Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw gofalu bod bwyd sydd i’w fwyta gan bobl a phorthiant sydd i’w fwydo i anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd yn cael eu cynhyrchu’n ddiogel. Rhaid i bawb sy’n cynhyrchu bwyd neu borthiant gadw at y rheolau hyn, gan gynnwys pawb sy’n magu anifeiliaid i’w bwyta neu i gynhyrchu bwyd (er enghraifft wyau a llaeth).

Prif ofynion

Mae cyngor i fusnesau ar ddigwyddiadau sy’n ymwneud â bwyd a thynnu a galw bwyd yn ôl (ar food.gov.uk) yn esbonio sut i riportio digwyddiadau, ymateb iddynt a’u hatal, gan gynnwys sut i dynnu neu alw cynnyrch anniogel yn ôl.

Diogelwch bwyd/porthiant; eu tynnu o’r farchnad; eu galw yn ôl

  • rhaid peidio â rhoi bwyd neu borthiant anniogel ar y farchnad (sy’n beryglus i iechyd pobl neu nad yw’n ffit i’w fwyta). Ystyrir bod porthiant yn anniogel os yw’n cael effaith ddrwg ar iechyd pobl neu anifeiliaid neu os yw’n gwneud y bwyd a gynhyrchir gan anifeiliaid cynhyrchu bwyd yn anniogel i’w fwyta gan bobl
  • os oes rheswm i gredu nad yw bwyd neu borthiant sy’n cael ei roi ar y farchnad yn bodloni’r safonau diogelwch a’i fod wedi mynd o’ch rheolaeth chi, yna rhaid dilyn y drefn a’i dynnu’n syth o’r farchnad a hysbysu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) neu’ch Awdurdod Lleol
  • os ydy’r bwyd neu’r porthiant eisoes wedi cyrraedd defnyddiwr y bwyd neu’r porthiant, rhaid rhoi’r rheswm iddo dros ei dynnu o’r farchnad. Rhaid galw’r bwyd neu’r porthiant yn ôl os nad oes ffordd arall effeithiol o ddiogelu iechyd y cyhoedd
  • os ydy’r bwyd rydych wedi’i gyflenwi neu sydd o hyd yn eich meddiant ond eich bod yn bwriadu ei werthu, yn peryglu iechyd neu y gallai wneud hynny, rhaid rhoi gwybod i’r FSA neu’r awdurdod lleol ar unwaith

Olrhain

  • rhaid bod systemau neu drefniadau yn eu lle i olrhain mewnbynnau i’ch fferm. Mewnbynnau yw bwyd, porthiant, anifeiliaid cynhyrchu bwyd ac unrhyw sylweddau eraill y disgwylir/bwriedir eu hymgorffori yn y porthiant. Rhaid i gofnodion y fferm ddangos: enw a chyfeiriad eich cyflenwr, natur y cynnyrch sy’n cael ei gyflenwi i chi, a faint ohono, a phryd y cafodd ei gyflenwi i chi
  • rhaid wrth system debyg sy’n rhoi gwybodaeth gyfatebol i olrhain eich cynnyrch wedi iddo adael y fferm (allbynnau)
  • gallwch ddefnyddio system law neu electronig sy’n ffeilio derbynebau yn nhrefn amser. Dylai fod yn gyflawn, yn drefnus, yn ddealladwy ac yn hawdd ei dangos pan ofynnir amdani

Hylendid bwyd a phorthiant

(Nid yw’r adran hon yn berthnasol i gynhyrchwyr sy’n cyflenwi dim ond ychydig o gynnyrch cynradd i’r defnyddiwr olaf e.e. cynnyrch sy’n cael ei werthu yn y fferm neu i siopau lleol sydd wedyn yn ei werthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr olaf.)

