Achredu Amgueddfeydd: llawlyfr mentor
Canllawiau i fentoriaid a mentoriaid posibl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Croeso i ganllaw ac adnoddau Mentora Achrediad. Mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddeall rôl Mentor Achrediad ac maent yn rhoi dolenni i chi at adnoddau a fydd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar y rôl.
Dylech ddarllen y deunyddiau hyn ar y cyd â Safon Achredu Amgueddfeydd 2018 a Chanllawiau Ategol 2024 Achrediad: Sut i gwrdd â’r Safon, sydd ar gael ar wefan Cyngor Celfyddydau Lloegr (ACE).
Mae Achredu Amgueddfeydd yn Safon ar gyfer y DU gyfan. Mae partneriaid o Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon, Orielau Amgueddfeydd yr Alban a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r cynllun ledled y DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Mae pob gwlad yn rheoli’r cynllun ac yn asesu ymgeiswyr yn ei rhanbarth ei hun. Mae ACE yn rheoli Pwyllgor Partneriaeth Achredu’r DU ac yn rhannu’r llwyfan ymgeisio ar-lein, Grantium, â’r pedair gwlad.
Yr amgueddfeydd ‘Math 1’ llai o faint yw’r rhan fwyaf o’r amgueddfeydd sy’n cael eu mentora. Mae’r Safon Achredu wedi’i chynllunio i fod yn gynhwysol ac o ddefnydd i bob math o amgueddfeydd cyhoeddus, o sefydliadau bach sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i sefydliadau cenedlaethol. Mae’r gofynion wedi’u teilwra i faint a math pob amgueddfa, ac mae gwybodaeth am y gallu i dyfu ar gael ar dudalennau Achredu ACE.
Mae Partneriaeth Achredu’r DU yn diolch i bawb sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi a rhoi hyder i’r amgueddfeydd sy’n cael eu mentora ganddynt, gan eu helpu i gyrraedd a chadw’r Safon Achredu Amgueddfeydd y mae pobl yn ymddiried ynddi ac sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol.
1. Dod yn Fentor Achrediad
Mae Mentora Achrediad yn ffordd wych o ehangu eich gorwelion a chael cipolwg ar yr hyn sy’n digwydd mewn meysydd eraill yn y sector amgueddfeydd. Mae gwirfoddoli fel Mentor Achrediad yn gyfle datblygu proffesiynol gwerth chweil. Fel Mentor Achrediad, byddwch yn darparu cymorth hanfodol i amgueddfa lai o faint wrth rannu eich arbenigedd proffesiynol a chyfrannu at dwf a llwyddiant y sefydliad.
Beth yw’r manteision i mi fod yn Fentor Achrediad?
Mae bod yn Fentor Achrediad yn cynnig cyfleoedd gwerth chweil ar gyfer twf proffesiynol:
- rhannu eich arbenigedd i gefnogi datblygiad a llwyddiant amgueddfa arall
- ehangu eich gwybodaeth a’ch profiad mewn agweddau amrywiol ar waith amgueddfeydd, yn enwedig y rhai nad ydynt yn rhan o’ch rôl bresennol. Os ydych yn gweithio mewn amgueddfa fawr neu arbenigol, bydd mentora amgueddfa fach yn eich cyflwyno i ystod ehangach o weithgareddau
- dilysu eich gallu a’ch arbenigedd proffesiynol yn y sector amgueddfeydd
- gweithio gyda gwahanol fathau o amgueddfeydd i gael persbectif cyflawn ar reolaeth a gweithrediadau amgueddfeydd
- ehangu eich rhwydwaith o fewn y gymuned amgueddfeydd
- hogi eich meddwl strategol a’ch gallu i ddylanwadu wrth weithio gyda chyrff llywodraethu, gan gynyddu eich hyder a’ch effeithiolrwydd fel arweinydd
- ailgysylltu â math arbenigol o gasgliad, maes ymarfer amgueddfa, neu bwnc
- dangos eich ymrwymiad i ddysgu a thwf parhaus yn y proffesiwn amgueddfeydd
- ymgysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gyfrannu at gyfoethogi sector amgueddfeydd y genedl yn gyffredinol
Gall gweithwyr amgueddfaol proffesiynol sydd wedi ymddeol fentora fel cyfle i gadw eu rhwydweithiau, cefnogi eraill, a pharhau i ymwneud â’r maes.
Gallech chi ddewis bod yn Fentor Achrediad ar gyfer sawl amgueddfa; ond meddyliwch am yr ymrwymiad amser a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â phob mentoriaeth cyn gwneud penderfyniad.
Beth yw Mentor Achrediad?
Mae’n ofynnol i amgueddfeydd nad ydynt yn cyflogi gweithiwr amgueddfaol proffesiynol sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad benodi Mentor Achrediad i sicrhau eu bod yn bodloni gofyniad 1.3 yn y Safon:
Iechyd y sefydliad 1.3: Strwythur boddhaol ar gyfer llywodraethu a rheoli: tystiolaeth bod gan eich corff llywodraethu fynediad at gyngor proffesiynol gan weithiwr amgueddfaol proffesiynol.
I’r Safon Achredu, ystyr corff llywodraethu yw grŵp sy’n gyfrifol am lywodraethu a chyfeiriad strategol sefydliad ac sydd ag atebolrwydd cyfreithiol. Fel arfer, Bwrdd Ymddiriedolwyr neu Bwyllgor Rheoli fydd.
