Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Roedd yr ymosodiad terfysgol ddydd Iau yn synagog Cynulliad Hebreaidd Heaton Park ym Manceinion, ar Yom Kippur - y diwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig - yn frad ffiaidd a llwfr ar ein gwerthoedd cyffredin. Mae ein cydymdeimlad yn parhau gyda'r dioddefwyr dewr a gollodd eu bywydau, ac rydym yn dymuno adferiad llawn a buan i'r rhai sydd wedi'u hanafu neu yr effeithiwyd arnynt.
Mae Yom Kippur yn ddiwrnod o heddwch a myfyrio. Ni ddylai unrhyw un orfod ofni trais am arfer eu rhyddid crefyddol. Beth bynnag yw eich credoau neu eich cefndir, mae'r ymosodiad hwn ar ein cymuned Iddewig yn ymosodiad ar ein cymdeithas.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar unwaith ddydd Iau, a chyfarfu â Rabbi Rose o Synagog Unedig Caerdydd fore Gwener. Siaradais innau hefyd â chynrychiolydd o Gyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru y diwrnod hwnnw. Mae'n amlwg bod ein cymuned Iddewig yn teimlo dan fygythiad ac wedi cael sioc yn sgil digwyddiadau yr wythnos diwethaf. Mae ein sgyrsiau yn adlewyrchu ofnau ynghylch gwrthsemitiaeth gynyddol, ac mae'n hanfodol ein bod yn cydsefyll yn gadarn â'n cymuned Iddewig.
Yr wythnos diwethaf siaradais â'n partneriaid Plismona yng Nghymru, ac fe wnaethant gadarnhau bod patrolau ac adnoddau ychwanegol yn cael eu neilltuo i synagogau i roi sicrwydd i gymunedau Iddewig eu bod yn cael eu diogelu. Fe wnaethom siarad hefyd â'r Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol i gynnig ein cefnogaeth.
Mae gweithredoedd o drais yn erbyn mannau addoli yn ein hatgoffa mewn ffordd gignoeth o bwysigrwydd arddangos ein hymrwymiad cyffredin i heddwch a pharch at bawb. Hoffwn ddiolch i aelodau Fforwm Cymunedau Ffydd am eu hymgysylltiad a'u harweinyddiaeth gyson. Mae eu cyfraniadau yn hanfodol wrth inni weithio gyda'n gilydd i feithrin undod a gwytnwch yn wyneb digwyddiadau pryderus o'r fath.
Mae mis Hydref yn gyfnod sanctaidd i'n cymuned Iddewig, ac yfory byddwn hefyd yn nodi dwy flynedd ers ymosodiad Hamas ar Israel a chymryd gwystlon sydd eto i'w dychwelyd. Rydym wedi gweld ymosodiadau yn Lloegr ar fosgiau y penwythnos diwethaf, ond mae'n rhaid inni gofio mai cymdeithas gynhwysol sydd gennym, ac y bydd yn parhau felly, er gwaethaf gweithredoedd erchyll nifer fach o unigolion sy'n mynegi casineb.
Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn yn erbyn pob math o gasineb a thrais. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n harweinwyr ffydd a'n cynrychiolwyr cymunedol i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i diogelu. Rwy'n galw ar bawb i sefyll gyda'r gymuned Iddewig ac unrhyw gymuned arall sy'n profi casineb.
Os yw'r digwyddiad yn Crumpsall, Manceinion ar 2 Hydref wedi effeithio arnoch, neu unrhyw ddigwyddiad terfysgol arall, gallwch ddarllen am y cymorth sydd ar gael yma: Cymorth i ddioddefwyr terfysgaeth - Cymorth i ddioddefwyr terfysgaeth
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef trosedd gasineb, gallwch ffonio Canolfan Cymorth Casineb Cymru Llywodraeth Cymru (sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr) i gael cyngor ac arweiniad cyfrinachol am ddim. Mae'r Ganolfan ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn drwy www.reporthate.victimsupport.org.uk, drwy ffonio 0300 3031 982, neu drwy e-bost Hate.CrimeWales@victimsupport.org.uk
