Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd wedi ei gynnwys yn y telerau hyn?

Mae'r telerau hyn yn egluro'r rheolau sy'n ymwneud â'ch mynediad i Storfa Ddiogelu Cymru a'ch defnydd ohoni.

Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni

Caiff Storfa Ddiogelu Cymru ei gweithredu gan Brifysgol Caerdydd yn 30 i 36 Newport Road, Caerdydd, CF24 0DE a Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

I gysylltu â ni, anfonwch e-bost i ADUSCymru@llyw.cymru.

Wrth ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru, rydych chi'n derbyn y telerau hyn

Wrth ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru, rydych chi'n cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a'ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.

Os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau hyn, peidiwch â defnyddio Storfa Ddiogelu Cymru.

Y defnydd o Storfa Ddiogelu Cymru a ganiateir

I fod â hawl i ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru, rhaid ichi fod yn ddefnyddiwr cymeradwy a rhaid i'ch defnydd fod at ddiben a ganiateir.

I fod yn ddefnyddiwr cymeradwy, rhaid ichi gofrestru â Hwb Cydgysylltu ADUS (Adolygiad Diogelu Unedig Sengl) a fydd yn rhoi enw defnyddiwr a thocyn cofrestru ichi. Dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio'r tocyn cofrestru i gael mynediad i Storfa Ddiogelu Cymru. Ar y tro cyntaf hwn, rhaid ichi greu cyfrinair ar gyfer mewngofnodi yn y dyfodol. Bydd y manylion mewngofnodi hyn yn para am gyfnod o 12 mis.

Dim ond ar gyfer y dibenion a ganiateir a ganlyn y gall defnyddiwr cymeradwy ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru:

  • nodi dysgu sylfaenol o adolygiadau blaenorol yn rhan o'r ADUS parhaus ac i lywio'r gwaith o lunio Cylch Gorchwyl yr Adolygiad drwy dynnu sylw at argymhellion blaenorol y dylid eu hystyried
  • gwella ymarfer diogelu a dysgu gweithwyr proffesiynol megis swyddogion yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol a'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • llunio adroddiadau thematig blynyddol
  • ymchwilio i themâu sy'n dod i'r amlwg
  • dadansoddi anghenion o ran hyfforddiant
  • dadansoddi adolygiadau hanesyddol a chanfod data
  • hwyluso ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • nodi canllawiau arferion da a'u llunio

Ni chaniateir defnyddio Storfa Ddiogelu Cymru at unrhyw ddiben arall o gwbl heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw Uwch Reolwr Polisi Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, ADUSCymru@llyw.cymru, Hwb Cydgysylltu ADUS, a all atal cydsyniad neu osod amodau mewn perthynas â'r cydsyniad yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt.

Cyfrinachedd deunyddiau sydd ar gael ar Storfa Ddiogelu Cymru

Rydych chi'n cydnabod natur sensitif iawn y deunyddiau a gedwir ar Storfa Ddiogelu Cymru.

Peidiwch â cheisio ôl-beiriannu hunaniaeth personau y cyfeirir atynt yn Storfa Ddiogelu Cymru.

Peidiwch â datgelu, i unrhyw berson, unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag adroddiad ADUS (neu Adolygiad Ymarfer Oedolion, Adolygiad Ymarfer Plant, Adolygiad Lladdiad Domestig neu Adolygiad Lladdiad Iechyd Meddwl) na gwybodaeth sensitif yn ymwneud ag unrhyw berson neu bersonau y cyfeirir atynt yn Storfa Ddiogelu Cymru nad yw eisoes ar gael yn eang ar gyfer y cyhoedd.

Gallwn newid y telerau hyn

Efallai y byddwn yn diwygio'r telerau hyn o bryd i'w gilydd. Bob tro y byddwch yn dymuno defnyddio Storfa Ddiogelu Cymru, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy'n gymwys bryd hynny.

Gallwn wneud newidiadau i Storfa Ddiogelu Cymru

Gallwn ddiweddaru a newid Storfa Ddiogelu Cymru o bryd i'w gilydd, fel y credwn sy'n briodol yn ôl ein disgresiwn absoliwt, er mwyn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth, arferion da, profiadau ein defnyddwyr, technoleg neu unrhyw reswm arall. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol ichi am unrhyw newidiadau sylweddol.

Gallwn atal neu dynnu Storfa Ddiogelu Cymru yn ei hôl

Mae Storfa Ddiogelu Cymru ar gael yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr cymeradwy.

