Digwyddiad ymgysylltu ar gymorth cyflogadwyedd: Llanelli
Adborth gan fynychwyr digwyddiad ymgysylltu Llanelli a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r crynodeb hwn yn cyflwyno adborth a gasglwyd drwy Slido gan fynychwyr yn nigwyddiad ymgysylltu Llanelli a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2025. Dyma'r pedwerydd digwyddiad gyda’r nod o gasglu adborth ar y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd. Mae'r gyfres hon yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau 2022, i greu system cymorth cyflogadwyedd integredig ddi-dor yng Nghymru.
Gwahoddwyd rhanddeiliaid amrywiol gennym i drin a thrafod arferion da, gwersi a ddysgwyd a dulliau arloesol o helpu pobl i gyflawni eu potensial o ran cyflogaeth mewn economi werdd.
Canfyddiadau allweddol ymatebion Slido
Mae'r adran hon yn crynhoi prif ganfyddiadau Slido.
Y ffyrdd gorau i bobl fanteisio ar y rhaglen
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn sut y dylid cyfeirio neu gyflwyno pobl i'r rhaglen, yn enwedig y rhai sydd â’r angen mwyaf am gymorth. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- soniwyd am y cyfryngau cymdeithasol amlaf fel y ffordd orau o godi ymwybyddiaeth a helpu pobl i fanteisio ar y rhaglen. Gwelwyd hwy fel offeryn allweddol ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol
- dulliau cymunedol ac allgymorth mewn hybiau cymunedol
- digwyddiadau a gweithgareddau wyneb yn wyneb mewn cymunedau anodd eu cyrraedd
- defnyddio rhwydweithiau a gwasanaethau presennol megis ysgolion a cholegau, meddygfeydd, y trydydd sector, Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith a hyfforddwyr gwaith
- defnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol i gyrraedd mwy o bobl, gan gynnwys argymhellion ar lafar a rhai gan gymheiriaid
- brandio cryf a chyson gyda chodau QR a phlatfformau digidol yn ogystal â thaflenni
Dywedodd llawer fod grwpiau gwahanol yn ymateb i sianeli gwahanol, felly mae angen cymysgedd o ddulliau. Roedd cyswllt dynol a chysylltiadau dibynadwy yn cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer cysylltu â phobl â chymorth.
Y ffactor pwysicaf wrth bennu lefel y cymorth
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn beth ddylai lywio penderfyniadau ynghylch faint o gymorth sydd ei angen ar rywun. Blaenoriaethodd y cynrychiolwyr y canlynol:
- rhwystrau unigol (88%)
- anghenion cymorth ychwanegol (6%)
- grŵp oedran (4%)
- rhwystrau iechyd (2%)
- hyd y diweithdra (1%)
Mae'r adborth hwn yn tynnu sylw at yr angen i ganolbwyntio ar amgylchiadau personol pob person.
Beth sy’n gwneud asesiad yn effeithiol
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn beth sy'n helpu i wneud asesiadau yn ddefnyddiol a chefnogol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- creu amgylchedd diogel ar gyfer sgyrsiau wyneb yn wyneb, gonest gydag aseswyr dibynadwy
- angen aseswyr profiadol a gwybodus gyda sgiliau cyfathrebu da a phrofiad bywyd
- cael digon o amser i gynnal asesiadau priodol
- dulliau sy'n gyfeillgar i ieuenctid
- y gallu i adnabod a deall rhwystrau unigol, gan gynnwys tai, iechyd ac eraill heb ymyrryd
- asesu sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy yn ogystal â rhwystrau
- darparu camau nesaf clir
- caniatáu hunanfyfyrio
- bod yn amserol, hyblyg ac y gellir ei addasu gan gynnwys asesiadau ar-lein neu rhithwir lle bo'n briodol
Dywedodd pobl y dylai asesiadau ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn, ei nodau a'r rhwystrau sy'n ei wynebu. Dylai'r broses deimlo'n gefnogol, nid brawychus.
