Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 29 Ebrill 2025 cynhaliwyd y cyntaf o 4 digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghaerdydd i gasglu adborth ar y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd. Mae'r gyfres hon yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau 2022, i greu system gymorth cyflogadwyedd integredig, ddi-dor yng Nghymru. Gwahoddwyd rhanddeiliaid amrywiol gennym i drin a thrafod arferion da, gwersi a ddysgwyd a dulliau arloesol o helpu pobl i gyflawni eu potensial o ran cyflogaeth. 

Defnyddiodd cyfranogwyr Slido i ateb 9 cwestiwn allweddol am gyfeiriad y rhaglen yn y dyfodol.

Canfyddiadau allweddol ymatebion Slido

Mae'r adran hon yn crynhoi prif ganfyddiadau Slido ar sut i siapio'r rhaglen newydd.

Y ffyrdd gorau i unigolion fanteisio ar y rhaglen

Roedd y cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar bwyntiau mynediad a llwybrau atgyfeirio i sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn gallu cael gafael ar gymorth. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:

  • dulliau cymunedol fel mynediad lleol drwy hybiau cymunedol, gwasanaethau iechyd a sefydliadau dibynadwy
  • sefydliadau addysgol gan gynnwys ysgolion, colegau a phrifysgolion
  • y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol, yn enwedig pobl iau
  • cynghorwyr dibynadwy gyda pherthnasoedd sefydledig
  • sianeli lluosog i gyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • mynediad trwy leoliadau gofal iechyd fel meddygfeydd a gofal sylfaenol
  • defnyddio argymhellion eraill fel ffordd bwerus i godi ymwybyddiaeth

Roedd yr ymatebion yn pwysleisio bod angen partneriaethau lleol a rhwydweithiau atgyfeirio amrywiol, gyda sylw arbennig i gymunedau ethnig leiafrifol a gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i bobl anabl.

Y ffactor pwysicaf wrth bennu lefel y cymorth

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn beth ddylai lywio’r penderfyniadau ynghylch faint o gymorth y mae rhywun yn ei gael. Blaenoriaethodd y cynrychiolwyr y canlynol:

  • dull cyfannol yn hytrach na chanolbwyntio ar un ffactor (55%)
  • amgylchiadau unigol fel y ffactor critigol (40%)
  • anghenion cymorth ychwanegol (3%)
  • rhwystrau iechyd fel penderfynyddion arwyddocaol (1%)
  • profiad yn y diwydiant (1%)
  • hyd y diweithdra (0%)
  • pa gymwysterau sydd gan yr unigolyn (0%)
  • ystyriaethau grŵp oedran (0%)

Roedd yn well gan gyfranogwyr asesiadau cynhwysfawr sy'n ystyried ffactorau lluosog yn hytrach na dulliau un metrig.

Y ffactorau pwysicaf mewn asesiad effeithiol

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn beth sy'n gwneud asesiadau yn effeithiol ac yn gefnogol i gyfranogwyr. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:

  • asesiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a arweinir gan anghenion a safbwyntiau unigol
  • meithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth rhwng asesydd a chyfranogwr
  • gofyn cwestiynau priodol a sensitif
  • caniatáu digon o amser ar gyfer yr asesiad a dangos empathi
  • cymryd golwg gyfannol ar y person, nid ar faterion cyflogadwyedd yn unig
  • rhyngweithio wyneb yn wyneb yn well nag asesu o bell
  • aseswyr â’r sgiliau a'r ddealltwriaeth gywir

Pwysleisiodd ymatebion y dylai asesiadau ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn yn hytrach na dim ond mesur canlyniadau.

