Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy’n newydd ym AIDAC

Mae llawer wedi digwydd dros fisoedd diwethaf, gan gynnwys rhai newidiadau i’n tîm AIDAC. Safodd Nerys Llewelyn Jones i lawr fel Aseswr Amgylcheddol ar ddiwedd mis Chwefror. Arweiniodd Nerys y sefydliad yn effeithiol dros bedair blynedd diwethaf, ac mae wedi adeiladu rhwydwaith rhagorol o randdeiliaid. Roeddem yn drist iawn ei gweld hi’n mynd. Cymrodd Lynda Warren drosodd fel yr Aseswr Amgylcheddol o 1 Mawrth ac roedd yn hapus i groesawu John Henderson fel aseswr Dirprwy newydd yn fis Mai.

Mae John yn gyfreithiwr ac yn eiriolwr amgylcheddol, yn anelu at ddefnyddio’r gyfraith amgylcheddol i fuddsoddi mewn dinasyddion ac yn yr amgylchedd. Mae ganddo gefndir ffermio ac mae’n parhau i gael rôl weithredol yn brosiect ffermio adfywiol yn Gynghordy.

Mae ein Dirprwy Aseswr rhydd interim arall, Anna Heslop hefyd wedi camu i lawr i gymryd ymlaen ei swydd newydd cyffrous gyda Client Earth. Dymunwn iddi dda yn ei rôl newydd. Mae’r broses o recriwtio dirpwry cyfnewidiol yn mynd i blaen. Mae newidiadau parhaus hefyd i’n tîm ysgrifenyddiaeth. 

Rydym wedi bod yn eithaf prysur er gwaethaf yr anhwylderau y mae’r newdidau hyn wedi’u hachosi. Rydem wedi cyhoedda tri adroddiad ac wedi gwneud defnydd llawn o gyfleoedd i gwrdd â rhanddeiliaid a chymryd rhan a hwy. Cynheluon ni hefyd yn y cyfarfod cyntaf rhwng y Comiswn Ewropeaidd a chorfforaethau goruchwylio’r DU i drafod a chydweithio ar orfodi a monitro’r cyfreithiau amgylcheddol, o dan y cytundeb masnach sy’n dilyn Brexit. 

Gwarchod Gwyrchoedd

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar Warchod Gwrychoedd yng Nghymru yn yr haf. 

Roedden ni’n falch o groesawu rhanddeiliaid i drafodaeth fywiog yn Sioe Frenhinol Cymru lle siaradodd ein panel Arbenigol am gyflwr yr ymylffordd yn Gymru a’r camau y gallwn eu cymryd i’w gwella. Hoffwn ddiolch i Geraint Davies, Eifiona Williams, Nicolas Turner a Rhianne Jones a ymunodd â Lynda ar y panel, yn ogystal a phob un a ddaeth i’r digwyddiad a gofyn cwestiynau.

Gwersi a ddysgwyd

Fe wnaethom adroddiad ar y Gwersi a ddysgwyd yn ystod blynyddoedd cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar Amgylchedd a Seilwaith y Senedd. Mae’r adroddiad hwn yn gwneud nifer o argymhellion i helpu i gorff Llywodraethu parhaol fel y rhagweli yn Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth (Cymru)). Gallwch ddarllen yr adroddiad Yma.

Yn fis Gorffennaf, fe wnaethom ddarparu tystiolaeth ar y Bil i’r amgylchedd gyda’n cydweithwyr o Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban.

Adroddiad Blynyddol

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn hyd at Chwefror 2025. Mae hwn yn rhoi trosolwg o’r cynnydd ar ein holl gyflwyniadau yn ogystal ân weithgareddau yn ystod y flwyddyn.

Adroddiad nesaf

Ar hyn o bryd rydym gwblhau ein hadroddiadau ar Warchod Coed a Choetiroedd, Safleoed Gwarchodedig a Chasglu a Thrin Dŵr Gwastraff ac yn Gobeithio cyhoeddi’r rhain yn fuan. O ystyried datblygiadau sylweddol ym mholisi Llwydoraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu fwy, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac Adolygiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol o’r Sector Dŵr yng

Nghymry a Lloegr, bu’n angenrheidiol ailystyried rhai o’r Casgliadau a’r argymhellion yn yr adroddiadau i sicrhau eu bod yn gyflawn ac yn dal y dirwedd bresennol yn gywir.

Rydym yn ddiolchgar am amynedd llawer sydd wedi bod yn aros yn eiddgar am gyhoeddi’r darnau hyn o waith.

Pan ddechreuon ni ein hymchwiliad i ansawdd dŵr, penderfynon ni eithrio ystyried llygredd amaethyddol oherwydd roedden ni'n meddwl y byddai'n well aros nes bod adolygiad annibynnol Llywodraeth Cymru o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 wedi'i gwblhau. Roedd nifer o'n rhanddeiliaid yn siomedig gyda'n penderfyniad. Mae'r Adolygiad bellach wedi'i gyhoeddi ac rydym yn ystyried a oes angen i ni fwrw ymlaen ag adroddiad ar lygredd amaethyddol o hyd. Rydym wedi gofyn i randdeiliaid am eu barn a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau y dylid eu hanfon at AIDAC@llyw.cymru .

Ffermio Adfywiol gyda Phartneriaeth Dalgylch Wysg

Yn y gwanwyn, cawsom groeso yng Nghrai am drafodaeth am lygredd dŵr, dŵr ffo a dulliau ffermio adfywiol. Ymunodd cynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Partneriaeth Dalgylch Wysg a chynrychiolwyr o'r gymuned ffermio leol â ni ar gyfer cyflwyniadau ar sut mae ffermwyr yn Nalgylch Wysg yn gweithio i ddatblygu arferion ffermio mwy cynaliadwy sy'n lleihau effeithiau amgylcheddol. Cawsom hefyd gyflwyniad gan Sandra Esteves o Brifysgol De Cymru ar ei hymchwil ar dechnoleg adfer maetholion.

Rydym yn ddiolchgar i Keri Davies am drefnu ein hymweliad ac i'w gymuned am gymryd yr amser i gyfarfod â ni. Mae Keri yn angerddol am ffermio cynaliadwy. Mae wedi treulio blynyddoedd yn gweithio fel ffermwr defaid a llaeth ar arferion sy'n lleihau ei effaith amgylcheddol ac yn adfywio'r ardal y mae'n byw ac yn gweithio ynddi. Mae wedi meithrin rhwydwaith sylweddol o bartneriaid gan gynnwys Partneriaeth Dalgylch Wysg, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
 

Digwyddiad Rhanddeiliaid yn y Dyfodol

Rydym yn bwriadu cynnal Digwyddiad Rhanddeiliaid wyneb yn wyneb arall yng Nghaerdydd ar Hydref 29. Y prif bynciau i'w trafod bydd tir halogedig a safleoedd gwarchodedig ond byddem yn croesawu awgrymiadau ar gyfer pynciau eraill i'w hystyried yn y digwyddiad hwn hefyd. Cysylltwch ag IEPAW@llyw.cymru  gydag unrhyw awgrymiadau neu faterion yr hoffech eu codi.

Manylion cyswllt

Os ydych am gysylltu â ni, plîs anfonwch e-bost IEPAW@llyw.cymru 

Os oes gennych bryderon am weithrediad y gyfraith amgylcheddol yng Nghymru, chwiliwch am wybodaeth ar sut i godi eich pryder trwy chwilio am: AIDAC