Dulliau sydd wedi gweithio'n dda
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn beth sydd wedi gweithio'n dda yn y rhaglenni cyflogadwyedd cyfredol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- cydweithredu a rhannu arferion da rhwng gwahanol feysydd
- partneriaethau â chyflogwyr a sefydliadau eraill
- cysylltu busnesau â darpar weithwyr
- cymorth wedi'i deilwra ar gyfer NEETs, gan gydnabod bod angen amgylcheddau a dulliau gwahanol ar bobl ifanc
- cymorth cofleidiol cyn ymgysylltu ffurfiol, gan gynnwys cymorth iaith
- cynlluniau cyflogwyr preswyl ar gyfer ffug gyfweliadau
- rhaglenni rôl fodel sy'n cysylltu busnesau â chyfranogwyr
- Grant Pobl Ifanc ar gyfer busnesau newydd
- dulliau cynhwysol sy’n ystyriol o drawma gyda mentoriaid
- cymorth gyda sgiliau meddal
- ffocws ar hyfforddiant galwedigaethol
Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos gwerth cymorth cyfannol sy'n diwallu anghenion unigol, yn meithrin hyder, ac yn cysylltu pobl â chyfleoedd gwaith go iawn.
Dulliau neu arferion nad ydynt wedi gweithio cystal
Gofynnodd y cwestiwn hwn am heriau a'r hyn nad oedd wedi gweithio cystal mewn rhaglenni blaenorol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- canolbwyntio ar ddangosyddion perfformiad allweddol (KPI) a thicio bocsys yn hytrach na newid hirdymor
- gormod o dargedau yn creu pwysau sy'n andwyol i gynaliadwyedd
- modelau talu yn ôl canlyniadau nad ydynt yn blaenoriaethu canlyniadau ansawdd
- gormod o waith gweinyddol yn arwain at lai o gymorth o ansawdd
- prosesau ymgeisio cymhleth sy’n eithrio sefydliadau llai profiadol
- cyllid tymor byr yn creu ansefydlogrwydd a diffyg parhad
- methu â deall sefyllfa pob person sy'n arwain at raglenni neu rolau sy'n anaddas
- materion rhannu data
- llwythi achosion mawr yn atal cymorth wedi'i deilwra
- diffyg cymorth o safbwynt iaith
- defnydd bach iawn o’r cyfryngau cymdeithasol
- dyblygu gwasanaethau
- loteri cod post o ran darpariaeth gwasanaethau
Dywedodd ymatebwyr fod gormod o fiwrocratiaeth a meddylfryd wedi'i lywio gan dargedau yn gallu atal cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Un dymuniad i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd
Gofynnodd y cwestiwn hwn i gyfranogwyr beth yr hoffent ei weld fwyaf yn y rhaglen newydd. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- cyllid cynaliadwy hirdymor heb ei gysylltu â chylchoedd blynyddol sy'n arwain at lefelau cadw staff gwell, gwasanaethau cyson a rhaglenni sefydlog
- ymddiried yn y partneriaid cyflawni i lunio'r rhaglen yn seiliedig ar anghenion lleol
- ariannu prosiectau lleol ar gyfer blaenoriaethau lleol
- dyluniadau a chontractau rhaglenni hyblyg
- dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n canolbwyntio ar anghenion unigol ac y gellir ei deilwra i gefnogi anghenion cyfranogwyr
- integreiddio gwasanaethau ar gyfer iechyd, cyfiawnder, cyflogaeth a sgiliau
- cyfathrebu a chydweithredu gwell rhwng darparwyr
- gwaith partneriaeth cryfach gan gynnwys digwyddiadau ar y cyd â chyflogwyr a phartneriaid cymorth
- rhaglen sengl gyda chyllid cyfunol
- gwasanaethau iechyd meddwl gwell, ymyrraeth gynnar a staff arbenigol
- trafnidiaeth gyhoeddus well, gan gynnwys gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru
- cysylltiadau gwell ag ysgolion
- un pwynt mynediad at ddata ar gyfer polisi a chyllid
- prosesau symlach
- pwyntiau mynediad canolog, gweladwy fel canolfannau cyflogadwyedd yng nghanol dinasoedd
Roedd y prif ddymuniad am gyllid hirdymor, rhywbeth roedd pobl yn ei weld yn hanfodol ar gyfer sefydlogrwydd y rhaglen ac er mwyn cadw staff.
