Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pleser yw rhoi gwybod heddiw ein bod yn cyhoeddi ein polisi diwygiedig ar Ddal a Storio Carbon (CCS).

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2025, rydym wedi cymryd amser i ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad, yn ogystal â chyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar Bedwaredd Gyllideb Garbon Cymru, ac Adolygiad Gwariant a Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yn un lle caiff diwydiannau cynaliadwy eu cadw yng Nghymru, gan gynnal gyrfaoedd a swyddi o ansawdd uchel a rhoi buddion eraill i’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Mae Cymru yn falch o’i sylfaen ddiwydiannol, a rhaid inni annog buddsoddiad angenrheidiol i ategu’r gwaith o bontio tuag at ddyfodol cynaliadwy a fydd wedi’i ddatgarboneiddio. 

Ar sail cyngor a safbwyntiau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Diwydiant Sero Net Cymru, a’n rhanddeiliaid diwydiannol, academaidd a chyhoeddus, rydym yn cymryd camau beiddgar i gynorthwyo diwydiant i ddatgarboneiddio, fel y nodir yn Cymru Sero Net (sef ein cynllun strategol ar gyfer cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr net erbyn 2050).

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd o’r farn bod yr holl lwybrau credadwy y gellir eu rhoi ar waith er mwyn galluogi Cymru i gyrraedd allyriadau sero net yn cynnwys rôl sylweddol i Ddal a Storio Carbon (CCS). Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd CCS o ran cyrraedd sero net, ond hefyd o ran y cyfleoedd economaidd sylweddol y gall y dechnoleg eu cynnig i ddiwydiannau, busnesau a dinasyddion Cymru. Bydd prosiectau CCS yn creu gyrfaoedd a swyddi yn ystod y camau adeiladu, gweithredu a chynnal-a-chadw, a hefyd byddant yn diogelu swyddi mewn sectorau eraill ac yn darparu cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi.

Manylion a Chanlyniadau’r Ymgynghoriad

Cafwyd tri deg chwech o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r ymatebion hyn yn cynrychioli trawstoriad eang o blith y byd diwydiant, y byd academaidd, cyrff y llywodraeth, sefydliadau masnach ac unigolion, a hoffwn ddiolch i’r rhai a ymatebodd.

Aeth nifer o ymatebwyr ati i ddefnyddio’r ymgynghoriad i bwysleisio pa mor bwysig yw CCS ar gyfer datgarboneiddio diwydiant ac ynni, yn enwedig rhai sectorau sy’n anodd eu datgarboneiddio fel cynhyrchu sment a phŵer y gellir ei anfon. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cefnogi’r bwriad i ddefnyddio CCS pan fo modd iddo gyfrannu mewn modd clir a pharhaol at ddatgarboneiddio ac at yr economi, gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg CCS a’r seilwaith sydd ar gael.

Ond soniodd rhai ymatebion am nifer o bryderon yn ymwneud â’r polisi. Rydym wedi gwrando ar yr adborth ac rydym wedi ymrwymo i egluro mwy ar ein polisi. Nid yw’r polisi hwn yn cyflwyno gofynion tystiolaeth newydd; yn hytrach, mae’n cynnig cyd-destun ychwanegol ar gyfer gofynion tystiolaeth cyfundrefnau cydsynio sy’n bodoli eisoes (cynllunio, trwyddedu amgylcheddol ac ati). Yn awr, mae’r polisi’n nodi’r canlynol yn glir:

  • Dim ond ar gyfer safle arfaethedig y gwaith y dylai datblygwyr gyflwyno tystiolaeth sy’n dangos bod CCS yn cyfrannu mewn modd mesuradwy a pharhaol at ddatgarboneiddio.
  • Un o bolisïau pendant Llywodraeth Cymru yw lleihau’n fawr ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ar draws economi Cymru. Mae’r polisi diwygiedig yn cynnal safbwynt na ellir defnyddio CCS i gyfiawnhau’r arfer o ddefnyddio tanwyddau ffosil ar lefelau anghynaliadwy na llesteirio pontio teg Cymru tuag at sero net. Ond mae’n cydnabod yn well na fydd newid tanwydd ac enillion effeithlonrwydd bob amser yn dechnegol nac yn economaidd hyfyw ac mae’n cefnogi CCS yn yr achosion hynny.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd strategol CCS ac mae wedi derbyn barn y Pwyllgor Newid Hinsawdd – sef bod CCS yn hanfodol os ydym am gyflawni a chynnal sero net. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu fframwaith cymorth ariannol a deddfwriaethol cyson ar gyfer datblygwyr yng Nghymru.
  • Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i ddatblygu map trywydd rheoleiddio ac i rannu dealltwriaeth o fframweithiau rheoleiddio datganoledig a fframweithiau rheoleiddio a gedwir yn ôl. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, ar faterion rheoleiddio a materion polisi fel ei gilydd, er mwyn sicrhau bod ein polisïau’n cydweddu a bod modd iddynt gyflawni ein nodau cyffredin mewn perthynas â datgarboneiddio a’r economi.
Polisi Strategol Terfynol ar gyfer CCS

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y defnyddir CCS yn ddiogel ac yn effeithiol, gan wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg i esgor ar fuddion datgarboneiddio a buddion economaidd yng Nghymru. Mae’r polisi’n annog yr arfer o ddefnyddio CCS pan:

  • mae’n gwneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaol at dargedau ac amcanion datgarboneiddio
  • mae’n ategu ac yn cyflymu’r pontio oddi wrth danwyddau ffosil
  • mae’n cyfrannu at economi gynaliadwy sy’n tyfu

Ni fwriedir i CCS gymryd lle’r arfer o leihau allyriadau yn fwy cyffredinol ac ni ddylai gyfiawnhau’r arfer o ddefnyddio tanwyddau ffosil ar lefelau anghynaliadwy na llesteirio ein pontio tuag at sero net.

Fodd bynnag, mae’r polisi’n annog buddsoddi mewn prosiectau CCS arloesol, mae’n cynnig mwy o eglurder ac mae’n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, rheoleiddwyr a datblygwyr i helpu i gyflawni uchelgeisiau sero net Cymru a’r DU.

Bydd ein sefyllfa bolisi strategol derfynol ar gyfer CCS yn gorwedd ochr yn ochr â’n fframwaith polisi esblygol, sy’n anelu at osgoi cloddio a defnyddio tanwyddau ffosil, yn ogystal â darparu dewisiadau amgen ar gyfer newid tanwydd a rheoli’r allyriadau hynny na ellir eu hosgoi.