Yn ôl y Safon
Rydym am weld lefelau priodol o staff ac arbenigedd ar gyfer eich amgueddfa a bod llinell gyfathrebu glir rhwng y gweithiwr amgueddfaol proffesiynol a’ch corff llywodraethu. Dylai lefel y cyngor sydd ar gael fod yn briodol i faint a chwmpas eich amgueddfa. Ar gyfer amgueddfeydd llai o faint, heb staff proffesiynol cyflogedig, gellir bodloni’r gofyniad hwn drwy benodi a gweithredu ar sail mewnbwn Ymddiriedolwr sydd â phrofiad o fod yn weithiwr amgueddfaol proffesiynol neu’n Fentor Achrediad. Y diffiniad o weithiwr amgueddfaol proffesiynol yn yr Achrediad yw rhywun sydd ag:
- o leiaf dair blynedd o brofiad o weithio mewn amgueddfeydd fel gweithiwr, ar lefel guradurol/reolaethol. Gall y profiad hwn fod mewn unrhyw un o’r tri maes o fewn y Safon: iechyd y sefydliad, rheoli casgliadau, neu ddefnyddwyr a’u profiadau
- ymrwymiad i ddysgu a datblygu personol i ddangos sut maen nhw’n cadw eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn gyfredol
Nid yw Mentor Achrediad yn aelod o staff di-dâl, nac ychwaith yn ymddiriedolwr (er y gall ymddiriedolwyr amgueddfeydd sy’n gymwys gyflawni rôl ychwanegol Mentor Achrediad). Mae Mentoriaid Achrediad yn cefnogi amgueddfeydd i ennill a chadw statws Amgueddfa Achrededig drwy ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol, gan fod yn wirfoddolwr gyda’r amgueddfa.
Mae rhai rhannau o’r DU yn darparu Mentora Achrediad drwy gronfa o weithwyr amgueddfaol proffesiynol sydd ag amrywiaeth o brofiad, neu drwy ddarparwyr cymorth i’r sector amgueddfeydd. Ac mae rhai awdurdodau lleol yn darparu Mentora Achrediad i nifer o amgueddfeydd yn eu hardal drwy gynghorwyr o amgueddfeydd sirol neu amgueddfeydd sy’n cael eu rhedeg y cyngor. Byddai’n rhaid i amgueddfa sicrhau bod y cyngor hwn yn cael ei dderbyn yn ffurfiol a bod y corff llywodraethu’n gweithredu arno i gadarnhau ei bod yn bodloni’r Safon.
Beth fyddai disgwyl i mi ei wneud, a sut mae’n helpu’r amgueddfa sy’n cael ei mentora?
Fel Mentor Achrediad, byddwch yn darparu tua phedwar diwrnod o gefnogaeth bob blwyddyn i’r amgueddfa a neilltuwyd i chi. Mae eich rôl yn amrywio yn ôl a yw’r amgueddfa’n ymgeisydd newydd ar gyfer Achrediad Amgueddfa ynteu a yw eisoes wedi’i hachredu.
Ar gyfer ymgeiswyr newydd am Achrediad Amgueddfa, byddwch yn eu tywys drwy eu cais cyntaf, gan sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau ar gyfer:
- iechyd y sefydliad
- rheoli casgliadau, a
- defnyddwyr a’u profiadau
Os yw’r amgueddfa sy’n cael ei mentora eisoes wedi’i hachredu, byddwch yn cynghori’r corff llywodraethu ynghylch cynnal ei statws Achrediad a chynorthwyo gyda ffurflenni Achrediad.
Beth bynnag fo statws yr amgueddfa, disgwylir i chi wneud y canlynol:
- mynychu o leiaf un cyfarfod o’r corff llywodraethu bob blwyddyn
- ymweld â’r amgueddfa o leiaf unwaith y flwyddyn
- darparu adroddiad i gyd-fynd â’u cais am Achrediad
Cofio nad oes angen i Fentoriaid Achrediad fod yn arbenigwr ym mhob un o feysydd y Safon. Fel Mentor Achrediad, byddwch yn cydlynu cymorth ac arweiniad, gan gysylltu’r amgueddfa ag adnoddau perthnasol pan fo angen.
Mae Mentoriaid Achrediad yn gweithio’n bennaf gyda’r corff llywodraethu. Gall ymddiriedolwyr (neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt) fod â phrofiad sylweddol yn eu proffesiynau eu hunain ac efallai na fyddant bob amser yn gwerthfawrogi’r angen am fentor. Y manteision a gyflwynwch i’r amgueddfa yw dehongli’r Safon Achredu i gynulleidfa leyg, darparu cyd-destun amgueddfa i’w penderfyniadau, bod yn eiriolwr dros yr amgueddfa a’u helpu i ddatblygu cysylltiadau â phroffesiwn ehangach amgueddfeydd a chyrff cefnogi.
Rôl y Mentor Achrediad yw rhoi arweiniad i gorff llywodraethu’r amgueddfa, nid cwblhau’r cais am Achrediad ar ei rhan.
Ymddiriedolwyr fel Mentoriaid
Gall ymddiriedolwr sydd â chefndir o fod yn weithiwr amgueddfaol proffesiynol ymgymryd â’r rôl ychwanegol o fod yn Fentor Achrediad os yw’n bodloni’r gofynion cymhwysedd ac yn cynnal ei Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Dylid ffurfioli’r trefniant i wahanu’r rôl gwneud penderfyniadau llywodraethu sydd gan yr ymddiriedolwr a’i rôl fel Mentor Achrediad.
Beth na fyddai disgwyl i mi ei wneud?
Nid oes disgwyl i Fentoriaid Achrediad wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau amgueddfeydd fel digwyddiadau, codi arian, stiwardio a gwneud te! Nid oes disgwyl iddynt gwblhau’r ffurflen Achrediad, yr amgueddfa sy’n gyfrifol am hyn.
Oni bai eu bod wedi’u penodi’n ffurfiol yn ymddiriedolwr, ni ddylai Mentor Achrediad fynychu pob cyfarfod o’r corff llywodraethu neu gallent gael eu dosbarthu’n gyfreithiol fel ymddiriedolwr de facto. Un cyfarfod y flwyddyn yw’r disgwyliad arferol. Disgwylir i amgueddfeydd dalu costau teithio a chynhaliaeth rhesymol er mwyn i’w Mentoriaid fynychu cyfarfodydd.
