Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS), a gynhelir a’i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yw’r brif ffynhonnell ar gyfer data gweithlu meddygaeth deulu a ddefnyddir o fewn yr ystadegau yma.

Prif bwyntiau

  • Ar 30 Mehefin 2025, roedd 1,572 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn darparu gofal iechyd o 370 o practisau cyffredinol yng Nghymru.
  • Roedd sef gostyngiad blynyddol o 34 (2.1%) yn nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig ac roedd gostyngiad o 2 (0.5%) yn nifer y practisau cyffredinol o 30 Mehefin 2024 ymlaen.

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu, roedd:

  • 999 o feddygon teulu sy’n bartneriaid FTE, sef gostyngiad o 3.5%.
  • 467 o feddygon teulu cyflogedig FTE, sef cynnydd o 11.8%.
  • 96 o feddygon teulu locwm FTE wedi gweithio yn ystod y chwarter, sef gostyngiad o 32.6%.
  • 11 o feddygon teulu wrth gefn FTE, sef gostyngiad o 1.

Ochr yn ochr â meddygon teulu cwbl gymwysedig, roedd:

  • 417 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) FTE, sef cynnydd o 0.8%.
  • 991 o nyrsys cofrestredig FTE, sef gostyngiad o 4.7%.
  • 929 o staff gofal uniongyrchol i gleifion FTE (gan gynnwys staff fel cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef gostyngiad o 3.9%.
  • 3,924 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill FTE, sef gostyngiad o 0.8%.

Os nad oes cytundeb rhwng bwrdd iechyd lleol a phartner meddygaeth deulu, gall y bwrdd iechyd reoli practis meddyg teulu yn uniongyrchol. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi staff yn uniongyrchol, ac mae’r practis yn cael eu harwain fel arfer gan feddygon teulu ar gyflog neu feddygon teulu locwm.

Ar 30 Mehefin 2025, roedd 24 o bractisau’n cael eu rheoli gan fwrdd iechyd lleol, sef cynnydd o 4. Roedd y practisau hyn yn cyflogi 79 o feddygon teulu cwbl gymwysedig FTE a 412 o staff practis ehangach FTE. Mae’r staff hyn wedi’u cynnwys yn y cyfansymiau ar gyfer staff.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Dyma’r datganiad olaf lle defnyddir data sy’n dod o System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) gan ei bod, erbyn hyn, wedi’i disodli gan system debyg o’r enw System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol (PCWIS). Bydd y datganiad nesaf, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ddechrau 2026, yn seiliedig ar ddata PCWIS. Cyn ei gyhoeddi, bwriedir dilysu data PCWIS am gyfnod estynedig, ond disgwylir y bydd data PCWIS yn debyg i ddata WNWRS.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jacob Squires
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099