Neidio i'r prif gynnwy

Mae fersiwn ddrafft o ddeddfwriaeth i roi’r pŵer i bobl yng Nghymru ddiswyddo Aelodau o’r Senedd sy’n torri rheolau ymddygiad yn ddifrifol wedi’i chyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cyhoeddi Bil drafft Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn rhoi mwy o amser i Aelodau’r Senedd ac eraill ymgyfarwyddo â’i gwmpas a’i gyfeiriad cyn iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

Mae’r gwaith o baratoi’r Bil yn parhau i fynd rhagddo, ac mae'n bosibl y bydd newidiadau yn cael eu gwneud cyn iddo gael ei gyflwyno gerbron y Senedd.

Byddai’r ddeddfwriaeth yn cryfhau safonau democrataidd drwy gyflwyno mecanwaith adalw ar gyfer y Senedd, gan gynnwys dau ddigwyddiad sbardun clir, fel a ganlyn, a fyddai’n arwain at wneud Aelod yn destun pôl adalw:

  • Pan fo Aelod yn cael ei euogfarnu o drosedd ac yn cael dedfryd o garchar, gan gynnwys dedfrydau wedi’u gohirio
  • Pan fo’r Senedd yn cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y dylid gwneud Aelod yn destun pôl adalw o ganlyniad i gamymddwyn difrifol.

Mae’r Bil drafft yn cynnwys gofyniad statudol i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a allai, am y tro cyntaf, gynnwys aelodau lleyg annibynnol i gyfrannu arbenigedd allanol ac annibynnol at broses safonau’r Senedd.

Byddai gan y Comisiynydd Safonau hefyd bwerau ychwanegol i ymchwilio i bryderon am ymddygiad Aelodau.

Mae hefyd yn diwygio pwerau Gweinidogion Cymru i osod rheolau ynghylch sut y caiff etholiadau i’r Senedd eu cynnal. Er mwyn mynd i’r afael â dichell fwriadol, bydd hefyd yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wahardd datganiadau ffug mewn gorchmynion ymddygiad yn y dyfodol a fydd yn ymwneud â llywodraethu etholiadau i’r Senedd.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, Julie James:

“Mae pobl yng Nghymru yn haeddu cynrychiolwyr sy’n cynnal y safonau ymddygiad uchaf.

“Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft hon yn ceisio adeiladu sylfeini cryfach ar gyfer democratiaeth Cymru i wneud yn siŵr, pan fo Aelodau yn torri’r safonau hynny yn ddifrifol, fod gan bleidleiswyr y pŵer i’w dal yn atebol yn uniongyrchol.

“Yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Safonau, mae’n ymwneud â chryfhau uniondeb democrataidd a sicrhau bod camymddwyn difrifol yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol, a hynny gan fod ymddiriedaeth yn ein democratiaeth yn dibynnu ar Aelodau yn atebol i’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu.”

Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ddiweddarach yr hydref hwn. Os caiff ei basio, bydd yn sefydlu’r fframwaith ar gyfer adalw ac yn egluro’r pwerau i gyflwyno trosedd o ddichell fwriadol gan ymgeiswyr a’i rhoi ar waith yn llawn, gan gynnwys canllawiau manwl ac is-ddeddfwriaeth, i’w cwblhau yn nhymor nesaf y Senedd.