Canllawiau, Dogfennu
Trawsgydymffurfio: safonau lles lloi (SMR 11) (2026)
Crynodeb o reolau lles sy'n benodol i lloi.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 89 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcan y gofynion hyn yw diogelu lles lloi trwy bennu’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer gofalu amdanyn nhw a’u cadw. Rhaid i bawb sy’n cadw lloi gadw at y rheolau hyn, yn ogystal â’r gofynion lles anifeiliaid fferm (SMR 13).
Prif ofynion
Rhaid bodloni’r safonau gofynnol canlynol wrth fagu neu besgi lloi:
- rhaid archwilio pob llo sy’n cael ei gadw dan do o leiaf ddwywaith y dydd, a’r rheini sydd allan, o leiaf unwaith bob dydd
- peidiwch byth â chlymu’ch llo heblaw am loi mewn grŵp y gellir eu clymu am gyfnod llai nag awr er mwyn ei fwydo â llaeth neu â llaeth ffug
- ar gyfer llociau unigol:
- rhaid i hyd y lloc fod o leiaf yr un hyd â chorff y llo pan fydd yn sefyll, er mwyn iddo allu sefyll, troi, gorwedd a llyfu ei hun
- rhaid i led y lloc fod o leiaf yr un peth â thaldra’r llo at yr ysgwydd pan fydd yn sefyll
- rhaid bod gan y lloc waliau tyllog fel bod y llo’n gallu gweld lloi eraill a chyffwrdd â lloi eraill ac eithrio’r rheini sy’n cael eu cadw ar wahân am eu bod yn sâl
- peidiwch â chadw llo dros 8 wythnos oed mewn lloc ar ei ben ei hun oni bai bod milfeddyg wedi dweud bod angen ei ynysu neu fod angen triniaeth arno
- rhaid i loc y llo fod yn lân ac wedi’i ddiheintio yn ôl y gofyn, bydd gwely (sarn) i orwedd arno a chaiff ei oleuo’n naturiol neu’n artiffisial
- dylai llo gael:
- llaeth tor o fewn 6 awr ar ôl ei eni
- digon o fwyd sy’n addas i’w oed
- dŵr yfed glân ar gael bob amser
- mae angen bwydo lloi â hylif o leiaf ddwywaith y dydd iddynt gael digon o faeth. Dim ond pan fydd llo’n gallu treulio bwyd caled yn iawn y gellid ystyried hwnnw’n ‘borthiant’
- dylid dechrau rhoi brasfwyd iddynt pan fyddant yn bythefnos oed
Archwiliadau maes
- gofalu fod lloc y llo yn ateb y gofynion uchod
- gwneud yn siŵr bod gan y ffermwr gopi o’r Lles gwartheg: côd ymarfer
Arfer da
- dilynwch y canllawiau yn y Cod Ymarfer ar gyfer cadw lloi dan do
- monitro colostrwm gan ddefnyddio reffractomedr. Mae colostrwm o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant lloi
- ni ddylid rhoi llaeth heb ei basteureiddio o fuchod ar safle dan gyfyngiadau TB gwartheg i loi
- os ydy’r lloi’n cael eu magu ar system lle mae llaeth yn cael ei fwydo iddynt trwy ddull artiffisial, cadwch olwg fanwl ar faint o laeth y maent yn ei yfed. Os ydynt yn yfed llai o laeth neu’n ei yfed yn arafach, mae hyn yn aml yn arwydd o afiechyd
- dylech gadw lloi sâl neu loi sydd wedi’u hanafu mewn lle addas ar wahân gyda digon o ddeunydd gorwedd sych a chyfforddus iddynt gyda bwyd a dŵr ar gael
Gwybodaeth pellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2026).
