Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

Mae cwmni gwasanaethau TG ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n harneisio pŵer deallusrwydd artiffisial (AI) yn ehangu ac yn creu swyddi gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd ITCS yn sefydlu pencadlys newydd yng Nghymru, gan ddyblu ei gapasiti presennol wrth iddo fynd ar drywydd cyfleoedd twf uchelgeisiol.

Bydd cyllid Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru gwerth £350,000 yn diogelu swyddi yn y busnes ac yn creu 60 o swyddi eraill erbyn 2028.

Wedi'i sefydlu yn 2004, mae ITCS yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu sefydliadau i sbarduno cynhyrchiant trwy awtomeiddio tasgau arferol, gwella prosesau gwneud penderfyniadau, a chyflymu trawsnewidiad digidol.

Bydd ei bencadlys newydd wedi'i leoli yn Ystad Ddiwydiannol Waterton a bydd yn cynnwys gofod swyddfa uwch-dechnoleg, a chanolfan weithrediadau seiberddiogelwch.

Bydd hefyd yn cynnwys cyfleuster hyfforddi o'r radd flaenaf, ac mae'r cwmni'n bwriadu gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog myfyrwyr i ymwneud â maes TG a Seiberddiogelwch. Ochr yn ochr â hyn, bydd yn cynnig cyfleoedd TG i oedolion sy'n dymuno uwchsgilio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae cefnogi swyddi yn niwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bydd y prosiect hwn yn darparu cyflogaeth o ansawdd uchel mewn rhan o Gymru sydd â chlwstwr TG sy'n datblygu'n gyflym.

Bydd y buddsoddiad yn y pencadlys newydd hwn yn darparu'r cyfleusterau sydd eu hangen ar ITCS i ffynnu, wrth iddo fynd ar drywydd arloesi, datblygu sgiliau a thwf hirdymor.

Dywedodd Brian Stokes, Rheolwr Gyfarwyddwr ITCS:

Dyma gyfnod cyffrous i ITCS wrth i ni gymryd y cam nesaf o ran ein twf. Gyda thros 20 mlynedd o brofiad, rydym wedi helpu sefydliadau i drawsnewid y ffordd maen nhw'n gweithio, gan sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn cynhyrchiant ac arbedion cost sylweddol. Bydd ein pencadlys newydd yn caniatáu inni ehangu ein capasiti a darparu hyd yn oed mwy o werth i gleientiaid newydd a phresennol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chymorth, sydd wedi bod yn allweddol wrth wneud y buddsoddiad hwn yn bosibl. Rydym nawr yn edrych ymlaen at groesawu pawb i'n cyfleuster arloesol newydd i arddangos a thrafod sut y gall ITCS wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau wrth iddynt gofleidio deallusrwydd artiffisial a dyfodol technoleg.