Diweddariad: Cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau GIG Cymru 2025 i 2026 (WHC/2025/042)
Mae’r diweddariad hwn i’r cynllun blynyddol yn cynnwys rhwydweithiau a rhaglenni o dan Berfformiad a Gwella GIG Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Gwybodaeth neu weithredu.
Categori:
Llythyr gweithwyr iechyd proffesiynol.
Teitl:
Cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau GIG Cymru a rhaglen dreigl flynyddol ar gyfer 2025 i 2026.
Dyddiad dod i ben neu ddyddiad yr adolygiad:
Ebrill 2026.
I’w weithredu gan:
- Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG.
- Arweinwyr clinigol cenedlaethol.
Angen gweithredu erbyn:
Amherthnasol.
Er gwybodaeth:
- Prif weithredwyr.
- Cyfarwyddwyr meddygol.
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol.
Anfonir gan:
Yr Athro Isabel Oliver, Brif Swyddog Meddygol.
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Is-adran Ansawdd a Nyrsio
Llywodraeth Cymru
wgclinicalaudit@llyw.cymru
Dogfennau amgaeedig:
Cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau GIG Cymru: treigl blynyddol rhaglen o 2025 i 2026.
Cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau GIG Cymru: treigl blynyddol rhaglen o 2025 i 2026
Annwyl gydweithwyr,
Mae'n ofynnol i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd Cymru gyfranogi'n llawn ym mhob archwiliad ac adolygiad canlyniadau a restrir yn y Cynllun blynyddol ar gyfer archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau. Mae'r cylchlythyr hwn yn darparu copi o'r Cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau ar gyfer 2025 i 2026, a fydd ar gael hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae archwiliadau clinigol cenedlaethol yn ffynhonnell wybodaeth bwysig sy'n anelu at fesur a meincnodi gwelliannau i wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Defnyddir setiau data'r archwiliadau i asesu ansawdd ac effeithiolrwydd y gofal iechyd a ddarperir gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, a thrwy gyfuno hynny â'r camau gwella priodol, gallant wneud gwahaniaeth mawr i sut yr ydym yn darparu gwasanaethau. Mae'n hanfodol bod pob rhan o GIG Cymru yn cyfranogi'n llawn yn y rhaglen genedlaethol.
Mae'r diweddaru cynllun yn rhoi manylion am rôl pob un ohonom wrth symud ymlaen â'r gwaith hwn, ac mae'n cynnwys rhestr o archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygiadau o ganlyniadau y mae'n rhaid i sefydliadau gofal iechyd gymryd rhan lawn ynddynt wrth ddarparu eu gwasanaethau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun blynyddol, dylech e-bostio: wgclinicalaudit@llyw.cymru.
Yn gywir
Yr Athro Isabel Oliver
Brif Swyddog Meddygol