Ydw i’n gymwys?
Mae Safon Achredu Amgueddfeydd 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Fentoriaid Achrediad feddu ar y canlynol:
- o leiaf dair blynedd o brofiad o weithio mewn amgueddfeydd fel gweithiwr, ar lefel guradurol/reolaethol. Gall y profiad hwn fod mewn unrhyw un o’r tri maes o fewn y Safon: iechyd y sefydliad, rheoli casgliadau, neu ddefnyddwyr a’u profiadau
- ymrwymiad i ddysgu a datblygu personol i ddangos sut maen nhw’n cadw eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn gyfredol
Os nad ydych yn gymwys, efallai bod ffyrdd eraill i chi helpu amgueddfeydd. Cysylltwch â’ch darparwr cymorth agosaf ar gyfer y sector amgueddfeydd. Bydd ganddynt awgrymiadau.
Gallwch asesu eich sgiliau a’ch profiad ym meysydd y Safonau Achredu drwy ddefnyddio’r templed Adnodd hunanasesu sgiliau Achredu. Yna, chwiliwch am eraill a all helpu i gefnogi'r meysydd lle mae gennych lai o brofiad.
Sut mae dod yn Fentor Achrediad?
Fel arfer, mae swyddi gwag ar gyfer mentoriaid yn cael eu hysbysebu ar wefannau darparwyr cymorth y sector lleol neu ranbarthol. Gallwch hefyd gynnig eich gwasanaethau'n uniongyrchol i amgueddfa neu sôn am eich diddordeb mewn bod yn fentor i'ch darparwr cymorth sector agosaf. Maent yn siŵr o wybod am amgueddfeydd sydd angen mentor. Yna, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb.
Dylid dychwelyd y ffurflen at y corff asesu ar gyfer eich ardal chi:
Yr Alban
Orielau Amgueddfeydd yr Alban
accreditation@museumsgalleriesscotland.org.uk
Cymru
Llywodraeth Cymru
MuseumDevelopment@gov.wales
Gogledd Iwerddon
Cyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon
devofficer@nimc.co.uk
Lloegr
Cyngor Celfyddydau Lloegr
accreditation@artscouncil.org.uk
2. Bod yn Fentor Achrediad
Mae adnodd cyfochrog ‘Gweithio gyda’ch mentor’ ar gael ar gyfer amgueddfeydd sy’n cael eu mentora.
Beth sy’n ofynnol dan y Safon Achredu?
Mae’r Safon Achredu yn mynnu bod cyrff llywodraethu amgueddfeydd yn gallu cael cyngor gan weithiwr amgueddfaol proffesiynol. Mae cael Mentor Achrediad yn un o’r ffyrdd y gall sefydliad bach heb staff amgueddfaol proffesiynol gael mynediad at hyn.
Nid eich rôl chi fel Mentor Achrediad yw bod yn guradur di-dâl i’r amgueddfa. Yn hytrach, defnyddio eich amser mentora (ychydig ddyddiau'r flwyddyn fel arfer) i fod yn gyfaill beirniadol i'r corff llywodraethu, gan ddarparu arweiniad a chefnogaeth. Yr amgueddfa ei hun sy’n gyfrifol am fodloni’r Safon Achredu. Y disgwyliadau sylfaenol arnoch chi, fel Mentor Achredu, yw:
- mynychu o leiaf un cyfarfod ymddiriedolwyr y flwyddyn
- ymweld â’r amgueddfa o leiaf unwaith y flwyddyn, gan gwrdd ag aelodau o’r corff llywodraethu a’r gweithlu ehangach, e.e. staff neu wirfoddolwyr
- darparu cefnogaeth a chyngor ad hoc i’r amgueddfa sy’n cael ei mentora gennych i gefnogi ei thaith at Achrediad
- cymryd rhan mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus sy’n berthnasol i rôl Mentor Achrediad
Mae hyd a lled y Safon Achredu yn eang. Efallai bod gennych arbenigedd penodol mewn un rhan o hynny. I eraill, dylech gyfeirio’r amgueddfa at adnoddau a chyngor perthnasol, gan ddefnyddio eich gwybodaeth am y sector a’ch rhwydweithiau.
Dechrau cefnogi eich amgueddfa
Ar ôl cael eich paru ag amgueddfa, eich tasgau cyntaf fel Mentor Achrediad yw:
- penderfynu ar ddisgwyliadau clir ynghylch sut bydd y berthynas fentora’n gweithio’n ymarferol
- holi ble mae’r amgueddfa, o ran bod yn barod at Achrediad
Cyfarfod wyneb yn wyneb yw’r ffordd orau o wneud hyn fel arfer. Cwrdd â chynrychiolwyr y corff llywodraethu ar y safle yn yr amgueddfa. Mae hyn yn golygu bod modd gwneud y ddau beth canlynol:
- meithrin perthnasoedd
- cael profiad go iawn o drefniadaeth yr amgueddfa
Cyn y cyfarfod, meddyliwch am gwestiynau allweddol ar gyfer yr amgueddfa. Byddwch yn barod i lunio Cytundeb Mentora Achredu Amgueddfeydd drwy edrych dros y templed a ddarperir.
Cyn y cyfarfod cyntaf hwn, gwnewch yn siŵr bod gan eich cyswllt yn yr amgueddfa sy’n cael ei mentora gopi o’r ddogfen ‘Working with your Accreditation Mentor – a guide for museums’ a’i fod wedi’i darllen.
Dylai o leiaf un aelod o gorff llywodraethu’r amgueddfa ddod i’r cyfarfod cychwynnol hwn. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw’r amgueddfa wedi dirprwyo ei chais am Achrediad i wirfoddolwr nad yw’n aelod o’r Bwrdd, y Pwyllgor Rheoli neu gorff cyfatebol. Fel Mentor Achrediad, eich rôl yw cefnogi’r corff llywodraethu i weithio tuag at y Safon Achredu. Dyma lle dylai eich prif berthynas fod.
