Neidio i'r prif gynnwy

Mae grŵp o artistiaid blaenllaw a phwysigion diwydiant creadigol Cymru wedi cyrraedd Japan i roi hwb i gyfleoedd rhwng y ddwy wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae dros 20 o ddigwyddiadau wedi'u trefnu, o Tokyo i Osaka, Oita a Hokkaido, gyda ymhlith eraill:

  • Gwenno, fydd yn canu caneuon o'i halbwm diweddaraf 'Utopia' mewn gigs agosatoch,
  • Only Boys Aloud, fydd yn canu gyda chorau o Japan ledled y wlad,
  • Theatr Hijinx, fydd yn perfformio eu cynhyrchiad cynhwysol gwobrwyog, 'Meet Fred'

Mae Cian Ciaran o'r Super Furry Animals hefyd yn ymuno â'r daith gyda'i ddehongliad newydd o chwedlau gwerin o Gymru ar bianos Yamaha sy'n chwarae eu hunain, hynny yn dilyn cyhoeddi ailffurfio'r grŵp a thaith.

I roi hwb i'r criw artistiaid, bydd cynrychiolwyr byd theatr, ffilm a llenyddiaeth yn ymuno â'r daith i sbarduno prosiectau cydweithio creadigol.

Mae'r daith yn rhan o Flwyddyn Cymru a Japan Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael nawdd partneriaid ledled Cymru gydol 2025 i gryfhau cysylltiadau busnes, chwaraeon a diplomyddol.

Meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru: 

Mae'r daith gyfnewid diwylliannol cyffrous hon yn dod â'r gorau o Gymru i’r llwyfan rhyngwladol. Mae ein hartistiaid yn llysgenhadon dros greadigrwydd Cymru, ac yn rhannu ein treftadaeth gyfoethog tra'n ysbrydoli partneriaethau newydd â Japan.

Bydd y cyweithiau hyn yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn cryfhau'r cwlwm rhyngom trwy iaith gyffredin y celfyddydau a diwylliant.

Dywedodd Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru, Elena Schmitz: 

Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio â Llywodraeth Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru i gyflwyno Rhaglen Ddiwylliannol Cymru Japan 2025. Mae cysylltiadau diwylliannol dwfn eisoes rhwng ein dwy wlad, ac mae'r prosiectau creadigol hyn yn cynnig ffordd bwerus o gryfhau a dathlu'r cysylltiadau hyn.

Rydym yn noddi dros 20 o brosiectau mewn amrywiaeth o ffurfiau celf gwahanol ond pob un â ffocws clir ar les diwylliannol, cynaliadwyedd, cynhwysiant ac ieithoedd brodorol. Bydd yn gyffrous gweld y gweithgareddau hyn yn dod yn fyw yn ystod wythnos o ddigwyddiadau yn Osaka a Tokyo yr wythnos nesaf, a thu hwnt.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker, yn cynnal trafodaethau fel y bu Cymru y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Cymru wedi bod yn gweithio gyda Japan i sicrhau bod penderfyniadau polisi a wneir heddiw yn diogelu buddiannau cenedlaethau yfory.