Dulliau neu arferion sydd wedi gweithio'n dda

Roedd y cwestiwn hwn yn casglu barn ar arferion llwyddiannus rhaglenni presennol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:

  • cymorth wedi'i bersonoli fel mentora un-i-un a darpariaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n ystyriol o drawma
  • darpariaeth yn y gymuned gyda gwasanaethau hyblyg, lleol
  • pwyslais ar sgiliau meddal, nid canlyniadau caled yn unig fel swyddi
  • cymorth parhaus sy'n para 3 i 6 mis y tu hwnt i gyflogaeth gychwynnol
  • modelau anogaeth sy'n grymuso yn hytrach na chyfarwyddo
  • cydweithredu â chyflogwyr a darparwyr eraill
  • dulliau cyfannol sy'n mynd i'r afael â phob rhwystr, nid materion cyflogaeth yn unig
  • gwiriadau cymorth emosiynol a llesiant
  • mynediad hawdd a chyflym gyda chyn lleied o fiwrocratiaeth ag sy’n bosibl
  • cymorth cyson gan yr un cynghorydd gydol y daith

Roedd y cyfranogwyr yn canmol mentrau fel Cychwyn Cyflym Pen-y-bont ar Ogwr, Biwros Cyflogaeth a Menter ac interniaethau â chymorth.

Dulliau neu arferion nad ydynt wedi gweithio cystal

Nododd y cwestiwn hwn heriau ac arferion aneffeithiol o raglenni blaenorol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:

  • dyblygu ffynonellau cyllido lluosog
  • cyllid tymor byr sy'n rhwystro cynaliadwyedd a chynllunio
  • dulliau wedi'u llywio gan dargedau sy'n canolbwyntio ar niferoedd yn hytrach nag anghenion unigolion
  • methiant i fesur taith y cyfranogwr
  • dulliau 'un ateb sy'n addas i bawb' yn anwybyddu gwahaniaethau unigol
  • gweithio mewn seilos a diffyg cydweithredu rhwng darparwyr
  • tirwedd rhaglenni dryslyd i ddefnyddwyr
  • meini prawf cymhwystra sy'n gyfyngedig neu anhyblyg
  • darparwyr yn cystadlu â’i gilydd yn hytrach na chydweithredu
  • prosesau rhannu data gwael neu gyfyngedig sy'n cyfyngu ar bartneriaethau effeithiol
  • cymorth canolog heb ei deilwra i anghenion lleol
  • un pwynt atgyfeirio sy'n cyfyngu ar lwybrau mynediad

Roedd yr adborth yn tynnu sylw at faterion strwythurol o ran sut mae rhaglenni cyflogadwyedd wedi'u cynllunio ac yn cael eu cyflwyno.

Un dymuniad i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn i'r cynrychiolwyr rannu eu gobeithion ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:

  • cyllid hirdymor, cyson ar gyfer sefydlogrwydd a darpariaeth effeithiol
  • fframwaith Cymru gyfan gyda hyblygrwydd lleol
  • ymyrraeth gynnar a mwy o gymorth cyn-16 i leihau ffigurau NEET yn y dyfodol
  • lleihau dyblygu drwy symleiddio'r ddarpariaeth ledled Cymru
  • dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer anghenion demograffig amrywiol
  • gwaith cydgysylltiedig a chydweithredu gwell rhwng darparwyr ac asiantaethau
  • gwasanaethau hygyrch y mae pawb yng Nghymru yn gwybod amdanynt ac yn gallu eu defnyddio.
  • atebion trafnidiaeth ymarferol
  • canlyniadau cyflogaeth cynaliadwy sy'n ymestyn y tu hwnt i'r lleoliad cyntaf
  • cymorth penodol i weithwyr hŷn ag anghenion gwahanol

Mae cyfranogwyr eisiau rhaglen sy'n adeiladu ar gryfderau presennol yn hytrach nag un sy’n creu strwythurau hollol newydd.