Cytundeb Mentora Achrediad Amgueddfeydd
Er mwyn osgoi problemau yn y berthynas fentora ymhellach ymlaen, penderfynwch ar ddisgwyliadau clir ar y cyd ar y dechrau. Mae’r templed wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddiffinio paramedrau o’r cychwyn cyntaf a sicrhau bod cyd-ddealltwriaeth o gyfrifoldebau’r Mentor Achrediad a’r Amgueddfa. Mae’r templed yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer amlygu:
- y profiad a’r wybodaeth sydd gennych fel Mentor Achrediad
- ffeithiau allweddol am yr amgueddfa, ei chasgliad, ei gwasanaethau a’i statws Achrediad
- rolau a chyfrifoldebau yn y berthynas fentora
Mae’r Cytundeb Mentora Achrediad Amgueddfeydd yn gosod disgwyliadau ar yr amgueddfa i’ch cynnwys yn rhagweithiol fel eu Mentor Achrediad. Er enghraifft, cyfrifoldeb yr amgueddfa yw eich gwahodd i gyfarfodydd y corff llywodraethu a chyfarfodydd allweddol eraill, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy anfon cofnodion cyfarfodydd a chylchlythyrau atoch.
Ymrwymiad Amser
Un agwedd hanfodol ar y Cytundeb yw gosod disgwyliadau clir, cyffredin ynghylch ymrwymiad amser y Mentor. Rhagwelir mai cyfanswm yr ymrwymiad ar gyfer Mentor Achrediad yw oddeutu pedwar diwrnod y flwyddyn.
Mae rhai pethau hanfodol, mynychu o leiaf un cyfarfod ymddiriedolwyr; ymweld â’r amgueddfa o leiaf unwaith (cwrdd ag aelodau’r gweithlu); cymryd rhan mewn DPP sy’n berthnasol i’r rôl; ysgrifennu adroddiad fel rhan o gais yr amgueddfa am Achrediad.
Cewch eich annog hefyd i ganiatáu rhywfaint o gymorth a chyngor ad hoc.
Mae eich amgueddfa’n debygol o werthfawrogi llawer o gefnogaeth gennych chi fel Mentor Achrediad, mwy o bosibl nag y gallwch ei gynnig yn realistig, ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill. Drwy fod yn glir am eich argaeledd a’ch ymrwymiad amser gallwch osgoi pwysau ar y berthynas. Byddwch yn agored am hyn a gosodwch derfynau clir ar y dechrau am yr adegau pan fyddwch ar gael.
Disgwyliwch fwy o alw arnoch chi y tro cyntaf y bydd eich amgueddfa sy’n cael ei mentora yn gwneud cais am Achrediad a phan fydd angen dychwelyd ffurflenni. Ymatebwch i geisiadau ad hoc heb adael iddynt wasgu allan eich gweithgareddau craidd fel Mentor Achrediad.
Nid oes disgwyl i berthnasoedd mentor barhau am byth. Fodd bynnag, os oes trosiant aml yn y Mentoriaid Achrediad gall hynny darfu a bod yn ddi-fudd i’r amgueddfa o ran cyflawni a chynnal Achrediad. Mae templed y Cytundeb Mentora Achrediad Amgueddfeydd yn eich annog chi a’r amgueddfa i gytuno ar hyd disgwyliedig y berthynas. Mater i'w drafod ar y cyd yw hyn, ac mae’n debyg bod rhywbeth rhwng 3 a 7 mlynedd yn rhesymol. Trefnwch i adolygu'r Cytundeb ar ôl rhyw 4 blynedd. Ystyriwch a oes cydweddiad da o hyd rhwng yr hyn sydd ei angen ar yr amgueddfa a’r hyn y gallwch chi ei gynnig.
Nid yw’r Cytundeb Mentora Achrediad Amgueddfeydd yn ddogfen gyfreithiol. Yn ogystal, dylai’r ddwy ochr lofnodi cytundeb gwirfoddoli safonol yr amgueddfa ei hun. Mae Mentoriaid Achrediad yn gweithredu’n wirfoddol ar gyfer yr amgueddfa. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych yn cyflawni’r rôl fel rhan o rôl gyflogedig yn rhywle arall. Er mwyn ffurfioli hyn, dylai’r amgueddfa eich cynefino gan ddefnyddio’i threfniadau gwirfoddoli ei hun a sicrhau eich bod wedi’ch diogelu’n briodol gan bolisïau yswiriant atebolrwydd yr amgueddfa.
Mewn rhai rhannau o’r DU, caiff rôl y Mentor Achrediad ei chyflawni o bryd i’w gilydd gan ddau weithiwr amgueddfaol proffesiynol neu fwy, sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi un amgueddfa. Er bod hyn yn gallu bod yn ffordd dda o rannu’r llwyth gwaith, mae’n galw am gydlynu a chyfathrebu clir. Er mwyn sicrhau llwyddiant mewn achosion o’r fath:
- diffiniwch yn glir beth yw’r rolau a’r disgwyliadau rhwng y Mentoriaid Achrediad a’r amgueddfa
- cynhaliwch gyfarfod cychwynnol gyda phob parti i gysoni nodau, trafod cyfrifoldebau, a mynd i’r afael â phryderon posibl. Gellir gwneud hyn ar-lein os oes angen, er mwyn darparu ar gyfer amserlenni pawb
- addaswch dempled Cytundeb Mentor Achrediad Amgueddfeydd er mwyn cynnwys nifer o fentoriaid
Asesu pa mor barod yw’r amgueddfa i gael Achrediad
Mae’r Safon Achredu yn darparu rhestr wirio ar gyfer archwilio pa mor barod yw’r amgueddfa i gael Achrediad yn y cyfarfod cyntaf. Mae’n tywys yr amgueddfa drwy bob eitem, gan archwilio:
- pa feysydd sy’n gryfderau i’r amgueddfa a pha rai sy’n feysydd datblygu allweddol?
