Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n darparu diweddariad ar waith pedwar Adolygiad Tymor Byr a ddatblygwyd ymhellach dros yr haf i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni ein Cenhadaeth Economaidd. Mae'r adolygiadau hyn wedi'u rhoi ar waith i wrando ar ein partneriaid i ganolbwyntio ar welliant parhaus, ond maent hefyd yn hanfodol wrth archwilio meysydd ar gyfer atebion newydd.
Roedd pob un o'r pedwar adolygiad yn dwyn ynghyd arbenigedd allanol o bob rhan o ddiwydiant, y byd academaidd, gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal ag undebau llafur. Maent yn cyd-fynd â'n hamcanion yn y Genhadaeth Economaidd ac yn eu tro, maent wedi galluogi mewnbwn i Strategaeth Ddiwydiannol y DU, lle rydym yn parhau i weithio ar y cyd ac yn ddi-oed â Llywodraeth y DU. Mae ein heconomi yn parhau i esblygu a newid, ac mae'n hanfodol ein bod yn gallu symud ymlaen a gwrando ar y rhwystrau a'r heriau ymarferol sy'n effeithio ar ein hamgylchedd busnes nawr ac o bosibl yn y dyfodol.
Cynhyrchiant Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) a Sgiliau Gwyrdd
Yn gyntaf, mae'n bleser gennyf rannu'r newyddion bod dau adroddiadsy'n canolbwyntio ar feysydd allweddol o bwysigrwydd strategol o fewn ein Cenhadaeth Economaidd wedi cael eu cyhoeddi: Cynhyrchiant BBaCh a Sgiliau Gwyrdd. Mae'r adroddiadau hyn yn darparu mewnwelediadau hanfodol i feysydd lle gallwn yrru cyflawni trawslywodraethol a lle gallwn ganolbwyntio ar welliant parhaus ond hefyd archwilio atebion newydd.
Mae BBaChau yn ffurfio cyfran fawr o economi Cymru, ac mae deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n eu hwynebu yn hanfodol ar gyfer sbarduno twf cynaliadwy. Bydd y mewnwelediadau o'r adolygiadau hyn yn helpu i lywio ein hymdrechion parhaus i hybu cynhyrchiant, cefnogi arloesedd, a sicrhau bod gan fusnesau y sgiliau gwyrdd sydd eu hangen i ffynnu mewn dyfodol carbon isel. Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar draws y sector i droi'r canfyddiadau hyn yn gamau gweithredu ystyrlon.
Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr a Deallusrwydd Artiffisial
Cyflwynwyd adroddiadau pellach hefyd ynglŷn â Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr a Deallusrwydd Artiffisial. Daeth y cyntaf o'r rhain i ben ddiwedd 2024 a chynhaliwyd y gwaith hwn trwy'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr a gyhoeddodd y prosbectws porthladd a'r cynllun gweithredu ym mis Mehefin. Mae'r adroddiad ar Ddeallusrwydd Artiffisial wedi'i gwblhau ac mae'n bwydo'n uniongyrchol i ddatblygu Cynllun Gweithredu Deallusrwydd Artiffisial, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori'r argymhellion yn uniongyrchol yn ein gwaith ac rydym yn derbyn canfyddiadau'r grŵp arbenigol yn llawn.
Y Camau Nesaf
Mae'r adolygiadau hyn eisoes yn dylanwadu ar ein gwaith, ac rydym yn benderfynol o roi mwy o bwyslais ar swyddi, wrth adeiladu economi Cymru sy'n cymryd yr awenau mewn meysydd sydd â photensial yn y dyfodol. Mae argymhellion y pedwar grŵp wedi'u derbyn a byddant yn llywio ein gwaith. Rwy'n bwriadu datblygu adroddiadau diweddaru erbyn dechrau'r gwanwyn, a fydd yn dangos y camau rydyn ni wedi'u cymryd.
Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r grwpiau arbenigol. Mae'r dull cydweithredol hwn wedi dangos partneriaeth gymdeithasol ar waith. Mae hyn yn sicrhau bod y broses o ddatblygu polisi yn adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau ac wedi'i gwreiddio ym mhrofiadau byw gweithwyr, cyflogwyr a chymunedau. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i sicrhau bod twf economaidd yn cyd-fynd ag egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a thegwch rhanbarthol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid yn y camau nesaf i ganolbwyntio ar roi'r canfyddiadau ar waith.
