Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n falch o roi gwybod i chi ein bod wedi cyhoeddi Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn addysg a hyfforddiant: cynllun cyflawni i Gymru, sy'n nodi ein cynlluniau a'r camau tydym am eu cymryd i hybu pynciau sy'n gysylltiedig â STEM i ddysgwyr rhwng 3 a 19 oed.

Mae'r cynllun STEM yn seiliedig ar gasgliadau ymchwiliad eang a thrylwyr y Pwyllgor Menter a Busnes i sgiliau STEM, a gynhaliwyd yn 2014. Rhannwyd drafft o'r Cynllun gyda'r Pwyllgor y llynedd, ac rwy'n ddiolchgar am eu sylwadau ac am eu cefnogaeth yn y maes addysg pwysig hwn. Ers hynny, ma'r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru a'i adnewyddu er mwyn iddo adlewyrchu'r amrywiaeth eang o feysydd sy'n cefnogi agenda STEM mewn addysg.

O fewn y fframwaith hwn, mae'r Cynllun yn pennu chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu yn y dyfodol:

  • gwella prosesau dadansoddi a chofnodi cynnydd yn erbyn dangosyddion allweddol
  • datblygu'r gwaith dysgu ac addysgu a wneir mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion
  • datblygu cymwysterau sy'n gysylltiedig â STEM a fydd o safon debyg i rai gweddill y DU ac a fyddant cystal â'r cymwysterau gorau ledled y byd
  • hybu'r gwaith o ddatblygu gweithlu addysg ledled y system yn y tymor hir, a fydd yn hunan-gynhaliol ac yn gallu darparu cwricwlwm STEM newydd, heriol
  • cynyddu diddordeb mewn dysgu STEM a chynyddu'r nifer sy'n astudio'r pynciau hyn, yn enwedig ymhlith merched
  • rhoi sgiliau rheoli gyrfa i bobl ifanc, a'u gwneud yn ymwybodol o'r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw yn y sector STEM.

Bydd y Cynllun STEM yn cael ei fonitro gan y Grŵp STEM mewn Addysg, o dan gadeiryddiaeth Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Julie Williams. Bydd y Grŵp yn adrodd yn ôl i Weinidogion. Mae'r Cynllun yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi datganiad blynyddol gan y Gweinidog ynghylch datblygiadau mewn addysg a hyfforddiant STEM yng Nghymru.

Er bod llawer o waith i'w wneud o hyd o ran cefnogi a datblygu astudiaethau mewn pynciau STEM, hoffwn bwysleisio yn y fan hon bod y Cynllun hefyd yn amlinellu llawer o feysydd lle'r ydym eisoes wedi gweithredu o ran blaenoriaethau allweddol, ac wedi'u cyflawni. Er enghraifft, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi darparu cymorth i ysgolion gyda gwyddoniaeth a mathemateg ar lefel na welwyd ei thebyg o'r blaen. Darparwyd y cymorth hwn drwy bartneriaeth â'r consortia addysg rhanbarthol yn bennaf. Er mwyn datblygu hyn ymhellach, rydym wedi cytuno'n ddiweddar i roi £3.4 miliwn i'r Consortia yn 2016-17 ar gyfer rhaglen a fydd yn cynnwys rhagor o gymorth o ran gwyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg. Rydym hefyd yn darparu cyllid gwerth bron i £1.6 miliwn yn 2016-17 ar gyfer rhaglen gymorth i bynciau STEM mewn ysgolion, a fydd yn canolbwyntio ar y cwricwlwm. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys darpariaeth Techniquest.

O ran mathemateg, rydym wedi derbyn pob un o'r 14 argymhelliad a wnaed yn adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Mathemateg. Rydym yn gwella cefnogaeth i fathemateg ar lefel addysg gynradd, gyda chyfres o ddigwyddiadau Mathemateg ar gyfer Bywyd Bob Dydd ar gyfer ysgolion cynradd y Gwanwyn hwn. Rydym hefyd yn ystyried adeiladu ymhellach ar lwyddiant Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach yng Nghymru.

Rwyf yn ystyried pynciau STEM yn gonglfaen i'r cwricwlwm newydd, cynhwysol rydym yn ei ddatblygu gyda chymorth ysgolion partner, arbenigwyr a rhanddeiliaid allweddol. Bydd Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn gyfrifoldebau trawsbynciol, ac yn cael eu datblygu ar draws y cwricwlwm. Bydd cyfrifiadureg yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Rydym hefyd yn darparu cymorth ychwanegol i'r gweithlu addysgu, yn unol â'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys datblygu safle Cyfnewid Dysgu newydd ar-lein ar gyfer pynciau STEM, gan gynnwys TGCh a chyfrifiadureg. Bydd hwn yn ei gwneud yn haws cael gafael ar wybodaeth ynghylch cyfleoedd datblygu proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r Fargen Newydd a'r Pasbort Dysgu Proffesiynol.

Fy mhrif uchelgais ar gyfer y Cynllun STEM a'n gwaith yn y dyfodol yw ein bod yn creu newid mawr yn nelwedd gyffredinol pynciau STEM. Mae agweddau tuag at STEM wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn stereoteipiau a goleddwn fel cymdeithas. Mae ein hymgyrch Ffocws ar Wyddoniaeth yn ategu pwysigrwydd astudio gwyddoniaeth, ac yn darparu adnoddau dwyieithog i gynorthwyo athrawon, disgyblion a rhieni. Rydym hefyd yn cynyddu'n hymdrechion i gael mwy o ferched i ymddiddori mewn astudio pynciau STEM - gan gynnwys, er enghraifft, rhoi mwy o gefnogaeth i raglen Rhwydwaith Hybu Ffiseg, sy'n cael ei darparu ledled Cymru gan y Sefydliad Ffiseg.

Mae ein cynllun STEM newydd yn nodi dull cydlynol a chydgysylltiedig o gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n astudio pynciau STEM ac sy'n dilyn gyrfaoedd ym meysydd STEM. Rwy'n falch o gael cyhoeddi'r cynllun cyflawni hwn, er mwyn i bobl Cymru allu gweld yn glir o ble rydym wedi dod, ym mhle rydym ni nawr ac i ba gyfeiriad yr ydym yn mynd.