- pa feysydd rai sy’n cael eu nodi fel rhai i’w datblygu drwy Flaengynllun/Cynllun Busnes yr amgueddfa – neu y cyfeirir atynt yn y llythyr canlyniad Achredu diwethaf?
- pa feysydd y gall y Mentor Achrediad roi cyngor arnynt?
- pa feysydd sydd angen mewnbwn ychwanegol gan rywun arall? Os felly, pwy?
Os oes modd, symudwch o gwmpas yr amgueddfa yn ystod eich trafodaethau, gan fynd i rannau o’r amgueddfa sy’n berthnasol i bob adran o’r Safon. Er enghraifft, rhowch sylw i ‘Defnyddwyr a’u Profiadau’ mewn ardal sy’n wynebu’r cyhoedd. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r amgueddfa ddangos ei harferion presennol ac mae’n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o sut mae’r amgueddfa’n gweithredu.
Mae’r Safon Achredu Amgueddfeydd wedi’i chynllunio i gynnwys sefydliadau cenedlaethol a sefydliadau bach sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae’r rhan fwyaf o amgueddfeydd sy’n cael eu mentora yn y categori olaf. Wrth ystyried pa mor barod ydynt ar gyfer Achrediad, byddwch yn realistig o ran eich disgwyliadau, yn seiliedig ar faint a chapasiti’r amgueddfa. Mae’r Dangosyddion Gallu Amgueddfeydd i Dyfu wedi’u cynllunio i helpu. Yn y canllawiau ‘Sut i Fodloni’r Safon’, mae gofynion tystiolaeth Achredu wedi’u teilwra yn ôl maint a math yr amgueddfa. Ar bob cyfri, anogwch yr amgueddfa i godi ei safonau. Ond cofiwch ei bod yn annheg disgwyl i amgueddfa gymunedol fach â gwirfoddolwyr yn unig gyflawni cymaint ag y gallai petai ganddi faint a gallu sefydliad proffesiynol sydd â dwsinau o staff.
Os yw’r amgueddfa sy’n cael ei mentora yn newydd i’r cynllun Achrediad, mae’n debyg y bydd angen i chi dreulio mwy o amser yn arwain eich cyswllt yn yr amgueddfa drwy’r gofynion a’r broses. Mae cyfres o ddeunydd penodol ar gyfer ‘Ymgeiswyr tro cyntaf’ ar gael yn y llyfrgell ganllawiau. Ar y llaw arall, os yw’r amgueddfa’n ceisio adnewyddu ei Hachrediad, anogwch eich cyswllt yn yr amgueddfa i edrych dros lythyr dyfarnu Achrediad diwethaf yr amgueddfa gyda chi, gan drafod yn benodol unrhyw Gamau Gofynnol neu Feysydd i’w Datblygu a restrwyd. (Sylwch: Meysydd i'w Gwella oedd yr hen enw.)
Rôl y Mentor yn y cais am Achrediad
Corff llywodraethu’r amgueddfa sy’n gyfrifol am baratoi a chyflwyno ceisiadau a ffurflenni Achrediad. Fel Mentor Achrediad, eich rôl chi yw cynnig arweiniad drwy ofynion a chamau’r broses. Rhaid i chi hefyd ddarparu adroddiad fel rhan o’r cyflwyniad.
Ble bynnag y maent yn y DU, mae amgueddfeydd yn cyflwyno eu cais neu eu ffurflen Achrediad drwy Grantium, sef porth ymgeisio Cyngor Celfyddydau Lloegr. Yna, caiff ei neilltuo i’r corff asesu perthnasol. Cyfrifoldeb yr amgueddfa, yn hytrach na’r Mentor Achrediad, yw paratoi a chyflwyno ffurflenni drwy’r porth. Gall y broses fod yn frawychus i rai amgueddfeydd, yn enwedig os nad yw aelodau’r corff llywodraethu’n hyderus gyda llwyfannau digidol. Gallwch gyfeirio at ganllawiau Grantium yn y llyfrgell canllawiau Achrediad; mae ‘Dechrau arni gyda Grantium’ yn arbennig o ddefnyddiol. Gallwch hefyd gyfeirio at Wasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Celfyddydau Lloegr, sydd wedi arfer helpu gydag ymholiadau Grantium. Os ydych yn gyfarwydd â Grantium eich hun, gallwch gynnig awgrymiadau. Fel Mentor Achrediad gallwch sefydlu eich proffil eich hun ar Grantium a gofyn am ddolen i un yr amgueddfa.
Adroddiad Mentor Achrediad
Un o ddisgwyliadau craidd y Mentor Achrediad yw llunio adroddiad ffurfiol a gyflwynir fel rhan o gais yr amgueddfa am Achrediad, naill ai ar gyfer cais newydd neu i’w adnewyddu. Darperir templed. Mae’r adroddiad yn amlinellu:
- eich ymgysylltiad â’r amgueddfa sy’n cael ei mentora
- eich barn am berfformiad yr amgueddfa o’i gymharu â gofynion y Safon Achredu.
Dylai’r adroddiad ddathlu llwyddiannau’r amgueddfa fel y maent yn berthnasol i’r Safon Achredu, a chynnig arfarniad gonest o’r Meysydd i’w Datblygu. Dylech fod wedi rhannu unrhyw bryderon â’r amgueddfa cyn ysgrifennu eich adroddiad, ni ddylai’r cynnwys beri syndod iddynt.
Bydd eich adroddiad yn cael ei ystyried gan asesydd Achredu, a fydd yn pwyso a mesur y dystiolaeth fod yr amgueddfa’n cael cyngor proffesiynol priodol, ac yn ystyried sut mae’r corff llywodraethu’n ymgysylltu â chi fel Mentor Achrediad, er enghraifft drwy gyfarfodydd ac ymweliadau safle.
