddi ar yr uned, bydd yr IRs safonol a gliriwyd ond yn cael symud o dan drwydded i:
- ladd-dy, neu
- i AFU
Bydd yn rhaid i'r IRs safonol a gliriwyd adael yr Uned cyn y gellir ei hailstocio.
Teirw llog
Os yw tarw llog yn cael adwaith amhendant tra ei fod allan ar log a'i fod yn cael ail brawf negatif, bydd rhaid iddo aros am ei oes ar y daliad lle cafwyd ei fod yn IR safonol a gliriwyd. Ni chaiff symud o’r daliad hwnnw ond i ladd-dy neu AFU a hynny o dan drwydded.
Magu dan gontract
Os yw anifail yn cael adwaith amhendant tra ei fod ar safle magu dan gontract sydd â pCPH ar wahân a'i fod yn cael ail brawf negatif, bydd rhaid iddo aros am ei oes ar y daliad lle cafwyd ei fod yn IR safonol a gliriwyd. Ni chaiff symud o’r daliad hwnnw ond i ladd-dy neu AFU a hynny o dan drwydded.
Amgylchiadau eithriadol
Gall APHA roi trwydded i symud IR safonol a gliriwyd am resymau heblaw am ei ladd neu i fynd i AFU o dan amgylchiadau eithriadol. Mater i APHA benderfynu arno fydd hyn ar ôl cynnal asesiad o'r risg milfeddygol. Dylech drafod yr amgylchiadau gydag APHA, os medrwch, cyn symud yr anifail.
Triniaeth filfeddygol
Gall APHA roi trwydded i symud IR safonol oddi ar y daliad i gael triniaeth filfeddygol. Ar ôl y driniaeth, rhaid i'r anifail fynd yn ôl yn syth i'r daliad gwreiddiol neu i'w ladd.
Tywydd mawr
Efallai y bydd angen i chi symud gwartheg mewn argyfwng. Er enghraifft, o ardal lle mae eu lles mewn perygl oherwydd llifogydd ac ati.
Newid tenantiaeth neu werthu fferm gyfan
Mae hyn yn golygu bod y fuches gyfan yn parhau'n eiddo i'r un perchennog ond ei bod y cael ei symud i le arall.
Ni fydd arwerthiant gwasgaru buches, lle caiff gwartheg eu prynu a'u symud i le newydd, yn cyfrif fel 'amgylchiad eithriadol'. Bryd hynny, dim ond i ladd-dy neu AFU y cewch symud IR safonol a gliriwyd a rhaid cael trwydded.
Cysylltu a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
APHA
Rhif ffôn:
Yng Nghymru, ffoniwch 0300 303 8268. Gallwch ddewis clywed y neges ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd APHA yn ceisio cysylltu â chi yn yr iaith y dymunwch siarad ynddi.
E-bost: apha.cymruwales@apha.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
