Neidio i'r prif gynnwy

Cynghorir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio yn ystod y misoedd nesaf gan y bydd gwaith hanfodol o osod wyneb newydd yn dechrau ar yr A470 a'r A483 yn Llanfair-ym-Muallt rhwng 3 Tachwedd 2025 a 1 Mawrth 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Oherwydd natur gul y gefnffordd yn Llanfair-ym-Muallt, bydd angen cau'r ffordd ar wahanol adegau drwy gydol y cyfnod hwn. Mae'r gwaith wedi'i gynllunio mewn tri cham i leihau tarfu ar y gymuned leol a busnesau dros gyfnod y Nadolig gyda'r holl reolaeth traffig yn cael ei ddileu erbyn 5 Rhagfyr cyn cael ei ail-weithredu ar 5 Ionawr.

Cynhelir Digwyddiad Gwybodaeth i'r Cyhoedd yn Neuadd Strand, Llanfair-ym-Muallt ar 15 Hydref er mwyn i aelodau'r cyhoedd gael rhagor o wybodaeth am y gwaith arfaethedig.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o hwb ariannol £25 miliwn Llywodraeth Cymru i adnewyddu prif ffyrdd Cymru ac atal tua 30,000 o ddiffygion a thyllau ar y ffyrdd. Bydd y buddsoddiad yn golygu y bydd 100 cilomedr ychwanegol o'r rhwydwaith ffyrdd strategol yn cael wyneb newydd, gyda'r ffyrdd sydd fwyaf angen eu hatgyweirio yn cael eu blaenoriaethu.

Ers 2021 mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £81m ar waith gosod wyneb newydd ar oddeutu 321km o ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd ledled Cymru. Ynghyd â'r gwariant a ragwelir ar gyfer 2025-26, bydd £118 miliwn wedi'i fuddsoddi i atgyweirio mwy na 500 cilomedr o ddiffygion a thyllau ar y ffyrdd erbyn diwedd y tymor hwn o'r Senedd.

Bydd hysbysiad o'r gwaith yn cael ei gyhoeddi ar wefan Traffig Cymru