Nid ydym yn gwarantu y bydd Storfa Ddiogelu Cymru, nac unrhyw gynnwys ynddi, ar gael bob amser neu ar gael yn ddi-dor. Ar unrhyw adeg, gallwn atal, tynnu'n ôl neu gyfyngu ar argaeledd y storfa gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Gallwn drosglwyddo'r cytundeb hwn i rywun arall

Gallwn drosglwyddo ein hawliau a'n rhwymedigaethau o dan y telerau hyn i sefydliad neu sefydliadau eraill neu dim ond i un ohonom.

Rhaid ichi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel

Os rhoddir enw defnyddiwr a thocyn i gofrestru defnyddiwr neu greu cyfrinair ichi yn rhan o'n gweithdrefnau diogelwch neu gofrestru, rhaid ichi drin gwybodaeth o'r fath yn gyfrinachol. Ni ddylech ei rhannu ag unrhyw drydydd parti a rhaid ichi wneud eich gorau i gadw'r wybodaeth yn ddiogel.

Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw enw defnyddiwr, tocyn cofrestru neu gyfrinair ar unrhyw adeg, ni waeth a ddewiswyd nhw gennych chi neu a ddyrannwyd nhw gennym ni, os ydych chi, yn ein barn resymol ni, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau defnyddio hyn.

Os ydych chi'n amau neu'n gwybod bod rhywun arall yn gyfarwydd â'ch tocyn cofrestru, enw defnyddiwr neu gyfrinair, rhowch wybod inni ar unwaith drwy anfon e-bost i ADUSCymru@llyw.cymru.

Hyd y cofrestriad

Bydd eich cofrestriad yn para am 12 mis, ac wedi'r cyfnod hwn, bydd rhaid ichi ei adnewyddu. Byddwn yn rhoi gwybod ichi am yr angen i adnewyddu yn agosach at y dyddiad perthnasol.

Disgwylir ichi gwblhau arolwg a'i ddychwelyd ar ddiwedd eich cofrestriad blynyddol a chyn dechrau cofrestriad newydd.

Sut y gallwch ddefnyddio deunyddiau Storfa Ddiogelu Cymru

Dim ond at y dibenion a ganiateir uchod y cewch ddefnyddio deunyddiau a data Storfa Ddiogelu Cymru ac ni chewch eu defnyddio at unrhyw ddiben arall o gwbl.

Ni yw perchennog neu drwyddedai pob hawl eiddo deallusol yn Storfa Ddiogelu Cymru, yn ogystal â'r deunyddiau a'r data sydd ar gael arni neu drwyddi. Mae'r gweithiau hynny wedi eu diogelu gan gyfraith hawlfraint a hawliau cronfa ddata. Mae'r holl hawliau hynny'n rhai neilltuedig.

Caniateir ichi edrych ar ddeunyddiau yn y syllwr dogfennau neu lawrlwytho unrhyw ddogfennau adolygiadau ymarfer gwreiddiol y mae gennych fynediad iddynt. Caniateir ichi allgludo ac arbed unrhyw ganlyniadau chwilio. Peidiwch ag addasu unrhyw ddeunyddiau neu ddata sydd ar gael ar Storfa Ddiogelu Cymru neu drwyddi.

Allbynnau defnyddwyr Storfa Ddiogelu Cymru

Os ydych chi'n creu allbwn gan ddefnyddio gwybodaeth o Storfa Ddiogelu Cymru, er enghraifft, adroddiad neu gyhoeddiad thematig neu sy'n seiliedig ar bwnc at ddibenion ymchwil neu bolisi neu ddysgu ymarferwyr, rhaid ichi anfon copi o'r adroddiad neu'r cyhoeddiad i Hwb Cydgysylltu ADUS: ADUSCymru@llyw.cymru. Rhaid ichi gytuno â'r canlynol:

  • fel awdur yr allbwn newydd, byddwch yn sicrhau bod risgiau datgelu wedi eu hystyried yn llawn wrth ddefnyddio deunyddiau Storfa Ddiogelu Cymru gydag unrhyw ddeunyddiau allanol eraill a ddefnyddir; byddwch yn sicrhau nad yw manylion adnabod unrhyw unigolion y cyfeirir atynt yn Storfa Ddiogelu Cymru wedi eu hailnodi yn yr allbwn newydd
  • gall adroddiad neu gyhoeddiad o'r fath gael ei ddefnyddio gan Hwb Cydgysylltu ADUS i rannu unrhyw ddysgu thematig yn ehangach, ac i'r graddau y mae unrhyw hawliau eiddo deallusol wedi eu cynnwys mewn dogfen o'r fath, rydych chi'n rhoi hawl barhaol a therfynol i ni a'r Hwb Cydgysylltu rannu a chyfeirio at adroddiadau o'r fath
  • dylid gwneud awduraeth allbynnau yn glir yn ogystal â chydnabod cyfraniad Storfa Ddiogelu Cymru sydd wedi ei gynnwys yn y ddogfen

