Neidio i'r prif gynnwy

Mae prif brynwyr cwmniau teithiau y DU sy'n gwerthu gwyliau yn y DU i ymwelwyr rhyngwladol wedi bod yn teithio o amgylch Cymru yr wythnos hon i brofi arlwy twristiaeth y wlad drostynt eu hunain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y daith pedwar diwrnod, a drefnwyd gan Croeso Cymru ac mewn partneriaeth â UKinbound, yn cysylltu'r prynwyr ag amrywiaeth o fusnesau twristiaeth o bob cwr o Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys atyniadau, cwmnïau golygfeydd a gwestai sy'n awyddus i ddenu mwy o ymwelwyr rhyngwladol a gweithio gyda'r diwydiant teithio ehangach i wneud hynny.

Yn 2024, croesawodd Cymru 929,000 o ymwelwyr rhyngwladol, gan gynhyrchu mwy na £488 miliwn i economi Cymru a chefnogi miloedd o swyddi yn y diwydiant.

Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau yn ne Cymru â'r Fenni, Castell Caerffili, rhagolwg o ganolfan ymwelwyr Pont Gludo Casnewydd, Gwinllan White Castle a thaith Gardd Llanofer a phrofiad unigryw Persawr Cymru. Yna yn y gogledd taith Blasu Wrecsam, a chyfle i weld Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chrwydro Castell y Waun. 

Fe wnaeth y prynwyr hefyd gyfarfod â nifer o gyflenwyr yng Nghymru, gan gynnwys rheilffyrdd treftadaeth, cwmni bysiau, Cadw a Maes Awyr Caerdydd mewn digwyddiadau rhwydweithio yng Ngwesty'r Angel, y Fenni, a dros 70 o fusnesau o Gymru a'r DU o'r economi ymwelwyr rhyngwladol yn stadiwm STōK Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dwristiaeth:

Mae Cymru yn parhau yn un o gyrchfannau mwyaf cyfareddol y byd, lle mae miloedd o flynyddoedd o hanes a diwylliant yn sicrhau bod ymwelwyr yn cael eu croesawu gydag ymdeimlad gwirioneddol o 'hwyl'.

Yn benodol, rydym yn gweld galw cynyddol am deithiau wedi'u teilwra a phrofiadau bwyd a diod fel ein distyllfeydd, gwinllanoedd a theithiau bwyd, yn ogystal â cheisiadau o’r safon uchaf yn enwedig o'r Unol Daleithiau a Chanada.

Mae'n wych cael y cyfle yr wythnos hon i ddangos beth sydd gan Gymru i'w gynnig i'r cwmnïau teithiau pwysig hyn gan wybod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth ddenu ymwelwyr rhyngwladol.

Wrth sôn am y digwyddiadau, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol UKinbound Joss Croft OBE:

Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i deithwyr rhyngwladol sy'n dymuno ymweld â'r DU, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod â'r grŵp gwych hwn o brynwyr i'r gyrchfan, gan roi cyfle iddynt weld beth sydd ar gael a sut y gallant ymgorffori Cymru yn y teithiau maen nhw'n eu gwerthu i ymwelwyr rhyngwladol. 

Gyda chymaint o ymwelwyr rhyngwladol wedi'u hysbrydoli i ymweld â lleoliadau maen nhw'n eu gweld ar y sgrin, roedd yn arbennig o werthfawr i'n prynwyr brofi Clwb Pêl-droed Wrecsam yn uniongyrchol, fel y gallant hyrwyddo'r rhan hon o Gymru i'w cleientiaid.

Dywedodd Jo Nugent, Rheolwr Gwerthu a Marchnata, Gwesty'r Angel yn y Fenni:

Rydym wedi gweld canlyniadau sylweddol ers gweithio'n rhagweithiol gyda Croeso Cymru a thîm y diwydiant teithio ac rydym yn falch iawn o fod wedi croesawu mwy a mwy o westeion rhyngwladol o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn. 

Byddwn yn argymell yn gryf i fusnesau twristiaeth gymryd rhan yn unrhyw weithgareddau y gallant o fewn y diwydiant teithio, o sioeau masnach a digwyddiadau rhwydweithio, i deithiau ymgyfarwyddo a chynnal cwmnïau unigol.