  • storiwch wastraff a phob sylwedd peryglus fel na all lygru cynnyrch bwyd neu borthiant. Mae unrhyw sylwedd a all gael effaith ddrwg ar iechyd pobl neu anifeiliaid yn sylwedd peryglus
  • peidiwch â storio porthiant ger cemegau nac wrth unrhyw gynnyrch sydd wedi’i wahardd rhag iddo gael ei fwydo i anifeiliaid
  • rhaid storio porthiant meddyginiaethol neu anfeddyginiaethol sydd wedi’i wneud yn benodol ar gyfer categorïau neu rywogaethau gwahanol o anifeiliaid fel na all gael ei fwydo i’r anifail anghywir trwy ddamwain
  • rhaid gofalu fod porthiant anfeddyginiaethol yn cael ei storio a’i drin ar wahân i borthiant meddyginiaethol rhag iddo gael ei lygru
  • rhaid defnyddio ychwanegion bwyd, cynnyrch milfeddygol, cynnyrch amddiffyn planhigion a bioladdwyr yn gywir gan ddilyn cyfarwyddiadau’r label neu’r milfeddyg o ran y dôs, ei bwrpas a’i storio. Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad oes mwy o weddillion plaladdwyr neu gynnyrch milfeddygol yn y bwyd nag a ganiateir
  • rhaid cymryd mesurau digonol rhag cyflwyno a lledaenu clefydau i bobl trwy fwyd. Mae hyn yn cynnwys:
    • cynnal y profion statudol ar fuchesi am TB Gwartheg a phrofion TB cyn symud ar wartheg
    • cynnal profion TB statudol ar anifeiliaid ar ôl eu symud lle bo angen hynny
    • bod yn ofalus wrth ddod ag anifeiliaid newydd i’r fferm
    • rhoi gwybod i’r awdurdod cymwys os amheuir bod achos o glefyd
  • prynwch borthiant ar gyfer anifeiliaid cynhyrchu bwyd oddi wrth gyflenwyr cofrestredig a/neu gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan yr awdurdod lleol
  • cadwch gofnod o bob un o’r canlynol:
    • cynnyrch milfeddygol neu driniaethau eraill sydd wedi’u rhoi i anifeiliaid (dyddiad y driniaeth a hyd y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd)
    • y cynnyrch amddiffyn planhigion a bioladdwyr sy’n cael eu defnyddio
    • canlyniadau unrhyw brofion sy’n cael eu cynnal ar samplau o anifeiliaid cynhyrchu bwyd, planhigion a phorthiant anifeiliaid neu samplau a gymerwyd at ddibenion diagnostig sy’n bwysig i iechyd anifeiliaid neu bobl, a rhoi’r sylw priodol i’r canlyniadau hyn
    • unrhyw adroddiadau perthnasol ar archwiliadau sydd wedi’u cynnal ar yr anifeiliaid neu’r cynnyrch sy’n dod o’r anifeiliaid
    • unrhyw hadau GM sydd wedi’u defnyddio i gynhyrchu porthiant

Rheolau ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr llaeth amrwd (o unrhyw anifail)

Canllawiau yfed llaeth amrwd (ar food.gov.uk)

