Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Mae'r nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn manteisio i'r eithaf ar y cynllun tocynnau bws newydd am £1 drwy gofrestru ar gyfer fyngherdynteithio am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r fenter gan Lywodraeth Cymru, sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer pobl ifanc 16-21 oed, wedi gweld y nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn gwneud cais am fyngherdynteithio, gyda Trafnidiaeth Cymru yn derbyn dros 26,000 o geisiadau newydd – cynnydd o 38% – ers lansio'r cynllun ym mis Gorffennaf.

O fis nesaf (3 Tachwedd) mae'r cynllun peilot yn cael ei ymestyn ymhellach i gynnig yr un prisiau gostyngol i bawb rhwng 5 a 15 oed. Ond yn wahanol i bobl ifanc 16–21 oed, ni fydd angen i'r grŵp oedran hwn gyflwyno fyngherdynteithio i'r gyrrwr fel prawf oedran.

Mae'r cynllun yn cynnig teithio bws fforddiadwy diderfyn i bobl ifanc i'w helpu i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hamdden. Mae hefyd yn helpu i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi.

Bydd prisiau tocyn sengl yn costio £1 yn unig a bydd tocynnau diwrnod am £3 ar gael hefyd, gan ganiatáu i bobl ifanc gael mynediad at deithio diderfyn gydag unrhyw wasanaethau bws sy'n cymryd rhan.

Wrth siarad yng ngorsaf fysiau'r Rhyl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rwy'n falch iawn bod y cynllun eisoes yn profi i fod yn boblogaidd gyda phobl ifanc ledled Cymru.

“Mae lleihau cost teithio i bobl ifanc yn hanfodol bwysig yn ein huchelgais i ddarparu gwell trafnidiaeth i bawb ac annog mwy o bobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus.

“Rydyn ni'n gwybod bod y cynllun yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc 16–21 oed. Gyda'r cynllun peilot yn cael ei ymestyn i'r rhai rhwng 5 a 15 oed fis nesaf, bydd hyd yn oed mwy o bobl ifanc yn cael y cyfle i elwa ar brisiau rhatach.”

 Mae manylion llawn y cynllun a'r gwasanaethau bws sy'n cymryd rhan ar gael ar fyngherdynteithio | Hafan.