Dylai eich adroddiad adlewyrchu’n deg beth yw maint yr amgueddfa sy’n cael ei mentora, fel y gwelir yn y canllawiau ‘Sut i Fodloni’r Safon’.
Nid yw’n orfodol i chi rannu’r adroddiad â’r amgueddfa ymlaen llaw. Gallwch ei gyflwyno ar Grantium neu gallwch ddewis ei anfon yn gyfrinachol at y corff asesu. Gall hwn fod yn benderfyniad sensitif i chi fel Mentor Achrediad, yn enwedig os oes meysydd sylweddol i’w gwella nad yw’r amgueddfa wedi rhoi sylw iddynt. Yn ddelfrydol, dylech geisio rhannu drafft o’r adroddiad gyda’r amgueddfa ymlaen llaw a’i drafod gyda’ch gilydd cyn y dyddiad cau. Mae hyn yn galluogi'r amgueddfa i ddysgu o’ch asesiad ac ystyried sut i wella.
Delio â Meysydd i’w Datblygu
Mae helpu’r amgueddfa i gydnabod a deall ei chryfderau a’i gwendidau yn rhan ganolog o’ch rôl fel Mentor Achrediad.
Yn gyffredinol, bydd cyrff llywodraethu amgueddfeydd yn falch iawn o glywed eich adborth ar feysydd ymarfer y maent yn dda ynddynt. Gall fod yn fwy heriol trafod y pethau sydd ddim cystal.
Cofiwch mai llafur cariad i griw bach o wirfoddolwyr ymroddedig yw llawer o’r amgueddfeydd sy’n cael eu mentora. Gallent fod yn arbennig o sensitif i feirniadaeth ganfyddedig. Fodd bynnag, ni all Mentoriaid Achrediad anwybyddu pethau sy’n cael eu gwneud yn wael. Mae’r Cynllun Achredu Amgueddfeydd yn ymwneud â chefnogi a chynnal arferion da, sicrhau bod amgueddfeydd yn cael eu llywodraethu’n briodol, rheoli eu casgliadau’n briodol ac ymgysylltu ag ymwelwyr.
Gall rhai amgueddfeydd gyflawni’n dda ar draws y rhan fwyaf neu holl ofynion y Safon Achredu. Ond i lawer, bydd meysydd i'w datblygu er mwyn bodloni’r Safon a sicrhau Achrediad.
Dyma rai technegau y gallwch eu defnyddio i roi adborth gonest ond sensitif:
- meithrin ymddiriedaeth: Dangoswch ddiddordeb gwirioneddol yn yr amgueddfa a’i thîm. Rhowch ddigon o adborth cadarnhaol ar bethau sy’n mynd yn dda
- annog hunan-arfarniad yn y lle cyntaf: Gall ‘Gosod trefn yn hytrach na Sgôr’ fod yn ffordd dda o dynnu’r emosiwn allan o hunan-arfarnu. Er enghraifft, yn hytrach na gofyn i’r corff llywodraethu a yw’n gwneud yn dda neu’n wael yn erbyn pob gofyniad, gofynnwch iddynt roi’r gofynion mewn trefn, o’r un y mae’n meddwl y mae’r amgueddfa’n ei wneud orau i’r un lle y mae’n gwneud leiaf da
- bod yn adeiladol: ar ôl tynnu sylw at faes i’w wella, cynigiwch awgrym ymarferol ynghylch sut gallai’r amgueddfa ddechrau gwella pethau. Ystyriwch rannu enghraifft o arferion da amgueddfa debyg ei maint. Neu cyfeiriwch nhw at becyn cymorth perthnasol
- cysylltu’r adborth â’r adran berthnasol yn y Safon a’r canllawiau ac ailbwysleisiwch fanteision Achrediad
- er enghraifft, dangoswch adran 3.3 ‘Sut i Fodloni’r Safon’ a dywedwch: ‘i gyrraedd y safon, rhaid i’r cynllun argyfwng gwmpasu holl adeiladau’r amgueddfa. Mae cynllun argyfwng cyfredol yr amgueddfa yn cynnwys yr amgueddfa ei hun ond nid y storfa wrth gefn sydd rownd y gornel. Mae angen ychwanegu adran ar gyfer yr adeilad hwnnw.’
- osgoi drama: Os mai’r ymateb i awgrym ar gyfer gwella yw sgwrs am bwy sydd ar fai, gallwch atgoffa’r amgueddfa mai cyfrifoldeb holl aelodau’r corff llywodraethu ar y cyd yw hyn fel arfer. Byddwch yn ddiduedd, arhoswch yn niwtral a pheidiwch â chael eich tynnu i densiynau rhwng aelodau o dîm yr amgueddfa
Sylwch: Roedd Meysydd i’w Datblygu yn arfer cael eu galw’n Feysydd i’w Gwella, ac mae’n bosibl mai fel hynny y cawsant eu disgrifio yn llythyr canlyniad yr asesiad diwethaf.
Darparu cymorth ad hoc ac o bell
Rydych yn debygol o gynnig rhywfaint o gymorth ad hoc i’r amgueddfa rhwng yr ymweliadau a’r cyfarfodydd ‘craidd’. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys ymateb i geisiadau am gyngor proffesiynol ar amrywiaeth o feysydd ymarfer. Dylech chi wneud eich gorau glas o fewn yr amser disgwyliedig o bedwar diwrnod y flwyddyn sydd ar gael ar gyfer eich rôl.
Nid oes disgwyl i chi roi cyngor manwl i ymateb i bob ymholiad a allai fod gan yr amgueddfa. Mae’r un mor bwysig cyflwyno neu gyfeirio’r amgueddfa at ffynonellau eraill o gymorth neu adnoddau perthnasol. Er enghraifft, anfon y ddolen uniongyrchol at dempled neu adnodd canllaw arbennig o berthnasol. Peidiwch â diystyru pa mor gyfarwydd ydych chi (o’i gymharu â’ch cyswllt yn yr amgueddfa) â’r hyn y mae pob corff cymorth sector yn ei gynnig, neu lle gellir dod o hyd i ddogfen ddefnyddiol. Trwy ddiffiniad, mae Mentoriaid Achredu wedi’u gwreiddio yn y proffesiwn amgueddfeydd, felly maent yn aml yn ei chael yn llawer haws dod o hyd i adnoddau’r sector na gwirfoddolwyr.