  • rhaid i gynhyrchwyr ofalu bod yr anifail sy’n cynhyrchu’r llaeth yn bodloni’r canlynol:
    • ei fod mewn iechyd cyffredinol da
    • heb arwydd o glefyd allai halogi’r llaeth
    • heb glwyf ar ei chadair/pwrs allai effeithio ar y llaeth
    • nid oes cyfnod ‘cadw o’r gadwyn fwyd’ yn effeithio arni yn sgil rhoi cynnyrch neu sylwedd cymeradwy iddi
    • nid oes cynnyrch neu sylwedd sydd heb ei gymeradwyo wedi’i roi iddi
    • gofalwch fod y llaeth amrwd yn dod o anifeiliaid sy’n perthyn i fuches/daliad sydd heb dwbercwlosis na brwselosis
  • cadwch anifeiliaid sydd wedi’u heintio neu sydd o dan amheuaeth eu bod wedi’u heintio â thwbercwlosis neu frwselosis ar wahân rhag iddynt allu effeithio ar laeth anifeiliaid eraill
  • gofalwch fod yr offer godro a’r mannau lle mae’r llaeth yn cael ei storio, ei drin neu ei oeri wedi’u lleoli a’u hadeiladu i amddiffyn y llaeth rhag cael ei lygru
  • gofalwch fod y safle lle mae’r llaeth yn cael ei storio:
    • yn ddiogel rhag fermin (gan gynnwys adar a nythod adar) ac yn ddigon pell o lety’r anifeiliaid
    • â’r offer oeri priodol i oeri’r llaeth at y tymheredd gofynnol
  • gofalwch fod arwynebau’r offer sy’n dod i gysylltiad â’r llaeth yn hawdd eu glanhau, a’u diheintio os oes angen
  • glanhewch, ac os oes angen diheintiwch arwynebau’r offer sy’n dod i gysylltiad â llaeth ar ôl eu defnyddio, a’u cadw mewn cyflwr da
  • cadwch at safonau hylendid wrth odro:
    • cyn dechrau godro, gofalwch fod y tethi, y gadair/ pwrs a’r rhannau cyfagos yn lân
    • gofalwch fod gennych drefn i wybod pa anifeiliaid sydd wedi cael triniaeth feddygol
    • gofalwch nad ydych yn defnyddio llaeth anifeiliaid ddylai gael ei gadw o’r gadwyn fwyd
  • rhowch y llaeth mewn lle glân sydd wedi’i ddiogelu rhag cael ei lygru, yn syth ar ôl godro
  • rhaid oeri’r llaeth ar unwaith i:
    • ddim mwy nag 8ºC os yw’n cael ei gasglu bob dydd
    • ddim mwy na 6ºC os nad yw’n cael ei gasglu bob dydd

Hefyd, rhaid i laeth amrwd fodloni meini prawf microbiolegol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau i gynhyrchwyr llaeth amrwd ar gyfer ei yfed gan bobl (ar food.gov.uk).

Eithriadau i’r uchod

A: Os ydy’r llaeth yn dod o fuwch sydd wedi adweithio i brawf TB neu fuwch sydd â brwselosis arni, peidiwch â gwerthu’r llaeth.

Ond, gyda chaniatâd yr awdurdod cymwys, os ydy’r llaeth yn dod o fuwch sydd heb adweithio i brawf TB ond ei bod yn rhan o fuches sydd wedi colli ei Statws Heb TB Swyddogol (OTF), rhaid trin y llaeth â gwres cyn ei werthu i’w yfed gan bobl.

Rhaid i laeth defaid neu eifr ddod o ddiadell sydd â statws heb brwselosis swyddogol (OBF). Ond gyda chaniatâd yr awdurdod cymwys, rydych yn cael cynhyrchu caws sy’n cymryd o leia deufis i aeddfedu.

B: Os nad ydych yn oeri’r llaeth ar unwaith, ni fyddwch wedi mynd yn groes i’r gofyn os mai’r bwriad yw prosesu’r llaeth o fewn 2 awr ar ôl ei odro, neu os ydy’r busnes wedi cael caniatâd gan yr awdurdod cymwys.

Rheolau ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr wyau

Rhaid cadw’r wyau’n lân ac yn sych, heb arogl cryf, allan o lygad yr haul a’u diogelu rhag eu hysgwyd.

Archwiliadau yn y maes

  • i ofalu bod yr holl gofnodion perthnasol yn cael eu cynnal
  • i ofalu bod y gofynion uchod yn cael eu bodloni, e.e. archwilio storfeydd porthiant a phlaladdwyr
     

Archwiliadau gweinyddol (profion TB hwyr)

  • bydd cosbau trawsgydymffurfio yn cael eu rhoi o 1 Ionawr 2015 am unrhyw brofion TB sy’n ddiwrnod neu fwy yn hwyr
  • rydym yn eich annog i drefnu pob prawf TB ymhellach ymlaen llaw rhag ichi orfod wynebu cosbau ariannol sylweddol

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Asiantaeth
  • Safonau Bwyd

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2026).