Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil ar gapasiti a galw presennol, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer twf yn nhwristiaeth golff.

Mae ymwelwyr yn ffynhonnell refeniw hanfodol i glybiau golff. Yn ogystal â’r incwm a ddaw yn sgil ffioedd gwyrdd, mae ymwelwyr yn tueddu i wario mwy nag aelodau ar fwyd a diod; ac os oes gan y clwb lety, efallai y bydd ymwelwyr yn aros dros nos. Gellir defnyddio incwm a ddaw o du ymwelwyr i ailfuddsoddi yn y clwb, a gall incwm o’r fath helpu i gadw ffioedd aelodaeth ar lefel resymol.

Mae’r mwyafrif o glybiau’n awyddus i ddenu rhagor o ymwelwyr, oherwydd maent yn cydnabod pa mor bwysig yw’r refeniw a gynhyrchir ganddynt. Mae hyn yn cynnwys yr haf hyd yn oed, pan geir diwrnodau hirach a mwy o amser i chwarae golff.

I’r mwyafrif o glybiau, mae bron pob un o’u hymwelwyr (dros 95%, fel arfer) yn dod o’r DU, yn bennaf o Loegr. Mae hyn yn wir hyd yn oed am glybiau uwch eu bri. Y prif dymor yw Ebrill-Hydref. Ychydig o ddiddordeb sydd gan glybiau a chwaraewyr fel ei gilydd mewn gwyliau golff yn ystod y gaeaf.

Mae grwpiau mawr neu bobl sy’n teithio o bell, yn enwedig o wledydd tramor, yn fwy tebygol o ddefnyddio trefnwyr teithiau. Po agosaf a pho leiaf yw’r grwpiau, po fwyaf tebygol ydynt o wneud trefniadau’n uniongyrchol. O’r herwydd, mae trefnwyr teithiau’n bwysig i glybiau sy’n dymuno bwrw’u rhwyd yn eang a denu nifer fawr o ymwelwyr.

Adroddiadau

Ymchwil ar y galw a’r capasiti ar gyfer twristiaeth golff , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jo Starkey

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.