Prisio arddangosfeydd: pecyn cymorth ar gyfer amgueddfeydd
Canllawiau i amgueddfeydd ar ddiweddaru arddangosfeydd ac arddangosfeydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Lluniwyd y pecyn cymorth hwn gan Headland Design fel rhan o waith Llywodraeth Cymru i ddeall anghenion cyfalaf arddangosfeydd mewn amgueddfeydd yng Nghymru.
Mae ein hymchwil yn dangos bod llawer o arddangosfeydd mewn amgueddfeydd wedi dyddio a heb eu hadnewyddu’n ddiweddar. O’r 40 amgueddfa a ymatebodd i’n harolwg, roedd 42% heb dderbyn unrhyw gyllid cyfalaf yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac roedd 22% arall wedi cael llai na £10,000 i wella’u harddangosfeydd.
O’r amgueddfeydd a gafodd fuddsoddiad yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, nododd rhai yn ystod yr ymgynghoriad fod angen diweddaru’r arddangosfeydd er mwyn annog ymwelwyr i ddychwelyd ond hefyd er mwyn adrodd straeon newydd, yn enwedig straeon pobl na chaiff eu stori ei hadrodd yn aml. Gellid
gwneud peth o’r gwaith diweddaru hyn ar gyllideb fach neu gyfyngedig. Mae’n hawdd newid arddangosfeydd o wrthrychau, a gellir newid y cywair neu’r safbwynt gan adfywio’r stori a adroddir trwy addasu labeli’r gwrthrychau. Gall paneli graffeg newydd gyflwyno naratif neu stori newydd a gellir eu cynhyrchu â chyllideb fach ar gyfer dylunio ac argraffu.
Cydweithio â dylunwyr
Wrth wneud gwaith adnewyddu sylweddol a chreu orielau newydd, mae llawer o amgueddfeydd yn dewis cydweithio â dylunwyr arddangosfeydd. Gall hyn ddechrau wrth ddatblygu cynllun dehongli, sy’n nodi’r stori a sut yr hoffent ei hadrodd ochr yn ochr â gwaith ymchwil a dadansoddiad o gynulleidfaoedd cyfredol a darpar gynulleidfaoedd. Yn ogystal, dylai amlinellu’r dyluniadau ac amcangyfrifon o’r costau. Mae’n anodd amcangyfrif costau ar gyfer gwaith dehongli a gellir gofyn i ddylunwyr arddangosfeydd gyfrannu at y broses hon.
Pan ddaw’n bryd gosod y gwaith dehongli newydd, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n codi ffioedd dylunio a rheoli, sy’n aml yn ganran o gyfanswm y costau.
Mae briff da’n fan cychwyn i’r sgwrs â darpar ymgynghorwyr neu dimau dylunio. Dylai gynnwys:
- cyflwyniad a chyd-destun
- pwrpas a nod y gwaith dehongli newydd
- pethau y bwriedir eu cael (efallai y bydd angen i chi
- nodi nifer y casys arddangos neu’r paneli graffeg)
- tîm y prosiect a’r gefnogaeth neu’r wybodaeth sydd
ar gael - cyfleoedd ar gyfer cwestiynau ac ymweliadau safle
- gwerthuso dyfynbrisiau/cynigion
- amserlenni
- manylion cyswllt
Amcangyfrifon o’r costau
Mae canllawiau safonol y diwydiant yn defnyddio’r gost am bob metr sgwâr i roi ffigwr amlinellol neu fras i helpu amgueddfeydd i amcangyfrif costau gosod arddangosfeydd. Mae hyn yn rhoi amrediad o gostau ar gyfer manylebau isel, canolig ac uchel. Cawsant eu hadolygu gan y Gronfa Treftadaeth yn ddiweddar yn eu nodiadau cyfarwyddyd.
Seilir yr amcangyfrifon ar faint y gofod a’r uchelgais ar gyfer y gwaith dehongli ond nid ydynt yn cymryd nifer y casys arddangos nac amrywiaeth y casgliadau a gaiff eu harddangos i ystyriaeth. Efallai bod y ffigurau braidd yn isel, heb ystyried y cynnydd diweddar mewn prisiau.
Fel rhan o ymchwil yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae’r costau hyn wedi’u treialu yn erbyn prosiectau adnewyddu amgueddfeydd yng Nghymru yn ddiweddar. Maent yn sylfaen addas ar gyfer y rhagolygon gwariant yn ein gwaith dadansoddi a’n hadroddiadau.
Arddangosfa manyleb isel
Heb gasys arddangos (neu ailddefnyddio casys presennol); paneli graffeg yn bennaf; cyfuniad o oleuadau newydd a rhai stoc; dim eitemau clyweledol na rhyngweithiol; setiau a dodrefn syml.
Caniatewch £1,000/m2.
Arddangosfa manyleb ganolig
Yn cynnwys rhai casys arddangos o safon amgueddfa a rhai gorchuddion Perspex; goleuadau; eitemau clyweledol neu ryngweithiol syml; graffeg; setiau a dodrefn syml gyda rhai eitemau o fanyleb uwch; mowntiau ac ategolion.
Caniatewch £2,500/m2.
Arddangosfa manyleb uchel
Yn cynnwys casys arddangos o safon amgueddfa; eitemau clyweledol neu ryngweithiol; goleuadau; graffeg; setiau a dodrefn â manyleb uwch; fframiau, mowntiau ac ategolion.
Caniatewch £4,000/m2.
Mae’r costau sampl isod yn rhoi syniad o gostau elfennau unigol mewn arddangosfa. Rhaid ychwanegu TAW at yr holl gostau a nodir ac, os byddwch yn gweithio gyda chwmni dylunio, bydd ffioedd dylunio a rheoli yn gyfraneddol â chost yr arddangosfa. Canllaw yn unig yw’r costau ac maent yn adlewyrchu prisiau 2025.
| Elfen | Cost amlinellol |
|---|---|
| Ffioedd ymgynghorydd dylunio arddangosfeydd (a godir fel % o gyllideb y prosiect) | 15% |
| Ymchwil i’r cynnwys a datblygu’r cynnwys | £60 yr awr |
| Ysgrifennu a golygu sgript/testun | £60 yr awr |
| Ymchwil i ddarlunio/lluniau, hawlfraint | £50 yr awr |
| Paneli graffeg: | |
| Dylunio graffig | £300 y panel |
| Gwaith celf graffig | £300 y panel |
| Panel graffeg 900mm × 1400mm o MDF 12mm wedi’i lapio â deunydd wedi’i argraffu’n digidol neu: Argraffu uniongyrchol i’r is-haen – panel graffeg 900mm × 1400mm o Foamex 5mm | £250 £125 |
| Eitem ryngweithiol fecanyddol technoleg isel | £5,000 i £8,000 |
| Costau dylunio eitem ryngweithiol | £60 yr awr |
| Eitemau rhyngweithiol technoleg isel (fel jig-sos) | £500 i £1,200 |
| Dylunio / gwaith celf ar gyfer eitemau rhyngweithiol | £60 yr awr |
| Pwynt sain gyda phenset (heb y cynnwys) | £450 |
| Sgrin ddigidol 32” gyda chwaraewr mewnol | £500 |
| Sgrin gyffwrdd 32” gyda chyfrifiadur mewnol | £1800 |
| Cas arddangos manyleb uchel: lled 2000mm × uchder 2000mm × dyfnder 600 mm gyda golau mewnol, dim silffoedd | £15,000 i £18,000 |
