Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS
Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr wythnos hon, fel miliynau o bobl ledled y byd, rydym wedi croesawu'r cytundeb cadoediad rhwng Israel a Hamas, a dychwelyd y gwystlon Israelaidd. Rydym nawr yn gobeithio y bydd hyn yn dod yn setliad heddwch parhaol ac na fydd dychwelyd i'r cylch o drais sydd wedi difetha bywydau Palestiniaid ac Israeliaid.

Ym mis Hydref 2024, lansiodd y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) ei Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol i ddod â rhyddhad i bobl Gaza a Libanus. Ar ddyfodiad yr apêl, rhoddodd Llywodraeth Cymru £100,000 a rhoddodd rodd arall o £100,000 ym mis Ionawr 2025.

Mae bellach gyfle newydd i asiantaethau cymorth a'u partneriaid gael bwyd, lloches, dŵr a gofal meddygol sydd ei angen ar frys i lain Gaza. 

Am y rheswm hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhodd ychwanegol o £250,000 i Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol DEC.

Bydd llwybrau newydd ar gyfer darparu cymorth a'r cyfle i ddefnyddio'r llwybrau presennol yn ehangach oherwydd y cadoediad yn caniatáu i elusennau DEC a'u partneriaid lleol gynyddu faint o fwyd a chymorth brys arall y gallant ei ddarparu i Gaza, gan gyrraedd mwy o deuluoedd mewn angen.

Mae'r DEC yn dwyn ynghyd sefydliadau blaenllaw yn y DU i godi arian ar gyfer argyfyngau tramor a chydlynu ymateb dyngarol effeithiol, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf ei angen yn gyflym ac yn y modd mwyaf cost-effeithiol posibl. Rydym yn ddiolchgar bod yr apêl wedi codi £3.1m yng Nghymru hyd yn hyn, a £50m ar lefel y DU.  Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cwrdd â DEC Cymru i drafod y rhodd ddiweddar ac i ddysgu mwy am yr ymdrech newydd i roi cymorth.

Mae Cymru hefyd yn rhan o'r ymdrech ledled y DU i gefnogi plant sydd wedi'u hanafu o Gaza i dderbyn triniaeth feddygol yn y DU. 

Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod y plant cyntaf a'u teuluoedd wedi cyrraedd Cymru yn ddiogel, lle maent yn cael cymorth meddygol ac emosiynol mawr ei angen ac, wrth gwrs, amgylchedd o heddwch a chysur, yn ystod eu harhosiad yma yng Nghymru. Rydym yn disgwyl gallu croesawu'r criw nesaf yn ddiweddarach y mis hwn.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau a'r cyhoedd yng Nghymru yn ymuno â mi i groesawu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio mor drwm gan y dioddefaint ofnadwy yn Gaza a sicrhau eu bod yn cael eu trin â'r urddas a'r tosturi y maent yn ei haeddu.