Grwpiau y dylid eu blaenoriaethu

Gofynnodd y cwestiwn hwn pa grwpiau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer y rhaglen newydd (roedd y cynrychiolwyr yn gallu dewis 3 grŵp). Dyma’r grwpiau a nodwyd:

  • pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed (48%)
  • pawb 16 oed a hŷn (42%)
  • y rhai sy'n ddi-waith am lai na chwe mis (41%)
  • cymorth i’r rhai sy’n wynebu cael eu diswyddo’n sydyn (35%)
  • oedolion 25 a hŷn (19%)
  • pobl ifanc 16 i 18 oed (7%)
  • pobl ddi-waith am gyfnod hir (rhai sydd allan o waith ers dros 6 mis) (6%)

Y prif flaenoriaethau

Gofynnodd y cwestiwn hwn am y blaenoriaethu ar gyfer y rhaglen newydd. Dyma’r blaenoriaethau a nodwyd:

  • mynd i'r afael â rhwystrau, sy'n adlewyrchu'r consensws mai dileu rhwystrau i gyflogaeth ddylai fod yn brif ffocws i’r rhaglen (8%)
  • targedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf (6%)
  • ymgysylltu, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ymyrraeth gynnar a gwneud cyswllt cychwynnol â darpar gyfranogwyr (6%)
  • mynediad hawdd, sy'n ategu'r adborth cynharach am sawl pwynt mynediad a llwybrau atgyfeirio syml (5%)
  • cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan bwysleisio'r angen am ddulliau cynhwysol sy'n cyrraedd pob cymuned (5%)
  • canlyniadau cyflogaeth megis cael pobl i gyflogaeth a chyflogaeth â chymorth (5%)
  • datblygu sgiliau fel sgiliau meddal, gan gydnabod gwerth sgiliau rhyngbersonol a bywyd law yn llaw â galluoedd technegol (4%)
  • yr olaf yn y rhestr flaenoriaethau, cefnogi’r farchnad lafur a phrofiad gwaith, gan ddangos bod rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi ymgysylltiad â chyflogwyr ond yn blaenoriaethu anghenion unigol (4%)

Mae'r safleoedd uchod yn dangos ffafriaeth glir dros ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â rhwystrau unigol a thargedu'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf, yn hytrach na blaenoriaethu canlyniadau cyflogaeth uniongyrchol neu ofynion y farchnad lafur. Mae hyn yn cyd-fynd â’r adborth a gafwyd drwy gydol y digwyddiad a oedd yn ffafrio cymorth unigol holistaidd yn hytrach na dulliau sy’n seiliedig ar dargedau.

Arloesi a chynllunio ar gyfer llwyddiant

Mae'r cwestiwn hwn yn gwahodd syniadau creadigol ar gyfer gwneud i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd sefyll allan a’i diogelu at y dyfodol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:

  • systemau integredig a llai o ddyblygu, fel bod gennym ni un rhaglen gyda chronfa ddata sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i leihau ailadrodd
  • technoleg a thrawsnewid digidol gan gynnwys offer deallusrwydd artiffisial i gael gwared ar y baich gweinyddol a brysbennu digidol yn lle ffurflenni papur
  • atal ac ymyrryd yn gynnar trwy ddechrau mewn ysgolion a chynnig cymorth cyn-16 oed i leihau ffigurau NEET yn y dyfodol
  • cymorth i gyflogwyr ac alinio â'r farchnad lafur drwy gysylltu cynlluniau sgiliau lleol â chyfleoedd a pharatoi cyflogwyr i gyflogi pobl ag anghenion amrywiol
  • diwygio'r system fudd-daliadau i annog gwaith drwy gael gwared ar gosbau yn erbyn aelwydydd pan fydd person ifanc yn cymryd swydd a gwrthbwyso colli budd-daliadau trwy addewidion cyflogwr peilot
  • dulliau hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n buddsoddi amser yn y gwaith o ddeall anghenion ardal leol ac sy’n grymuso cyfranogwyr yn hytrach na dyfeisio prosesau newydd
  • ymgysylltu ag awdurdodau lleol drwy ddefnyddio pwerau awdurdodau lleol i gysylltu â chysylltiadau busnes a manteisio arnynt
  • cyd-gynhyrchu a phrofiad bywyd trwy fentora o chwith a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y broses ddylunio a chyflwyno
  • dulliau cyllido cynaliadwy gyda chynlluniau peilot sy’n rhan ohonynt, cylchoedd cyllido strategol hirdymor a chontractau sy'n diogelu rhag newid mewn llywodraeth
  • diwylliant o arloesi sy'n caniatáu cymryd risgiau, cynlluniau peilot a dysgu o lwyddiannau a methiannau
  • canolbwyntio ar ansawdd a gwelliant parhaus trwy fesur canlyniadau ansoddol yn ogystal â meintiol, a dull meddwl trwy systemau
  • dim ailddyfeisio'r olwyn trwy adeiladu ar arferion da presennol, yn hytrach na dechrau o'r dechrau