Grwpiau y dylid eu blaenoriaethu
Nod y cwestiwn hwn oedd pennu pa grwpiau y dylai'r rhaglen newydd ganolbwyntio arnynt, o ystyried adnoddau cyfyngedig (roedd y cynrychiolwyr yn gallu dewis 3 grŵp). Blaenoriaethodd y cynrychiolwyr:
- pobl ddi-waith am gyfnod hir (dros chwe mis) (59%)
- pobl ifanc 16 i 25 oed (50%)
- pawb dros 16 oed (45%)
- y rhai sy'n wynebu cael eu diswyddo (37%)
- pobl sy'n ddi-waith am lai na chwe mis (34%)
- oedolion dros 25 oed (17%)
Roedd cyfranogwyr yn cytuno y dylai'r rhaglen barhau i gefnogi pobl ifanc fel rhan o'r Warant i Bobl Ifanc gan hefyd helpu’r rhai sy’n ddi-waith am gyfnod hir neu sy’n wynebu diswyddiad.
Mae hyn yn awgrymu y dylai'r rhaglen newydd gyfuno ffocws cryf ar gyflogaeth ieuenctid gyda chymorth penodol i rai sydd naill ai wedi bod allan o waith ers amser maith neu sydd mewn perygl o golli eu swydd.
Y prif flaenoriaethau
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn pa feysydd yw’r rhai mwyaf pwysig ar gyfer y rhaglen newydd. Dyma’r meysydd a nodwyd, gan ddechrau gyda’r un pwysicaf:
- mynd i’r afael â rhwystrau
- ymgysylltu a hygyrchedd, er mwyn sicrhau bod gan y rhaglen ffyrdd effeithiol o gysylltu â darpar gyfranogwyr a mynediad hawdd at wasanaethau
- cymorth wedi'i dargedu’n effeithiol, gan ganolbwyntio ar y rhai â'r angen mwyaf a rhoi'r lefel gywir o gymorth
- canlyniadau cyflogaeth a chael pobl i mewn i waith trwy ddulliau fel cyflogaeth â chymorth
- profiad gwaith, sgiliau ymarferol a phrofiad o fywyd go iawn
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i sicrhau bod y rhaglen yn diwallu anghenion amrywiol a'i bod yn agored i bawb
- alinio â'r farchnad lafur i gefnogi anghenion ehangach y farchnad lafur
Arloesi a chynllunio ar gyfer llwyddiant
Mae'r cwestiwn hwn yn gwahodd syniadau creadigol ar sut i wneud i'r rhaglen newydd sefyll allan a’i diogelu at y dyfodol. Roedd y canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- cyllid hirdymor am 3 i 5 mlynedd i ddarparu sefydlogrwydd a chaniatáu twf
- cyllid wedi'i dargedu fwyfwy ar gyfer iechyd a llesiant
- partneriaeth gref a modelau amlasiantaeth
- symlrwydd a hyblygrwydd, cadw pethau'n syml ac osgoi gorgymhlethdod gyda dulliau hyblyg
- teilwra cymorth i bob person
- dulliau gwell o rannu data a gemoli
- canolbwyntio ar yr effaith go iawn a hyrwyddo economi hyfedr, nid dim ond niferoedd swyddi
- gyrru newid cymdeithasol
- gweithio gydag ysgolion ar ymyriadau cyflogadwyedd
- sicrhau digon o adnoddau i gyflwyno rhaglen effeithiol o'r cychwyn cyntaf
- digwyddiadau ar gyfer carfannau o gyfranogwyr y rhaglen
- un pwynt cyswllt ar gyfer pob person ar draws yr holl wasanaethau
Dywedodd cyfranogwyr mai cyllid parhaol, hyblygrwydd a phartneriaethau cryf yw’r elfennau allweddol a fydd yn gwneud y rhaglen yn wirioneddol arloesol.
Casgliad
Nodwyd sawl blaenoriaeth graidd ar gyfer llywio dyfodol cymorth cyflogadwyedd yng Nghymru yn yr adborth ar gyfer digwyddiad Llanelli.
Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Cydnabod rhwystrau ac anghenion unigol fel sylfaen ar gyfer cymorth.
Cyllid sefydlog hirdymor
Symud i ffwrdd o gylchoedd cyllido byr er mwyn cadw staff a rhaglenni yn gyson.
Cyflwyno hyblyg, cydweithredol
Gweithio ar draws asiantaethau gan ddefnyddio dulliau wedi'u siapio gan anghenion lleol.
Hygyrchedd aml-sianel
Hyrwyddo'r rhaglen yn eang trwy sianeli gwahanol, gyda'r cyfryngau cymdeithasol a phresenoldeb cymunedol yn arbennig o bwysig.
Adeiladu ar lwyddiannau profedig
Defnyddio'r hyn sy'n gweithio, megis mentora, ymgysylltu â chyflogwyr a dulliau sy’n ystyriol o drawma.
