Darganfod mwy am grantiau a benthyciadau di-log sydd ar gael i helpu i dalu costau gosod pwmp gwres.
Mae pympiau gwres dair gwaith yn fwy effeithlon o ran ynni na boeleri traddodiadol. Oherwydd eu bod yn rhedeg ar drydan, gallant hefyd wneud eich biliau yn llai. Maent wedi cael eu gosod ledled y byd, gan gynnwys mewn gwledydd sydd â gaeafau llawer oerach na Chymru.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnig grant o £7,500 i'ch helpu gyda chostau gosod, yn ogystal â benthyciadau di-log gan Cartrefi Gwyrdd Cymru.
Darganfod mwy ar wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