Sut i adrodd am wallau a bygiau

Os dewch o hyd i wallau neu fygiau sy'n effeithio ar Storfa Ddiogelu Cymru, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ADUSCymru@llyw.cymru.

Nid ydym yn gwarantu y bydd Storfa Ddiogelu Cymru heb wallau na bygiau. Nid ydym ychwaith yn ymrwymo i ymateb i adroddiadau am wallau a bygiau o fewn amser penodol, er gallwch nodi ei bod o fantais inni yn gyffredinol i sicrhau hyder a dibynadwyedd Storfa Ddiogelu Cymru.

Ein cyfrifoldeb am golledion neu ddifrod a brofir gennych chi

Nid ydym mewn unrhyw ffordd yn diystyru nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd ichi lle y byddai'n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantau neu is-gontractwyr ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.

Rydym yn eithrio'r holl amodau, gwarantau, sylwadau neu delerau eraill ymhlyg a allai fod yn gymwys i Storfa Ddiogelu Cymru neu unrhyw gynnwys ynddi.

Ni fyddwn yn atebol ichi am unrhyw golledion neu ddifrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os yw'n rhagweladwy, sy'n codi o dan neu mewn cysylltiad â'r canlynol:

  • defnyddio Storfa Ddiogelu Cymru neu anallu i'w defnyddio
  • ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a ddangosir ar Storfa Ddiogelu Cymru

Yn arbennig, ni fyddwn yn atebol am y canlynol:

  • colli elw, gwerthiant, busnes, neu refeniw
  • aflonyddu ar eich busnes
  • colli arbedion a ragwelir
  • colli cyfleoedd busnes, ewyllys da neu enw da
  • colli data gan gynnwys colli unrhyw ddogfen thematig
  • unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol

Eich data personol

Byddwn yn prosesu eich data personol ar ran Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun eich defnydd o storfa ddiogelu Cymru. Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer storfa ddiogelu Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y defnyddir eich data personol a'ch hawliau cyfreithiol o ran eich data personol, ewch i hysbysiad preifatrwydd y storfa ddiogelu Cymru.

Uwchlwytho cynnwys i Storfa Ddiogelu Cymru

Oni bai eich bod yn cael eich cyflogi gan Hwb Cydgysylltu ADUS neu yn aelod o Dîm Storfa Ddiogelu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, peidiwch ag uwchlwytho neu geisio uwchlwytho unrhyw gynnwys i Storfa Ddiogelu Cymru.

Peidiwch â dileu nac addasu, na cheisio dileu nac addasu, unrhyw gynnwys presennol Storfa Ddiogelu Cymru.

Nid ydym yn gyfrifol am feirysau ac ni ddylech eu cyflwyno

Nid ydym yn gwarantu y bydd Storfa Ddiogelu Cymru heb feirysau nac yn ddiogel rhagddynt.

Chi sy'n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich platfform a'ch rhaglenni cyfrifiadurol i gael mynediad i Storfa Ddiogelu Cymru. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd gwrthfeirysau eich hun.

Peidiwch â chamddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru drwy gyflwyno feirysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol.

Peidiwch â cheisio cael mynediad heb awdurdod i Storfa Ddiogelu Cymru, i'r gweinydd y mae Storfa Ddiogelu Cymru yn cael ei storio arno, nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â Storfa Ddiogelu Cymru. Ni ddylech ymosod ar Storfa Ddiogelu Cymru drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig. Drwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd am unrhyw dor cyfraith o'r fath i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu iddynt pwy ydych chi. Mewn achos o dor cyfraith o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru yn dod i ben ar unwaith.

Deddfau pa wlad sy'n gymwys i unrhyw anghydfodau?

Caiff y telerau defnyddio hyn, eu pwnc a'u ffurfiad (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebol) eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr fel y'u cymhwysir yng Nghymru. Rydych yn cytuno i awdurdodaeth gyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr sy'n eistedd yng Nghaerdydd.