Mae'r adborth yn dangos awydd am raglen arloesol sy'n cofleidio technoleg, yn cydweithredu ar draws sectorau, yn darparu cymorth hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn adeiladu ar arferion da presennol ac sydd wedi'i ategu gan gyllid hirdymor cynaliadwy.

Casgliad

Daeth sawl thema gyson i'r amlwg ar draws pob un o'r 9 cwestiwn.

Dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a blaenoriaeth ar ddileu rhwystrau

Pwysleisiodd rhanddeiliaid fod rhaid mynd i'r afael â rhwystrau unigol cyn rhoi pwyslais ar ganlyniadau swyddi. Mae'r ffocws cyfannol hwn, gan gynnwys iechyd meddwl, trafnidiaeth a gofal plant, yn sail i lwybrau cyflogaeth cynaliadwy.

Ffocws demograffig cytbwys gyda sylw arbennig i'r di-waith am gyfnod hir

Dylid cadw gwasanaeth ieuenctid cadarn ynghyd â gwasanaethau cynhwysfawr ar gyfer ceiswyr gwaith hirdymor.

Darpariaeth yn y gymuned gyda sawl pwynt mynediad

Ymgysylltu lleol trwy hybiau cymunedol cyfarwydd, ysgolion, lleoliadau gofal iechyd a sianeli cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod y rhaglen yn cyrraedd grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ac sydd wedi ymddieithrio.

Integreiddio a llai o ddyblygu

Bydd symleiddio'r clytwaith presennol o wasanaethau gan greu un model gweithredu gyda systemau data a rennir, atgyfeiriadau cydgysylltiedig a darpariaeth gydweithredol, yn dileu cystadleuaeth ac yn lleihau beichiau gweinyddol.

Cyllid hirdymor cynaliadwy

Mae ymrwymiadau cyllido aml-flwyddyn yn hanfodol i adeiladu timau sefydlog a sicrhau darpariaeth gwasanaethau gyson, ac mae’n caniatáu mesur effaith hirdymor yn drwyadl.

Technoleg ac arloesedd wedi'u cydbwyso â chymorth dynol

Dylid defnyddio offer digidol a deallusrwydd artiffisial i awtomeiddio gwaith gweinyddol a symleiddio prosesau rhannu data, gan ryddhau staff i ganolbwyntio ar y perthnasoedd wyneb yn wyneb sy'n hanfodol i gyfranogwyr ag anghenion cymhleth.

Ymyrraeth ac atal yn gynnar

Bydd ymwreiddio cymorth cyflogadwyedd mewn ysgolion a chynnig llwybrau cyn 16 yn symud y model o ymyrraeth adweithiol i atal rhagweithiol, gan leihau achosion o NEETs yn y dyfodol.

Ymgysylltu â chyflogwyr ac alinio â'r farchnad lafur

Bydd meithrin partneriaethau dyfnach â chyflogwyr, alinio hyfforddiant â sectorau twf lleol ac arfogi busnesau i recriwtio pobl â chefndir amrywiol yn creu cyfleoedd gwaith cynaliadwy.

Diwygio'r system fudd-daliadau

Bydd treialu cymorth "mewn gwaith" a chael gwared ar anghysondeb o fewn y system fudd-daliadau yn helpu pobl i bontio i fyd gwaith heb gosbau ariannol ar unwaith.

Hyblygrwydd a chaniatâd i arloesi

Bydd cynnwys addasiadau lleol, creu mannau diogel ar gyfer cymryd risgiau a dysgu o gynlluniau peilot yn meithrin diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus.