Heddiw, bydd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn cyhoeddi cronfa newydd i gymunedau ledled Cymru i'w helpu nhw i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.
O heddiw ymlaen, bydd modd gwneud ceisiadau ar gyfer gweithgareddau i geisio dod â chymunedau ynghyd i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru, Dewi Sant, ar 1 Mawrth. Gallai gweithgareddau gynnwys gorymdeithiau, perfformiadau cerddorol, gweithdai cymunedol, twmpathau neu ddigwyddiadau sy'n ymwneud â bwyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi 2026.
Bydd sefydliadau'n gallu gwneud cais am dair lefel o gyllid, o grwpiau cymunedol bach i sefydliadau cenedlaethol mawr.
Gall grwpiau lleol wneud cais am grantiau gwerth rhwng £500 a £5,000 i gynnal digwyddiadau lleol neu gymdogaeth. Bydd hyd at £20,000 ar gael i sefydliadau rhanbarthol, fel awdurdodau lleol, a hyd at £40,000 i sefydliadau Cymru gyfan i gynnal gweithgareddau ar lefel genedlaethol.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ddathlu traddodiadau unigryw a chyfoethog Cymru. O eisteddfodau ysgol i orymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi, mae pobl ledled Cymru ac ar draws y byd yn dod at ei gilydd bob blwyddyn i ddangos y gorau o'n diwylliant a chymaint mwy sydd gan Gymru i'w gynnig.
"Ry'n ni'n genedl hynod falch – ry'n ni'n cefnogi'r Cymry mewn digwyddiadau chwaraeon mawr, yn dathlu ein diwylliant a'n hiaith, ac yn byw ein bywydau bob dydd mewn ffordd unigryw Gymreig.
"Bydd gweithgareddau ychwanegol y flwyddyn nesaf yn dathlu ein hysbryd, ein balchder a'r undod sy'n ein diffinio ni. Ry'n ni am i bawb deimlo'n rhan o'r digwyddiad hwn – drwy rannu straeon, cymryd rhan yn ein traddodiadau a dathlu'r Gymru fodern ry'n ni'n falch o'i galw'n gartref.
"Gadewch inni wneud Dydd Gŵyl Dewi 2026 y mwyaf cofiadwy eto – yn adlewyrchiad gwirioneddol o bwy y'n ni, o ble ry'n ni'n dod a beth sy'n gwneud Cymru'n genedl wych."
Bydd y gronfa ar agor i geisiadau tan 12pm ddydd Gwener 14 Tachwedd 2025. I wneud cais, ewch i: Dydd Gŵyl Dewi 2026: Cronfa gymorth beilot
