Bydd gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth yn cryfhau eto y berthynas agos rhwng y Gogledd a Glannau Mersi, gyda chysylltiad trên uniongyrchol ar y gweill rhwng Llandudno a Lerpwl a gwasanaethau gwell rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Fel rhan o Rwydwaith y Gogledd bydd gwasanaeth trên uniongyrchol newydd yn rhedeg o Landudno i Lerpwl o fis Mai 2026, a bydd gwelliannau yn Padeswood yn creu capasiti newydd i gludo nwyddau a theithwyr rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Cyfarfu'r Prif Weinidog Eluned Morgan â Maer Dinas-ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram, ynghyd â chadeirydd Trafnidiaeth Cymru, Vernon Everitt, yng ngorsaf Cyffordd Llandudno yn ddiweddar i drafod pwysigrwydd y cysylltiadau hyn.
Nod Rhwydwaith y Gogledd yw datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, rheolaidd ar gyfer Gogledd Cymru, gyda'r metro yn galon iddo, gyda chysylltiadau i Lannau Mersi, Swydd Gaer a thu hwnt.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill ar reilffyrdd y Gogledd. Diolch i'n buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd, mae mwyafrif helaeth gwasanaethau TrC yn y rhanbarth nawr ar drenau newydd. Mae cysylltiadau gwell â Glannau Mersi ar y gorwel, gyda threnau uniongyrchol rhwng Llandudno a Lerpwl, fydd yn pasio trwy Gyffordd Llandudno lle rydym heddiw.
"Mae'r Gogledd yn rhannu hanes hir â Lerpwl a bydd gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth hyn yn cryfhau'r berthynas honno ymhellach. Bydd hefyd yn hwb i'r economi."
Dywedodd y Maer Rotheram:
"Mae Dinas-ranbarth Lerpwl a Gogledd Cymru yn rhannu cysylltiadau hanesyddol, economaidd a diwylliannol dwfn - a bydd cysylltiadau trafnidiaeth gwell ond yn cryfhau'r bartneriaeth honno yn y dyfodol.
"Mae creu cysylltiadau gwell ar draws Gogledd Orllewin Lloegr ac i Ogledd Cymru yn rhan allweddol o'n gweledigaeth ar gyfer economi fwy cysylltiedig a mwy cynhyrchiol. Trwy'r Northern Arc, gyda rheilffordd Lerpwl-Manceinion yn sail iddi, gallwn greu hyd at £90 biliwn o dwf economaidd a helpu i ddatblygu tua hanner miliwn o gartrefi newydd.
"Bydd y cysylltiadau newydd hyn yn helpu i ddod â phobl o bob ochr y ffin yn nes at gyfleoedd – boed hynny'n swydd newydd, ymweld â theulu, neu fynd i'n stadiwm pêl-droed, yr Eisteddfod neu noson allan yn y dref!"
Dywedodd Vernon Everitt, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru:
"Yn TrC, rydym yn buddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bobl a busnesau ledled y wlad, gan gynnwys £800 miliwn ar drenau newydd sbon. Yn dilyn hynny, byddwn yn gwella gwasanaethau bysiau lleol a rhanbarthol wrth i ni fasnachfreinio'r bysiau mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol dros y blynyddoedd nesaf.
"Gyda chymorth ein partneriaid, rydym yn prysuro at ddechrau rhoi'r cynlluniau ar gyfer Rhwydwaith y Gogledd ar waith - sy'n cynnwys cysylltiadau lleol a thrawsffiniol gwell a system 'talu wrth fynd' symlach i'n cwsmeriaid. Bydd y gwaith cyffrous hwn yn hybu twf yr economi ac yn cysylltu mwy o bobl a chymunedau â swyddi, cartrefi a chyfleoedd ehangach."