Efallai y bydd yr amgueddfa sy’n cael ei mentora gennych yn gofyn am ymweliadau safle ychwanegol pan fyddai galwad ffôn, cyfnewid dogfennau’n ddigidol neu gymorth arall o bell gystal ac yn fwy effeithlon o ran amser. Efallai y bydd gan rai amgueddfeydd llai o faint, sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, lai o brofiad gyda thechnoleg o’i gymharu â sefydliadau mwy. Drwy gyflwyno ac annog defnyddio offer digidol yn raddol ar gyfer cyfathrebu a chymorth, gallwch helpu i feithrin eu hyder a’u sgiliau. Mae'r dull hwn yn gwneud y defnydd gorau o'ch amser a hefyd yn grymuso'r amgueddfa i fod yn fwy effeithiol wrth ddelio â byd sy'n mynd yn fwyfwy digidol.
Blwyddyn ym mywyd Mentor Achrediad
Dechrau perthynas fentora
- Ymweliad â'r amgueddfa gan gynnwys y tu ôl i'r llenni.
- Cyfarfod cychwynnol gyda chynrychiolwyr y corff llywodraethu.
- Meithrin perthynas.
- Llunio Cytundeb Mentora o dan y Cynllun Achredu Amgueddfeydd gan ddefnyddio'r templed.
- Penodi Mentor Achredu wedi'i ffurfioli gan y corff llywodraethu.
Blwyddyn arferol
- Mynychu o leiaf un o gyfarfodydd y corff llywodraethu.
- Ymweld â'r amgueddfa o leiaf unwaith.
- Cynnig arweiniad proffesiynol trwy ofynion a chamau'r broses Achredu Amgueddfeydd.
- Cyfeirio at gysylltiadau â ffynonellau eraill o arbenigedd proffesiynol, cymorth ac adnoddau, a'u datblygu.
- Darllen papurau'r Bwrdd.
- Cofnodi rhyngweithiadau.
- Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol perthnasol i gadw sgiliau a gwybodaeth yn gyfredol.
- Gwerthuso ar ac adolygu'r berthynas fentora.
Yn ychwanegol, yn ystod blwyddyn pan wneir cais neu ffurflen adroddiad
- Adroddiad Mentor Achredu.
Dod â'r berthynas fentora i ben
- Ystyriwch y rhesymau dros ddod â'r berthynas i ben (e.e. anghenion cymorth yr amgueddfa wrth i'r rheini ddatblygu, neu ni all mentor gynnal yr ymrwymiad mwyach).
- Cyfarfod adolygu/gwerthuso terfynol.
- Cefnogi'r amgueddfa i ddod o hyd i Fentor Achredu newydd os oes angen.
- Hysbysu'r sefydliad asesu perthnasol.
Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi fel Mentor Achrediad, a chan bwy?
Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i Fentoriaid Achrediad, yn dibynnu ar ble rydych chi yn y DU. Mae hyn fel arfer yn cynnwys canllawiau ar-lein, sesiynau datblygu neu gynghorwr gwybodus a all wrando arnoch chi. I gael gwybod mwy:
Yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â’r corff asesu:
Yr Alban
Orielau Amgueddfeydd yr Alban
accreditation@museumsgalleriesscotland.org.uk
Cymru
Llywodraeth Cymru
MuseumDevelopment@gov.wales
Gogledd Iwerddon
Cyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon
devofficer@nimc.co.uk
Yn Lloegr, cysylltwch â’r darparwr Datblygu Amgueddfeydd perthnasol. Mae rhestr o’r darparwyr rhanbarthol ar gael yma.
Oherwydd ehangder yr ymarfer sy’n rhan o’r cynllun Achredu, nid yw’r ddogfen hon yn ceisio cynnwys cyngor penodol ar bob maes y gallai amgueddfa fod angen eich cymorth chi arno. Byddai hynny’n golygu dyblygu’r adnoddau Achredu helaeth sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer amgueddfeydd, a chanllawiau perthnasol am lywodraethu nid-er-elw. Dyma rai adnoddau a dolenni a argymhellir:
- Llyfrgell canllawiau Achredu ACE
- Tudalennau Achredu’r Ymddiriedolaeth Casgliadau
- NCVO Help and Guidance: Governance
- Canllawiau SCVO: Good Governance
- Canllawiau'r Comisiwn Elusennau
- Rhwydweithiau Arbenigwyr Pwnc
- Canllawiau Llwyddiant AIM
Rheoli newid
Byddwch yn barod i weld amrywiaeth o newidiadau’n digwydd yn ystod eich cyfnod fel Mentor Achrediad i unrhyw amgueddfa. Gellir mynd i’r afael â meysydd datblygu achrediad yn llwyddiannus a bydd rhai newydd yn codi. Gall trosiant yn y corff llywodraethu olygu eich bod yn cael pwynt cyswllt newydd yn yr amgueddfa. Bydd rhai newidiadau yn gofyn am ailgychwyn y berthynas ac ailbennu disgwyliadau. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yn ddefnyddiol adolygu a diweddaru’r Cytundeb Mentora Achrediad Amgueddfeydd.
