Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cwblhawyd yr Adolygiad o Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, a gadeiriwyd yn annibynnol, ym mis Mawrth eleni. Ar 31 Mawrth, cyhoeddais fy mwriad i fwrw ymlaen â phob un o'r 23 argymhelliad yn llawn ac ar fyrder. Rhaid inni lanhau ein hafonydd a’n dyfroedd arfordirol. 

Mae lle i’r llywodraeth, cwmnïau dŵr, ffermwyr, sefydliadau amgylcheddol, cadwyni cyflenwi a rhai eraill i chwarae rhan. Rhaid inni fynd ymhellach nag o’r blaen, gan herio’n gilydd fwy nag erioed, a rhaid inni symud yn gyflym er mwyn gwneud gwelliannau gwirioneddol. Roedd yr Uwchgynhadledd Dŵr, a gynhaliwyd ar Medi 25, yn canolbwyntio yn benodol ar amaethyddiaeth. Mae rhoi’r argymhellion a ddaeth o’r adolygiad ar waith yn elfen hanfodol o’r gwaith hwn ac rwyf am ddiweddaru’r Senedd ar y cynnydd a wnaed. 

Ymgysylltu â rhanddeiliaid, a'r broses

Oherwydd natur gymhleth a thechnegol yr argymhellion a phwysigrwydd cydweithredu, byddaf yn tynnu ar brofiad y broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wrth symud ymlaen. Rydym yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen newydd i ymgysylltu ynghylch yr argymhellion a llywio'r gwaith o ddatblygu cynigion i'w gweithredu. Cyn bo hir byddwn yn galw ar bobl i ddatgan diddordeb.

Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd y gwaith hwn i amrywiaeth o randdeiliaid, byddaf yn sicrhau bod Bord Gron Weinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Bord Gron cyrff amgylcheddol anllywodraethol yn cael gwybod am y cynnydd a wneir. Ymhellach at hynny bydd angen ymgynghori'n ffurfiol ar unrhyw gynigion ynghylch newidiadau sylweddol i'r rheoliadau, a bydd angen gwneud yr Asesiadau Effaith angenrheidiol. 

Er mwyn ategu y gwaith hwn, mae swyddogion yn drafftio manylebau technegol ar gyfer gwaith i'w wneud gan gontractwyr sydd ag arbenigedd gwyddonol ac agronomig. Mae'r manylebau yn cynnwys gwaith ymchwilio mewn perthynas ag argymhellion allweddol, gan gynnwys opsiynau eraill o ran y cyfnodau gwaharddedig a'r mesurau diogelu pridd a'r terfyn 170kg. Mae Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Chymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu - corff niwtral, annibynnol, nid-er-elw - ynghylch ei hadolygiad o ganllawiau'r diwydiant ar arferion gorau mewn perthynas â storio slyri ar gyfer cynllunwyr, contractwyr a gweithredwyr amaethyddol er mwyn llywio cynlluniau storio slyri i'r dyfodol. 

Trawsgydymffurfio a gorfodi

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £1.58 miliwn ar gyfer gwaith gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt y Rheoliadau ym mlwyddyn ariannol 2025-26, sy’n targedu gweithgareddau amaethyddol risg uwch. Mae swyddogion yn adolygu'r broses drawsgydymffurfio, gyda'r bwriad o sicrhau nad yw ffermydd yn cael eu cosbi lle maent wedi cymryd y camau priodol i liniaru risgiau llygredd mewn amgylchiadau heriol, a lle mae unrhyw dorri ar amodau trawsgydymffurfio o ganlyniad i gyfyngiadau TB. Rwy'n awyddus i'r grŵp gorchwyl a gorffen ymchwilio i'r mater hwn yn fuan a datblygu ateb cynaliadwy a hirdymor. 

I'ch atgoffa, lle na chydymffurfir â'r Rheoliadau, gall fy swyddogion a CNC hefyd ystyried unrhyw amgylchiadau eithriadol nas rhagwelwyd a allai fod wedi arwain at dorri amodau trawsgydymffurfio. Pan fo ffermwyr o'r farn bod unrhyw ddiffyg cydymffurfio i'w briodoli i faterion annisgwyl y tu hwnt i'w rheolaeth, gellir ystyried amgylchiadau fesul achos; gallai hyn gynnwys cyfyngiadau TB. 

Rwyf hefyd wedi cyfarwyddo swyddogion i fwrw ymlaen â'r newidiadau o fewn Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio a gyflwynwyd ym mis Hydref 2024, mewn perthynas â safleoedd storio silwair a slyri a chaeau. Mae'r newid hwn yn golygu bod modd gweithredu cosbau mewn ffordd fwy cymesur, a bydd yn parhau i fod ar waith nes bod newid rheoleiddiol yn y maes hwn wedi'i archwilio.

Daeth yr adolygiad i'r casgliad y dylid ystyried darparu mecanwaith gorfodi priodol a chymesur, drwy weithredu sancsiynau sifil. Yn annibynnol ar yr adolygiad o Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, fel rhan o'r cynigion sy'n deillio o Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru), rydym wedi bod yn ystyried y potensial ar gyfer dull gorfodi mwy hyblyg a chymesur drwy sancsiynau sifil. Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bydd cynnwys sancsiynau sifil yn parhau i gael ei ystyried mewn perthynas â newidiadau pellach i Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.