Mae’n ofynnol i amgueddfa roi gwybod i’r corff asesu perthnasol am unrhyw newidiadau mawr a allai effeithio ar ei chydymffurfiad â’r Safon Achredu. Rhai enghreifftiau yw newidiadau llywodraethu mawr neu fod ar fin cau. Yr amgueddfa sy’n gyfrifol am hysbysu. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau eithriadol efallai y dowch yn ymwybodol o sefyllfa lle nad yw’r amgueddfa mewn sefyllfa i hysbysu’r corff asesu. Efallai fod yr Ymddiriedolwyr yn gwrthod hysbysu neu fod y corff llywodraethu cyfan wedi ymddiswyddo. Os oes modd, ceisiwch annog yr amgueddfa i hunan-adrodd. Rhowch sicrwydd fod y corff asesu yno i helpu a chynghori ar y camau nesaf. Os nad yw hyn yn gweithio, dylech gysylltu â’r corff asesu eich hun.
Heriau o ran perthynas â’r mentor
Mae gan eich Cytundeb Mentor Achrediad ran hanfodol i’w chwarae yn sefydlu’r berthynas fentora fel ei bod yn llwyddo. Edrychwch arno eto gyda’r amgueddfa o bryd i’w gilydd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod disgwyliadau’r naill ochr a’r llall yn parhau i fod yn gyfredol a bod unrhyw gamddealltwriaeth yn cael ei osgoi.
Fodd bynnag, wrth fentora, gall problemau godi o bryd i’w gilydd. Fel arfer, mae'r rhain yn deillio o wahaniaethau mewn disgwyliadau, personoliaethau neu arddulliau cyfathrebu. Nid yw’n anghyffredin i amgueddfeydd ymwrthod â rhywfaint o’r cyngor y mae eu Mentor Achrediad yn ei gynnig. Gall sylfaenwyr neu wirfoddolwyr hirsefydlog fod yn arbennig o sensitif i feirniadaeth ganfyddedig o'u gwaith os ydynt wedi rhoi blynyddoedd o ymroddiad i greu a chynnal yr amgueddfa.
Gall trosiant ymddiriedolwyr neu wirfoddolwyr yn yr amgueddfa olygu bod tasgau fel gwahodd y Mentor Achrediad i gyfarfodydd neu anfon cylchlythyrau atynt yn cael eu hanghofio.
Mae gennych chi a’r amgueddfa gyfrifoldeb i gyfrannu at gadw’r berthynas yn adeiladol. Mewn llawer o achosion, gellir goresgyn heriau drwy ymdrech ar y cyd i gadw llinellau cyfathrebu ar agor, darparu adborth adeiladol, a bod yn hyblyg.
Gallwch gyfrannu at ddatrys tensiynau drwy eu crybwyll yn sensitif i’ch prif gyswllt yn yr amgueddfa. Weithiau mae enwi sefyllfa a bod yn chwilfrydig amdani yn ddigon i ddechrau trafodaeth ddefnyddiol. Er enghraifft, gallech ddweud eich bod wedi sylwi na weithredwyd ar sail eich cyngor ar fater proffesiynol, a gofyn pam. Rhowch gyfle i’ch cyswllt yn yr amgueddfa egluro beth sy’n digwydd ar eu hochr nhw. Fel cam nesaf, gallwch awgrymu adolygu'r cytundeb Mentora gyda'ch gilydd, er mwyn gloywi dealltwriaeth y ddwy ochr o nodau a pharamedrau'r berthynas.
Pan fo gwrthdaro yn y berthynas yn parhau i fod yn anorchfygol er gwaethaf pob ymdrech, efallai y bydd angen i chi gynnwys y corff cefnogi neu asesu lleol. Efallai y byddan nhw’n gallu helpu i hwyluso sgwrs sy’n rhoi pethau ar sylfaen well.
Dod â'r berthynas i ben
Yn y pen draw, bydd hyd yn oed y berthynas fentora sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i bawb yn dod i ben. Mae hyn yn rhywbeth i’w ddisgwyl ac ni ddylid ei ystyried yn fai neu’n fethiant personol.
Fel arfer, mae perthnasoedd mentora Achrediad yn dod i ben oherwydd:
- mae anghenion cymorth yr amgueddfa wedi datblygu fel nad yw arbenigedd y mentor yn gweddu’n dda mwyach
- mae sgiliau’r mentor wedi datblygu ac mae amgueddfa wahanol yn fwy addas ar eu cyfer
- mae gwaith neu amgylchiadau personol y mentor wedi newid ac ni all gynnal yr ymrwymiad mwyach. Mae gweithiwr amgueddfaol proffesiynol wedi ymuno â staff neu gorff llywodraethu’r amgueddfa, felly nid oes angen mentor mwyach
- yn achlysurol iawn, gall perthynas ddod i ben oherwydd anghytundeb difrifol neu ddiffyg cyfathrebu
Gall y naill barti neu’r llall ddod â’r berthynas i ben. Yn hytrach na gadael i’r berthynas chwythu ei phlwc yn raddol, mae’n fuddiol i’r mentor a’r amgueddfa ddod â hi i ben drwy ddulliau rheoli da. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd angen i’r amgueddfa benodi Mentor Achrediad arall er mwyn parhau i gydymffurfio ag Achrediad. Argymhellir eich bod yn cynnal cyfarfod terfynol er mwyn:
- adolygu’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod y mae’r mentor a’r amgueddfa wedi bod yn cydweithio
- ystyried beth oedd yn ddefnyddiol i bob parti am y berthynas a beth allai fod wedi bod yn wahanol
- cytuno ar unrhyw gamau dilynol, e.e. pwy fydd yn hysbysu’r corff cefnogi neu asesu lleol
- ystyried a oes ffyrdd y gallwch chi a’r amgueddfa barhau i gefnogi eich gilydd. Er enghraifft, efallai y gallwch awgrymu cydweithiwr i ymgymryd â rôl Mentor Achrediad. Efallai y bydd yr amgueddfa’n cynnig rhoi geirda i chi
Diolch yn fawr am gefnogi amgueddfeydd drwy eich gwaith fel mentor Achrediad. Bydd yr wybodaeth a’r arbenigedd sydd gennych yn helpu amgueddfa fach i ffynnu.
